Ewch i’r prif gynnwys

Galw am geisiadau ar gyfer Ysgoloriaeth PhD JR Jones

9 Mehefin 2016

School of Politics and International Relations

Mae'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Phrifysgol Caerdydd yn gwahodd ceisiadau ar gyfer Ysgoloriaeth 3 blynedd wedi ei hariannu’n llawn ar gyfer astudiaeth o'r ysgolhaig Cymraeg, J.R. Jones.

Cymhwyster: Gradd Doethur (PhD) o dan oruchwyliaeth Dr Huw L Williams a’r Athro Richard Wyn Jones.

Lleoliad: Yr Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth a’r Adran Wleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol
Dyddiad cau: 24 o Fehefin 2016 – cyfweliadau yn yr wythnos i ddilyn
Swm arian: Mae’r ysgoloriaeth yn cynnwys cost lawn ffioedd dysgu'r DU / UE, yn ogystal â grant cynhaliaeth yn unol â chyfraddau RCUK (£14,296 i ddeiliaid dyfarniadau llawn amser yn 2016/2017) y flwyddyn am 3 blynedd.

Cyflwyniad

Mae Prifysgol Caerdydd yn cynnig Ysgoloriaeth Ôl-raddedig Cyfrwng Cymraeg, a ariennir ar y cyd gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a'r Ysgol Gyfraith a Gwleidyddiaeth. Bydd yn ofynnol i'r ymgeisydd llwyddiannus ymgymryd ag addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg fel amod o'r dyfarniad.  Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn derbyn goruchwyliaeth gan aelodau staff o’r Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth, a’r Adran Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol.

Un o ffigurau mwyaf arwyddocaol yn hanes athroniaeth yng Nghymru yw JR Jones, pennaeth Ysgol Abertawe yn ei hanterth, pan oedd enw rhyngwladol iddi, a bu'n gwasanaethu fel Llywydd Cymdeithas Mind am gyfnod yn ogystal. Yn fwyaf arwyddocaol, efallai, yw’r ffaith iddo ysgrifennu cyfres o weithiau yn ei flynyddoedd olaf ar grefydd, iaith a gwleidyddiaeth, sydd ymhlith y testunau damcaniaethol mwyaf cyfoethog a chysyniadol heriol yn yr iaith Gymraeg.

Mae'r casgliad hwn, gan gynnwys llyfrau, pamffledi ac areithiau, yn adlewyrchu cyfnod cythryblus yr 1960au y cawsant eu hysgrifennu ynddi, ond mae eu mewnwelediad a pherthnasedd yn parhau. Nid oes amheuaeth fod JR, fel ffigwr deallusol cyhoeddus, yn parhau i fwynhau statws eiconig ymhlith y rhai sy'n ymwybodol o'i waith.  Un agwedd sylweddol o'r prosiect arfaethedig yw annog astudiaeth fanwl o'i waith a all helpu greu diddordeb ehangach a gwybodaeth am ei gyfraniad, tra'n ychwanegu at y llenyddiaeth eilaidd mewn modd sy'n pwysleisio perthnasedd cyfoes y gwaith.

Er y bydd rhywfaint o hyblygrwydd i’r ymgeisydd llwyddiannus ddatblygu'r prosiect yn ôl ei f/blaenoriaethau ei hun, bydd un elfen graidd i’r astudiaeth systematig o waith JR rhwng y cyfnod o 1961 hyd at ei farwolaeth annhymig yn 1970: sef ymchwilio i themâu allweddol a tharddiad ei syniadau. Bydd gofyn lleoli ei gorff aeddfed o waith o fewn set gymhleth a diddorol o ddylanwadau athronyddol a diwinyddol, gan gynnwys meddylwyr megis Herder, Simone Weil, Wittgenstein a Paul Tillich.

Yn y cyfnod hwn – yn dilyn cyfnod sabothol yn yr Unol Daleithiau – roedd JR yn gynyddol bryderus am elfennau craidd yr hunaniaeth Gymreig. Aeth ymlaen i ddadansoddi, beirniadu a chynnig syniadau amgen ar elfennau o fywyd Cymru a oedd yn gynyddol dan fygythiad. Roedd trafodaeth estynedig o'r cysyniad o Brydeindod yn rhan sylfaenol o’r gwaith yma. Un o'i ddarnau mwyaf ingol a chraff yw’r gwaith byr sy'n cynnig ymateb i'r honiad bod rhaid ‘i'r iaith ein gwahanu'. Digon yw dweud ei fod yn bwnc o ddiddordeb mawr i unrhyw fyfyriwr sydd â diddordeb mewn meddwl a hanes gwleidyddol Cymru.

Yn wir, mae natur bellweledol ei drafodaethau yn awgrymu ail elfen graidd i’r prosiect arfaethedig – sef dadansoddiad o berthnasedd cyfoes ei waith. Ni fydd gofyn bod trafodaeth o'r fath wedi ei chyfyngu i’r modd y mae rhai o'i ganfyddiadau yn parhau yn bwysig i ni yng Nghymru. Mae gan lawer o'r themâu yn ei waith berthnasedd cyffredinol, yn enwedig dirywiad crefydd, y cwestiwn o hunaniaeth, y syniad o genedligrwydd, y broblem o ddiwreiddio, a natur gwleidyddiaeth. Mae hefyd yn feddyliwr y gellir ei osod mewn gwahanol draddodiadau a’i gysylltu â chewri athronyddol mor amrywiol â Marx a Wittgenstein.  Mae’r themâu a phosibiliadau yma oll yn addo darn cyfoethog ac amlhaenog o waith ymchwil.

Mae Caerdydd yn Brifysgol uchelgeisiol ac arloesol sydd â gweledigaeth feiddgar a strategol wedi ein lleoli mewn prifddinas hardd a llewyrchus. Mae ein hymchwil o'r radd flaenaf yn y 5ed safle ymysg prifysgolion yn y DU yn Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014 ar gyfer ansawdd ac ail ar gyfer dylanwad. Rydym yn darparu profiad addysgol rhagorol ar gyfer ein myfyrwyr. Wedi ein symbylu gan greadigrwydd a chwilfrydedd, rydym yn ymdrechu i gyflawni ein rhwymedigaethau cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd i Gaerdydd, i Gymru, ac i'r byd.

Mae’r Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth yn Ysgol amlddisgyblaethol sy’n rhoi gwerth ar drylwyredd beirniadol, meddwl creadigol a chwilfrydedd deallusol. Mae’n rhoi gwerth ar feddwl ar draws disgyblaethau; yn ymrwymo i leoliad ein diwylliant ac i ryngwladoliaeth; ac yn sicrhau bod ein graddedigion yn cael eu paratoi at fyd gwaith.

Ym mhob un o’i meysydd ymchwil, mae’n cyfuno ysgolheictod traddodiadol gyda hanes o waith arloesol. Yn yr asesiad cenedlaethol diweddaraf o ansawdd ymchwil prifysgolion, gosodwyd yr adran Athroniaeth yn bedwerydd yn y DU am effaith ymchwil.  Rydym yn dathlu syniadau a chryfder syniadol, gan gredu bod ymchwil o ansawdd uchel yn ein disgyblaethau yn medru, mewn ffyrdd ystyrlon, mwyhau’r byd.

Mae’r Adran Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol yn ymfalchïo mewn ymchwil o’r radd flaenaf yn y byd a’i henw da rhyngwladol ar sail ei rhagoriaeth. Mae corff bywiog o fyfyrwyr ar y cyd â staff academaidd sydd â chymwysterau uchel yn creu amgylchedd delfrydol. Mae’r arbenigedd ymchwil yn cynnwys theori wleidyddol, polisi cyhoeddus, gwleidyddiaeth datganoli, a chysylltiadau rhyngwladol.

Mae'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn gweithio gyda phrifysgolion ar draws Cymru i ddatblygu cyfleoedd cyfrwng Cymraeg i fyfyrwyr. Mae'n ariannu darlithwyr cyfrwng Cymraeg ac yn cynnig ysgoloriaethau israddedig ac ôl-radd i fyfyrwyr sy’n astudio cyrsiau addysg uwch drwy gyfrwng y Gymraeg. Erbyn hyn mae’r Coleg wedi noddi dros 100 o fyfyrwyr PhD. Am fwy o wybodaeth am waith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a changen Prifysgol Caerdydd o'r Coleg, cysylltwch ag Elliw Iwan, Swyddog y Gangen: IwanEH@colegcymraeg.ac.uk. Ceir gwybodaeth lawn am waith y Coleg Cymraeg yn ogystal ar eu gwefan: www.colegcymraeg.ac.uk

Gofynion: Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol. Disgwylir i ymgeiswyr feddu ar radd dosbarth cyntaf neu 2:1 mewn athroniaeth, gwleidyddiaeth neu feysydd cymharol. Mae cael gradd Meistr yn fantais ond nid yw’n hanfodol. Dylai’r ymgeisydd fod yn llawn brwdfrydedd ac yn greadigol gyda sgiliau cyfathrebu cryf ysgrifenedig a llafar.

Rhagor o wybodaeth

Gallwch gyfeirio unrhyw ymholiadau anffurfiol at Dr Huw L Williams

Am gyngor gweinyddol ynglŷn â sut i wneud cais, cysylltwch â:

Ebost: lawpol-pgr@caerdyddac.uk
Ffôn: +44 (0)29 20 874 315

Gallwch ddod o hyd i'r ffurflen gais ar-lein

Pwysig: Cofiwch restri'r cais o dan 'Gwleidyddiaeth a’r Gyfraith' ar y ffurflen ar-lein.