Ewch i’r prif gynnwys

'Cydweddu' ASau ac academyddion

8 Mehefin 2016

Houses of Parliament

Mae Aelodau Seneddol wedi dangos parodrwydd amlwg i ddefnyddio gwasanaeth newydd arfaethedig er mwyn eu cysylltu'n gyflym ag academyddion mewn meysydd perthnasol. Y nod fydd sicrhau bod polisïau yn seiliedig ar y dystiolaeth ddiweddaraf.

Mae'r llywodraeth yn hyrwyddo polisïau sy'n seiliedig ar dystiolaeth, ac eto mae llunwyr polisïau yn parhau i gael trafferth cynnwys tystiolaeth wrth wneud penderfyniadau. Mae'r cyfyngiadau sy'n eu hatal rhag cael mynediad at y canfyddiadau ymchwil diweddaraf neu'r arbenigwyr academaidd sy'n gallu ymateb i gwestiynau am dystiolaeth yn un rheswm dros hyn.

Heddiw, mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd, Prifysgol Caerwysg a Choleg Prifysgol Llundain wedi cyhoeddi canlyniadau'r astudiaeth mwyaf hyd yma sy'n amlygu agweddau Aelodau Seneddol at ddefnyddio tystiolaeth wrth lunio polisïau. Mae hefyd yn datgelu eu hymateb i'r Gwasanaeth Gwybodaeth am Dystiolaeth arfaethedig (EIS) - gwasanaeth cynghori cyflym fydd yn gweithio ochr yn ochr â systemau cyfredol ac yn galluogi ASau i gysylltu ag arbenigwyr academaidd perthnasol.

Dywedodd Dr Natalia Lawrence, o Brifysgol Caerwysg: "Mae ein hastudiaeth yn dangos yn glir bod gwleidyddion am wneud yn siŵr bod eu penderfyniadau'n cynnwys y dystiolaeth fwyaf dibynadwy, ond weithiau gall fod yn anodd iawn iddynt wybod sut i gael gafael ar y canfyddiadau ymchwil diweddaraf. Gallai'r gwasanaeth newydd hwn fod yn ffordd gyflym a hwylus i geisio cyngor gan ymchwilwyr arloesol yn ogystal â gwirio eu dealltwriaeth a'u ffeithiau. Gallai hefyd ategu'r gwasanaethau gwybodaeth gwerthfawr a ddefnyddir ar hyn o bryd."

Mae'r ymchwil a gyhoeddwyd heddiw yn y cyfnodolyn Evidence and Policy, yn cyflwyno canfyddiadau o ymgynghoriad cenedlaethol rhwng gwleidyddion a'r cyhoedd. Recriwtiodd yr ymchwilwyr aelodau o'r cyhoedd i gyfweld â'u cynrychiolydd seneddol lleol. Cysylltwyd ag 86 o wleidyddion i gyd, a chynhaliwyd 56 o gyfweliadau.  Dangosodd yr ASau barodrwydd amlwg i ddefnyddio gwasanaeth fel EIS ac roedd 85% yn cefnogi'r syniad. Fodd bynnag, nodwyd nifer o bryderon posibl sy'n gysylltiedig â logisteg EIS fel yr amser ymateb ac ymgyfarwyddo â'r gwasanaeth. Er hynny, nododd yr Aelodau Seneddol y gellid goresgyn eu pryderon logistaidd drwy gael gafael ar EIS drwy wasanaethau gwybodaeth seneddol cyfredol fel y rhai a ddarperir gan Llyfrgelloedd Tŷ'r Cyffredin a Thŷ'r Arglwyddi. At hynny, cyn cyflwyno'r yr EIS ar ledled y wlad, bydd angen ei dreialu yn gyntaf.

Byddai datblygu'r EIS arfaethedig yn unol ag adborth o'r ymgynghoriad hwn o ASau yn cynnig y posibilrwydd o roi tystiolaeth cyflym, dibynadwy a chyfrinachol gan wirfoddolwyr parod o'r gymuned ymchwil i lunwyr polisïau.

Dywedodd yr Athro Chris Chambers, o Brifysgol Caerdydd:  "Mae y Llywodraeth wedi rhoi arweiniad cadarn bod angen i ASau gysylltu'n amlach ag academyddion i wneud yn siŵr bod penderfyniadau sy'n llunio dyfodol y wlad yn seiliedig ar dystiolaeth. Braf yw gweld bod ewyllys i fabwysiadu'r system hon ac mae angen i ni yn awr symud ymlaen i ddatblygu gwasanaeth syml ac effeithiol i ddiwallu'r angen hwn."

Camau nesaf y prosiect yw cynnal ymgynghoriadau ar y cyd o academyddion a'r cyhoedd, a pheilot o'r EIS, gan ddefnyddio arian gan Gynghrair GW4 sy'n cynnwys prifysgolion Caerfaddon, Bryste, Caerdydd a Chaerwysg.

Rhannu’r stori hon