Ewch i’r prif gynnwys

Ei Mawrhydi'r Frenhines yn rhoi Proffeswriaeth Frenhinol i Brifysgol Caerdydd

6 Mehefin 2016

Cardiff University Main Building
Cardiff University Main Building

Ysgol Cemeg y Brifysgol yn cael anrhydedd arbennig i ddathlu pen-blwydd y Frenhines yn 90 oed

Mae Ysgol Cemeg Prifysgol Caerdydd wedi cael anrhydedd clodfawr Proffeswriaeth Frenhinol i ddathlu pen-blwydd Ei Mawrhydi'r Frenhines yn 90 oed.

Cyhoeddwyd y newyddion heddiw, 6 Mehefin, mewn seremoni arbennig ym Manceinion. Dyma'r tro cyntaf i Brifysgol Caerdydd gael Proffeswriaeth Frenhinol, ac mae hefyd y tro cyntaf i brifysgol yng Nghymru gael yr anrhydedd.

Mae'r fraint arbennig yn cydnabod ymchwil ac addysgu eithriadol yr Ysgol Cemeg dros flynyddoedd lawer, yn ogystal â'i rôl wrth sbarduno twf a gwella cynhyrchiant yn y DU.

Mae'r Ysgol ar flaen y gad yn y modd y mae'n troi gwaith ymchwil cemegol sylfaenol yn amrywiaeth eang o ddefnyddiau sy'n cael effaith gymdeithasol o bwys ym meysydd gwyddorau gofal iechyd, puro dŵr, newid yn yr hinsawdd ac amddiffyn, ymhlith llu o rai eraill.

Mae cael Proffeswriaeth Frenhinol yn fraint arbennig a phrin iawn. Y Brenin James IV ym 1497 a gyflwynodd y gyntaf, ond dim ond 14 sydd wedi'u cyflwyno ers teyrnasiad y Frenhines Victoria, gan gynnwys 12 i ddathlu Jiwbilî Ddiemwnt E Mawrhydi yn 2012.

Dywedodd yr Athro Colin Riordan, Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd: “Mae'r Brifysgol yn hynod falch o gael yr anrhydedd eithriadol hwn. Dyma'r tro cyntaf i sefydliad yng Nghymru gael Proffeswriaeth Frenhinol, ac mae'n adlewyrchu ymdrechion rhagorol yr Ysgol Cemeg i fynd i'r afael â rhai o broblemau mwyaf dybryd cymdeithas.

"Mae'r gwaith ymchwil o'r radd flaenaf y mae'r Ysgol yn gysylltiedig ag ef yn rhoi manteision uniongyrchol i economi'r DU. Mae'n rhan ganolog o weledigaeth y Brifysgol i fod yn brifysgol arloesedd lle mae ymchwil a syniadau sylfaenol yn cael eu troi'n gynnyrch, yn dechnolegau, yn gwmnïau deillio ac yn ddyfeisiadau newydd llwyddiannus.

“Hoffwn ganu clodydd gwaith caled ac ymroddiad pawb yn yr Ysgol Cemeg sy'n gyfrifol am yr anrhydedd hanesyddol hwn.”

Dywedodd yr Athro Rudolf Allemann, Athro Ymchwil Nodedig a Phennaeth yr Ysgol Cemeg: “Mae hyn yn newyddion gwych i'r Ysgol Cemeg, y Brifysgol a Chymru'n gyffredinol. Rwyf yn hynod falch o weld gwaith rhagorol yr Ysgol yn cael ei gydnabod drwy gael y teitl clodfawr hwn. Mae hyn yn hybu enw da'r Ysgol fel arweinydd byd-eang mewn ystod eang o feysydd ymchwil."

Bydd teitl Proffeswriaeth Frenhinol yn cael ei roi i'r Athro Graham Hutchings, Cyfarwyddwr Sefydliad Catalysis Caerdydd (CCI) yn yr Ysgol Cemeg.

Professor Graham Hutchings

Mae'r Athro Hutchings, Cymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol, yn un o arbenigwyr mwyaf rhagorol y byd ym maes catalysis – y broses o gyflymu adweithiau cemegol er mwyn gwneud cynhyrchion yn rhatach, glanach, mwy diogel a mwy cynaliadwy.

Darganfyddiad nodedig yr Athro Hutchings yn ystod ei amser yn CCI yw bod aur yn gatalydd nodedig ar gyfer rhai adweithiau, yn enwedig wrth gynhyrchu finyl clorid, prif gynhwysyn PVC. O ganlyniad uniongyrchol i'w waith ymchwil arloesol, mae catalydd aur bellach yn cael ei gynhyrchu gan gwmni cemegau Johnson Matthey o'r DU mewn cyfleuster pwrpasol yn Tsieina.

Ychwanegodd yr Athro Hutchings: “Mae cael y teitl Proffeswriaeth Frenhinol yn fraint enfawr. Cyflwynir yr anrhydedd ar sail rhagoriaeth academaidd ac effaith, ac rydym yn rhagori yn y naill faes fel y llall yn Sefydliad Catalysis Caerdydd. Mae catalysis yn gysylltiedig â phopeth a wnawn, ac mae'n cynnig atebion i'r rhai o'r problemau mwyaf dybryd megis darparu bwyd, canfod cyffuriau, ynni glân a chynhesu byd-eang. Heb os nac oni bai, bydd yr anrhydedd mawreddog hwn yn tynnu hyd yn oed yn fwy o sylw at ein gwaith arloesol wrth geisio ymateb i'r heriau hyn."

Mae'r Broffeswriaeth Frenhinol sydd wedi'i rhoi i Brifysgol Caerdydd yn un o 12 a gyflwynwyd gan Ei Mawrhydi i ddathlu ei phen-blwydd yn 90 oed.

Bydd Ei Mawrhydi'r Frenhines yn ymweld â Phrifysgol Caerdydd yfory, 7 Mehefin, i agor Canolfan Ymchwil Delweddu'r Ymennydd newydd £44m Prifysgol Caerdydd (CUBRIC). Bydd Ei Mawrhydi a'i Uchelder Brenhinol Dug Caeredin yn cael eu tywys o amgylch y Ganolfan fydd yn gartref i gyfuniad o offer delweddu'r ymennydd sy'n unigryw yn Ewrop.

Rhannu’r stori hon