Ewch i’r prif gynnwys

Rheolau Cystadleuaeth Cyfryngau Cymdeithasol Gwobrau Arloesedd ac Effaith 2016

1 Mehefin 2016

Woman using smartphone

1. Prifysgol Caerdydd, elusen gofrestredig Rhif 1136855, yw'r hyrwyddwr. Mae'r gystadleuaeth yn cael ei chynnal gan Adran Cyfathrebu Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Caerdydd, Tŷ Deri, 2 - 4 Llwyn y Parc, Caerdydd, CF10 3BN.

2. Mae'r gystadleuaeth yn agored i'r cyhoedd yn y DU a thramor. Dylai'r cystadleuwyr fod o leiaf 16 oed.

3. Mae myfyrwyr a gweithwyr Prifysgol Caerdydd yn cael cystadlu. Fodd bynnag, nid yw cyflogeion a'r rhai sy'n gweithio i asiantaethau cysylltiadau cyhoeddus a'r cyfryngau allanol sy'n gysylltiedig â'r gystadleuaeth, neu sy'n helpu i hyrwyddo'r gystadleuaeth, yn cael cystadlu.

4. Ni chodir tâl am gystadlu ac nid oes angen prynu unrhyw beth i allu cymryd rhan yn y gystadleuaeth hon.

5. Gellir gweld manylion ynghylch sut i gystadlu yma.

6. 10 o'r gloch ar 20 Mehefin 2016 yw'r dyddiad cau ar gyfer cystadlu. Ni dderbynnir unrhyw geisiadau ar ôl y dyddiad hwn.

7. Ni ellir derbyn unrhyw gyfrifoldeb am geisiadau na chafodd eu derbyn am ba reswm bynnag.

8. Bydd y gystadleuaeth yn cynnig tair gwobr. Bydd yr ymgais buddugol yn ennill Oriawr Clyfar Pebble Time (Du). Yr ail a'r drydedd wobr yw Pecyn Raspberry Pi 3 Essentials (Enfys).

9. Mae'r hyrwyddwr yn cadw'r hawl i ganslo neu newid y gystadleuaeth a'r telerau a'r amodau hyn heb rybudd os bydd unrhyw ddigwyddiad sydd y tu hwnt i reolaeth yr hyrwyddwr.

10. Ni chynigir unrhyw arian parod yn lle'r gwobrau. Ni ellir trosglwyddo'r gwobrau.

11. Bydd y tri enillydd yn cael eu hysbysu drwy'r cyfrwng a ddefnyddiwyd ganddynt i bleidleisio (Facebook, Twitter, ac ati) erbyn 17:00 ddydd Mawrth 21 Mehefin.

12. Os na ellir cysylltu â'r enillwyr, neu os nad ydynt yn hawlio eu gwobrau erbyn 17:00 ar 21 Mehefin, rydym yn cadw'r hawl i dynnu'r wobr yn ôl a dewis enillydd arall.

13. Mae'r hyrwyddwr yn cadw'r hawl i ofyn i enillydd y wobr gyntaf gwrdd â'r tîm arloesedd buddugol, a chynrychiolydd o'r noddwyr, at ddibenion cysylltiadau cyhoeddus fel rhag-amod o gasglu'r wobr ar noson y Seremoni Wobrwyo - 22 Mehefin 2016. Caiff y cais ei wneud os yw'n briodol – h.y. os yw'r enillydd preswylio yn y DU ac na fydd yn wynebu costau teithio. Gwneir y cyflwyniad, at ddibenion ffotograffiaeth, tua 17:00, cyn y cinio. Gwahoddir yr enillydd, ynghyd ag un gwestai, i ddod i'r cinio. Rhaid i'r enillydd hysbysu a fydd yn dod cyn gynted â phosibl ar ôl cael ei hysbysu am ennill y wobr. Os bydd enillydd y wobr gyntaf yn byw y tu allan i'r DU, neu os nad yw'n gallu dod, bydd y tim arloesedd buddugol yn derbyn Gwobr Dewis y Bobl ar ei ran at ddibenion ffotograffiaeth a chaiff y wobr ei hanfon drwy'r post. Ni fydd yr hyrwyddwr yn talu treuliau teithio i'r enillydd i hwyluso casglu'r Wobr.

14. Bydd penderfyniad yr hyrwyddwr ynglŷn â phopeth sy'n ymwneud â'r gystadleuaeth yn derfynol ac ni fydd unrhyw ohebiaeth am y mater.

15. Drwy gymryd rhan yn y gystadleuaeth hon, mae'r ymgeisydd yn datgan y bydd yn cadw at y telerau a'r amodau hyn.

16. Mae'r enillydd yn cytuno i ddefnyddio ei enw a'i ddelwedd mewn unrhyw ddeunydd cyhoeddusrwydd. Bydd unrhyw ddata personol am yr enillydd neu unrhyw ymgeisydd arall yn cael ei ddefnyddio yn unol â deddfwriaeth diogelu data cyfredol y DU yn unig, ac ni chaiff ei ddatgelu i rywun allanol heb gael caniatâd yr ymgeisydd ymlaen llaw.

17. Drwy gymryd rhan yn y gystadleuaeth, ystyrir eich bod yn derbyn y telerau a'r amodau hyn.

18. Nid yw'r hyrwyddiad hwn yn cael ei noddi, ei gymeradwyo na'i weinyddu mewn unrhyw ffordd gan Facebook, Twitter neu unrhyw rwydwaith cymdeithasol eraill, ac nid yw'r gystadleuaeth yn gysylltiedig â nhw ychwaith. Rydych yn rhoi gwybodaeth i Brifysgol Caerdydd ac nid i unrhyw un arall. Caiff y wybodaeth a ddarperir ei defnyddio mewn cysylltiad â'r Polisi Preifatrwydd canlynol sydd i'w weld yn: http://www.caerdydd.ac.uk/govrn/cocom/accinf/dataprotection/

Rhannu’r stori hon