Ewch i’r prif gynnwys

Gwobr Effaith Gymdeithasol

1 Mehefin 2016

Homeless man asleep on the floor

Enillodd ymchwil arloesol sydd wedi gweld cynnydd dramatig yn y nifer o bobl ddigartref sy'n derbyn cymorth bob blwyddyn yng Nghymru wobr am ei Effaith Gymdeithasol yng Ngwobrau Arloesedd ac Effaith Prifysgol Caerdydd 2016.

Arweiniodd gwaith gan Dr Peter Mackie, Uwch-ddarlithydd yn Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio Caerdydd, awdurdodau lleol i newid y modd y caiff pobl ddigartref eu helpu yng Nghymru.

Cyfrannodd ymchwil Dr Mackie, a gyllidwyd gan Lywodraeth Cymru, yn uniongyrchol i Ddeddf Tai Cymru 2014.

Cyn y Ddeddf, dim ond cymorth cyfyngedig oedd ar gael i bobl sengl yn ôl y gyfraith. Roedd tua 3,000 o bobl ddigartref oedd yn ceisio cymorth yng Nghymru bob blwyddyn yn cael eu gadael heb lety.

Cyflwynodd y Ddeddf newydd ddyletswydd ar awdurdodau lleol i helpu i atal digartrefedd neu helpu i sicrhau llety i bawb sydd dan fygythiad o ddigartrefedd neu sy'n ddigartref.

Wrth groesawu'r wobr, dywedodd Dr Mackie: "Diolch i Lywodraeth Cymru, mae'r Ddeddf yn gam sylweddol ymlaen i Gymru drwy gyflawni dull sy'n fwy cyfiawn yn gymdeithasol o ymdrin â mater byd-eang digartrefedd. Dylid canmol Llywodraeth Cymru am gyflwyno'r ddeddfwriaeth hon sy'n seiliedig ar hawliau.”

Dywedodd Geoff Marlow, Uwch Swyddog Polisi Digartrefedd gyda Llywodraeth Cymru: "Mae adolygiad Mackie yn enghraifft ragorol o arloesedd cymdeithasol. Mae'r Adolygiad - a Deddf 2014 - wedi newid y ffordd mae cymorth digartrefedd yn cael ei gyflenwi yng Nghymru'n sylweddol, ac mae'n cael effaith ar fywydau miloedd o bobl ddigartref."

Mae'r datblygiadau arloesol hyn yng Nghymru hefyd wedi ysgogi ymchwiliad diweddar gan y Pwyllgor Cymunedau a Llywodraeth Leol i wasanaethau digartrefedd yn Lloegr, lle mae'n ymddangos yn debygol y gallai deddfwriaeth debyg ddod i rym.

Ai hwn yw eich hoff gynnig? Dywedwch wrthym pam i gael cyfle i ennill y wobr.

Dyma sut y gallwch bleidleisio trydar @prifysgolcdydd gyda'ch rheswm dros ddewis y prosiect.

Rhannu’r stori hon