Ewch i’r prif gynnwys

Trawsnewid bywydau yn neheubarth Affrica

27 Mai 2016

Professor Colin Riordan with VC of University of Namibia
Vice-Chancellor of the University of Namibia (UNAM) Professor Lazarus Hangula with Vice-Chancellor Professor Colin Riordan

Gallai arbenigedd gan Brifysgol Caerdydd drawsnewid arferion meddygol ledled deheubarth Affrica, yn ôl Is-Ganghellor Prifysgol Namibia (UNAM).

Roedd yr Athro Lazarus Hangula yn siarad yn ystod ymweliad â Chaerdydd yr wythnos hon pan fu'n cyfarfod â'r Is-Ganghellor, yr Athro Colin Riordan, uwch-staff eraill y Brifysgol, a gweision sifil o bwys.

Mae Prosiect Phoenix uchelgeisiol Prifysgol Caerdydd yn cydweithio â Phrifysgol Namibia (UNAM) ar amrywiaeth o weithgareddau ym meysydd iechyd, addysg a gwyddoniaeth.

Mae rhan o'r prosiect yn defnyddio arbenigedd o Gymru mewn cydweithrediad ag UNAM a gwasanaeth iechyd Namibia i ddarparu hyfforddiant anaesthesia arbenigol yn y wlad am y tro cyntaf.

Er bod Namibia'n wlad ddaearyddol enfawr, â thros ddwy filiwn o bobl yn byw ynddi, dim ond llond llaw o anaesthetegyddion arbenigol sydd ganddi.

Mae prosiect Phoenix wedi bod yn trefnu cyrsiau anaesthesia dwys a gofal critigol ar gyfer myfyrwyr a meddygon mewn sawl man ledled Namibia.

Mae cynlluniau ar droed hefyd i greu'r cwrs anaesthesiau ôl-raddedig cyntaf erioed yn Namibia. Gallai hyn chwyldroi arferion ledled y wlad a'r rhanbarth drwyddi draw.

Dywedodd yr Athro Hangula: "Mae'r prosiect wedi rhoi'r cyfle hwn i ni. Gyda lwc, gyda'n partneriaid ym Mhrifysgol Caerdydd, byddwn yn gallu cyflwyno'r rhaglen benodol hon mewn gwledydd eraill yng Nghymuned Datblygu Deheubarth Affrica (SADC).

"Credaf y bydd o gymorth mawr. Os gallwn hyfforddi mwy o'n swyddogion meddygol, bydd hynny'n gyfraniad enfawr yn rhanbarth SADC."

Mae gwaith iechyd y prosiect yn parhau fis nesaf gyda chynhadledd sy'n cynnig hyfforddiant hanfodol i feddygon a nyrsys ledled deheubarth Affrica am sut i reoli llwybrau anadlu.

Cynhelir cynhadledd Profiad Rheoli Llwybrau Anadlu Namibia rhwng 7 a 9 Mehefin ym mhrifddinas y wlad, Windhoek. Dyma'r gynhadledd gyntaf i gael ei chynnal yn y rhanbarth y tu allan i Dde Affrica.

Mae cwmpas Prosiect Phoenix yn mynd ymhell y tu hwnt i iechyd, a chyfeiriodd yr Athro Hangula at rai o'r digwyddiadau llwyddiannus y mae Prifysgol Caerdydd ac UNAM wedi'u cynnal gyda'i gilydd yn ddiweddar.

Helpodd ysgol haf mathemateg yn UNAM i wella sgiliau myfyrwyr gwyddoniaeth, a daeth cymuned o ddefnyddwyr Python, sef iaith raglennu hynod boblogaidd a rhad ac am ddim, ynghyd ar gyfer cynhadledd meddalwedd ryngwladol yn Namibia.

Fodd bynnag, mae manteision eraill o bwys i'r naill brifysgol fel y llall sydd wedi creu cryn argraff ar yr Athro Hangula.

"Gwych o beth yw dysgu bod Prifysgol Caerdydd yn gysylltiedig ag 20 o brosiectau drwy Brosiect Phoenix, ond yn anad dim, ceir cyswllt rhwng pobl," meddai.

“Er gwaethaf ein gwahaniaethau daearyddol, rydym yn rhan o'r un ddynoliaeth. Dyma elfen hollbwysig mewn byd sydd wedi globaleiddio.

“Gyda lwc, bydd ein gwaith yn talu ar ei ganfed wrth fynd i'r afael ag anawsterau penodol, yn ogystal â chreu cymuned o ffrindiau ar draws y moroedd a'r cyfandiroedd.

"Mae'n rhywbeth gwirioneddol wych."

Prosiect Phoenix yw un o brosiectau ymgysylltu blaenllaw Prifysgol Caerdydd, neu'r Rhaglen Trawsnewid Cymunedau. Mae'n gweithio gyda chymunedau yng Nghaerdydd, Cymru a thu hwnt ym meysydd iechyd, addysg a lles ymhlith eraill.

Namibian anaesthetists

Namibia has just a handful of specialist anaesthetists to cover a geographically vast country with a population of more than two million people.

The Phoenix Project has been organising intensive anaesthesia and critical care courses for students and doctors in several locations across Namibia.

Namibian anaesthetists 2

Plans are also being developed to create Namibia’s first ever postgraduate course in anaesthesia, which could revolutionise practice across the country – and the entire region.

Professor Hangula said: “This project brought us this opportunity and we hope that, together with our partners Cardiff University, we will be able to roll out this specific programme to other SADC (Southern African Development Community) countries.

“I think it will help a lot. If we train more of our medical officers that will be a big contribution to help in the SADC region.”

The project’s health work continues next month with a conference offering vital airway training for doctors and nurses from across southern Africa.

The Namibian Airway Management Experience conference, which runs from 7-9 June in the Namibian capital Windhoek, is the first to be held in the region outside South Africa.

The scope of the Phoenix Project goes far beyond health, and Professor Hangula pointed to some of the recent successful events Cardiff University and UNAM have run together.

A mathematics summer school at UNAM helped boost the skills of science students, while an international software conference in Namibia brought together a community of Python users, a hugely popular free programming language.

However there are other significant benefits for both universities that have particularly impressed Professor Hangula.

“I have learned with keen interest that Cardiff University is involved with more than 20 projects through the Phoenix Project, but more importantly there is the human-to-human contact,” he said.

“Despite our geographic differences we still have common humanity, that in a globalised world we need to discover.

“We hope we are going to go a long way to address specific problems but also to create a community of friends across the oceans and the continents.

“It is something truly great.”

The Phoenix Project is one of Cardiff University’s flagship engagement projects, otherwise known as the Transforming Communities programme, which work with communities in Cardiff, Wales and beyond in areas including health, education and wellbeing.

Rhannu’r stori hon