Ewch i’r prif gynnwys

Gwobrau Caerdydd yn dathlu Haf o Arloesedd

1 Mehefin 2016

Innovation Awards

Mae pum partneriaeth arloesol sydd wedi trawsnewid polisi ac ymarfer mewn gofal iechyd, busnes a chymdeithas yn cael eu dathlu gan Brifysgol Caerdydd.

Dewiswyd y prosiectau buddugol ar gyfer Seremoni Gwobrau Arloesedd ac Effaith blynyddol y Brifysgol a gynhelir ymhen tair wythnos.

Ac mae Prifysgol Caerdydd yn cynnig cyfle i bawb bleidleisio ar gyfer Gwobr 'Dewis y Bobl' drwy ddewis eu ffefryn o blith y pum enillydd terfynol.

Bydd yr ymgais buddugol yn ennill Oriawr Glyfar Pebble Time (Du). Bydd enillwyr yr ail a'r drydedd wobr yn cael Pecyn Raspberry Pi 3 Essentials (Enfys).

Mae'r Gwobrau Arloesedd ac Effaith - a noddir gan IP Group, Symbiosis IP Ltd a Blake Morgan - yn rhan o Haf o Arloesedd Prifysgol Caerdydd. Cynhelir yr Haf o Arloesedd rhwng mis Mehefin a dechrau mis Hydref 2016, a bydd yn tynnu sylw at brosiectau a phartneriaethau ymchwil y Brifysgol.

Bydd academyddion blaenllaw'n ymgasglu ar gyfer y gwobrau ym Mharc Cathays, Caerdydd ar 22 Mehefin, pan fydd enillydd 'Dewis y Bobl' yn cael ei ddatgelu.

Mae Prifysgol Caerdydd yn cynnig cyfle i bawb bleidleisio ar gyfer Gwobr 'Dewis y Bobl'. Bydd yr enillydd yn cael y cyfle i gwrdd â'r tîm buddugol o arloeswyr ym Mhrifysgol Caerdydd hefyd cyn y cinio, ac ymuno a nhw yn y digwyddiad.

10 o'r gloch, fore Llun 20 Mehefin yw'r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau. I bleidleisio ar gyfer un o'r prosiectau yn y rownd derfynol, darllenwch y crynodebau isod:

Gwobr Arloesedd mewn Gofal Iechyd

Datblygu cyffur newydd ar gyfer canser metastatig y fron - Tiziana Life Sciences Plc gydag Ysgol y Biowyddorau a'r Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol Cliciwch yma i ddarllen mwy a phleidleisio ar gyfer y prosiect hwn (#CUII1).

Gwobr Arloesedd Busnes

Stocrestrau darbodus: helpu busnesau i ragweld y galw am eu cynnyrch - Panalpina World Transport Limited gydag Ysgol Fusnes Caerdydd. Cliciwch yma i ddarllen mwy a phleidleisio i (#CUII2).

Gwobr Effaith ar Bolisi

Mynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yng Nghymru - Llywodraeth Cymru gydag Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol. Cliciwch yma i ddarllen mwy a phleidleisio i (#CUII3).

Gwobr Effaith Gymdeithasol

Polisi Tai: newid y ffordd mae Cymru'n cynorthwyo pobl ddigartref - Llywodraeth Cymru gyda'r Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio Cliciwch yma i ddarllen mwy a phleidleisio i (#CUII4).

Gwobr Effaith Ryngwladol

Harneisio pŵer aur fel catalydd masnachol glanach, gwyrddach - Johnson Matthey plc gyda Sefydliad Catalysis Caerdydd. Cliciwch yma i ddarllen mwy a phleidleisio i (#CUII5).

Meddai'r Athro Colin Riordan, Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd: "Mae'r prosiectau sydd ar y rhestr fer eleni yn amlygu effaith ymchwil ar ofal iechyd a diwydiant, yn ogystal ag ar y gymdeithas ehangach a pholisi'r llywodraeth. Mae pob un ohonynt yn enghreifftiau ardderchog o pam mae ein gwaith ymchwil rhagorol yn bwysig o ran gyrru'r economi a ffurfio'r gymdeithas ehangach yng Nghymru a thu hwnt."

Dywedodd Alan Aubrey, Prif Swyddog Gweithredol, IP Group Plc: "Mae'n bleser gan IP Group noddi'r gwobrau hyn am yr wythfed flwyddyn yn olynol. Rydym yn edrych ymlaen at helpu i greu busnesau newydd cyffrous sy'n tarddu o eiddo deallusol rhagorol Prifysgol Caerdydd am flynyddoedd lawer i ddod."

Trefnir Cystadleuaeth y Gwobrau Arloesedd ac Effaith o dan nawdd Rhwydwaith Arloesedd Prifysgol Caerdydd, sef rhwydwaith busnes/ prifysgol a sefydlwyd bron 20 mlynedd yn ôl. Mae'r Gwobrau'n gyfle i arddangos  prosiectau arloesol cydweithredol Prifysgol Caerdydd gyda busnesau a sefydliadau anacademaidd eraill, gan amlygu'r effaith gadarnhaol y gall prifysgolion ei chael ar yr economi a chymdeithas.