Adrodd yr hanes y tu ôl i ddarganfod tonnau Einstein yng Ngŵyl y Gelli

24 Mai 2016

Hay Festival

Mae'r hanes y tu ôl i un o'r datblygiadau mwyaf ym maes ffiseg ers can mlynedd yn cael ei adrodd yn rhan o raglen y Brifysgol yng Ngŵyl y Gelli eleni.

Bydd yr Athro Bangalore Sathyaprakash a Dr Patrick Sutton yn egluro rôl hollbwysig y Brifysgol wrth ddod o hyd i donnau disgyrchiant y llynedd, yn ogystal ag ystyried y posibilrwydd o ganfyddiadau pellach.

Bydd arbenigwyr eraill o'r Brifysgol yn edrych ar bynciau amrywiol gan gynnwys y bygythiad o gael ein taro gan wrthrychau yn y gofod, osgoi talu treth, llygredd yn yr aer, Roald Dahl, y dinasyddion pitw bach y tu mewn i'n cyrff, a sefydlu atlas llenyddol digidol yng Nghymru.

Cynhelir Gŵyl y Gelli yn nhref y canolbarth rhwng dydd Iau, 26 Mai a dydd Sul, 5 Mehefin.

Cafodd tonnau disgyrchiant, a ragwelwyd gan Albert Einstein yn ei ddamcaniaeth enwog am berthynoledd 100 mlynedd yn ôl, sylw byd-eang ym mis Medi.

Roedd cannoedd o wyddonwyr y byd yn gysylltiedig â'r ymchwil, ac roedd gan Brifysgol Caerdydd rôl hanfodol yn archwilio data.

Dywedodd yr Athro Sathyaprakash: “Mae arsylwi tonnau disgyrchiant yn cynnig teclyn newydd ar gyfer deall ffenomena anhygoel o egniol yn y bydysawd megis tyllau duon a sêr niwtron yn gwrthdaro, uwchnofâu a sêr yn cwympo, a sêr niwtron yn fflachio ac yn chwyrlïo.

“Gallant ein helpu i edrych yn fanylach ar eithafion ffiseg.”

Dywedodd yr Athro Sathyaprakash fod gwyddonwyr Prifysgol Caerdydd nawr yn edrych ar y data sy'n weddill ac yn obeithiol y bydd rhagor yn cael ei ddatgelu.

"Rydym wrthi'n dadansoddi'r tri mis o ddata sy'n weddill o'r gwaith arsylwi cyntaf," meddai.

“Ar sail y canfyddiadau y gwnaethom eu hamcangyfrif gyda'r datgeliad cyntaf, mae dros 80% o bosibilrwydd y bydd y o leiaf un arwydd deuol o dwll du yn cyfuno yn y data sy'n weddill. Rydym yn disgwyl rhyddhau'r canlyniadau yn ystod y deufis nesaf."

Bydd yr Athro Sathyaprakash a Dr Sutton, o'r Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth, yn ymddangos am 20:30 nos Iau, 2 Mehefin, yn rhan o drafodaethau Cyfres Caerdydd y Brifysgol yn yr ŵyl.

Mae Dr Simone Cuff, o'r Ysgol Meddygaeth, ymhlith y rhai fydd yn cymryd rhan yn y gyfres. Bydd Dr Cuff yn trin a thrafod rôl bacteria yn ein cyrff ac yn ystyried a all bacteria ein diogelu rhag canser, yn ogystal â beth fyddai gwerth bwyta iogwrt bio-fyw.

“Mae llawer o bobl yn negyddol iawn ynglŷn â bacteria. Ydy, mae rhai yn gallu eich gwneud yn sâl, ond mae rhai eraill yn bwysig iawn er mwyn eich cadw'n iach,"meddai.

“Mae darganfyddiadau diweddar wedi dangos sut maent yn eich helpu i dreulio eich bwyd, atal 'bacteria drwg' rhag dod i mewn a'ch gwneud yn sâl, a sut gallant greu fitaminau ar ein cyfer na all ein cyrff eu gwneud i'w hunain.”

Bydd Dr Cuff yn siarad am 20:30, nos Fawrth, 31 Mai.

Bydd yr Athro Damian Walford Davies, o'r Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth yn cynnig dirnadaeth newydd sbon ynglŷn â rôl Cymru yn nychymyg Roald Dahl.

Bydd yn sôn am ei lyfr newydd arwyddocaol, Roald Dahl: Wales of the Unexpected, sy'n trin a thrafod yr awdur o safbwynt wahanol - ei wlad enedigol a'i fywyd cynnar - gyda chyfraniadau sy'n edrych ar bresenoldeb Cymru yng ngwaith Dahl.

Cynhelir y drafodaeth ddydd Iau, 2 Mehefin, am 17:30. Dyma un o sawl digwyddiad y mae'r Brifysgol yn gysylltiedig ag ef sy'n dathlu canmlwyddiant yr awdur byd enwog.

Bygythiad gwrthrychau o'r gofod yw testun trafodaeth Dr Paul Roche wrth iddo drin a thrafod pam ein bod am ddilyn ffawd y deinosoriaid yn ôl pob tebyg.

Mae seryddwyr yn aml yn gweld lympiau mawr o greigiau a rhew yn gwibio heibio'r Ddaear, ond gallai'r canlyniadau fod yn frawychus pe byddai rhai ohonynt yn ei taro. Fodd bynnag, mae llygedyn o obaith.

"Rydym yn dod yn fwyfwy ymwybodol o fygythiad posibl sbwriel y gofod, gan gynnwys y darnau naturiol a'r rhai mae pobl wedi'u creu. Fodd bynnag, ceir hefyd y posibilrwydd o fanteision economaidd o ganlyniad i fwyngloddio asteroidau,” ychwanegodd Dr Roche, o'r Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth.

Cynhelir ei drafodaeth am 19:00, nos Wener, 3 Mehefin.

Bydd Dr Kelly BéruBé, o Ysgol y Biowyddorau a Darllenydd Biowyddorau yn y Grŵp Ymchwil Ysgyfaint a Gronynnau, yn trafod y problemau iechyd difrifol a achosir i'r ysgyfaint gan ronynnau yn yr aer mewn bywyd bob dydd.

Bydd hi'n rhannu'r canfyddiadau diweddaraf yn ystod ei thrafodaeth am 20:30, nos Sadwrn 28 Mai.

Mae Dr BéruBé hefyd yn gwneud cyflwyniad ar wahân fel rhan o ddigwyddiad peilot a ariennir gan Lywodraeth Cymru lle bydd ymchwilwyr yn cyflwyno darlith 20 munud o hyd i fyfyrwyr 16-25 oed. Bydd yn trafod ailgylchu gwastraff meddygol fel rhan o thema cynaliadwyedd yr ŵyl yn 2016.

Bydd Dr Joe O'Mahoney yn trin a thrafod osgoi treth, arfer sydd wedi cael cryn sylw mewn newyddion gwleidyddol ac economaidd yn ddiweddar, yn ystod trafodaeth am 14:30, ddydd Iau 26 Mai.

Bydd Dr O'Mahoney, o Ysgol Busnes Caerdydd, a gwesteion yn edrych ar sut mae rhai pobl yn osgoi talu treth, beth y gellir ei wneud amdano, a chamau y gellir eu cymryd yn lleol yn erbyn yr arferion hyn.

Sefydlu atlas llenyddol digidol o Gymru a'i Gororau fydd o dan sylw yn nhrafodaeth Dr Jon Anderson o'r Ysgol Cynllunio a Daearyddiaeth, ddydd Gwener, 27 Mai am 14:30.

Mae'r ddaearyddiaeth lenyddol newydd yn seiliedig ar y rhagdybiaeth na ellir cyfyngu nofelau a storïau o fewn cloriau llyfr. Yn hytrach, maent yn rhan o brofiad byw y byd o'n cwmpas drwy ddychymyg y darllenydd.

Rhannu’r stori hon