Ewch i’r prif gynnwys

Ymchwil Prifysgol Caerdydd yn llywio deddfwriaeth gwrth ysmygu Llywodraeth Cymru

15 Gorffennaf 2014

anti-smoking

Mae un o bob deg plentyn yng Nghymru yn dal i fod yn agored i fwg mewn ceir teuluol, yn ôl ymchwil diweddar.

Ac mae un o bob pum plentyn â rhiant sy'n ysmygu yn dweud bod oedolion yn dal i ysmygu yn y cerbyd teuluol.

Mae'r astudiaeth, a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru ac a gyflawnwyd gan ymchwilwyr yng Nghanolfan DECIPHer, Prifysgol Caerdydd, wedi llywio penderfyniad heddiw i gyflwyno gwaharddiad ar ysmygu mewn ceir.

Er gwaethaf annerbynioldeb cynyddol ysmygu o flaen plant, dywedodd 9% o blant 10 ac 11 oed a arolygwyd yn 2014, bod ysmygu'n cael ei ganiatáu yn y cerbyd teuluol, o'i gymharu ag 18% yn 2008.

Dywedodd Dr Graham Moore, prif ymchwilydd yr astudiaeth, "Rydym yn croesawu'r gwaharddiad bore yma gan Lywodraeth Cymru. Mae ysmygu mewn ceir ac yn y cartref yn parhau i ostwng, ond mae lleiafrif gweddol fawr o blant yn dal i fod yn agored i fwg yn y lleoedd hyn."

"Mae tystiolaeth yn dangos cefnogaeth uchel ymhlith y cyhoedd am waharddiad ar ysmygu mewn ceir sy'n cludo plant. Mae ein tystiolaeth yn amlygu angen am weithredu parhaus i wneud ysmygu o flaen plant yn llai derbyniol yn gymdeithasol, p'un ai yn y car neu gartref."

Mae Dr Moore yn ymchwilydd yn DECIPHer, Canolfan Datblygu a Gwerthuso Ymyriadau Cymhleth ar gyfer Gwella Iechyd y Cyhoedd, sy'n ymchwilio i ffyrdd o wella iechyd a lles wrth leihau anghydraddoldebau iechyd.

Mae ei ymchwil yn dangos hefyd bod gan blant sy'n arbrofi ag e-sigaréts fwriadau gwrth-ysmygu gwannach.

Dywedodd oddeutu 15% o blant 10 ac 11 oed a oedd wedi defnyddio sigarét electronig, y byddan nhw o bosibl, neu y byddan nhw, yn dechrau ysmygu yn y ddwy flynedd nesaf, o'i gymharu â 2% o'r rheiny nad oedd wedi arbrofi â nhw.

Mae'r ffigurau'n dangos, yn 2014, bod 6% wedi adrodd eu bod nhw wedi defnyddio e-sigarét unwaith o leiaf; roedd tair gwaith cymaint wedi rhoi cynnig ar ysmygu baco (2%).

Dywedodd Dr Moore, "Ymddengys bod y defnydd o e-sigaréts yn cynrychioli ffurf newydd o arbrofi â nicotin yn ystod plentyndod, sy'n fwy cyffredin ymhlith plant 10 ac 11 oed, nag ysmygu baco. Mae'r defnydd o e-sigaréts yn fwy cyffredin ymhlith plant sydd â rhieni sy'n ysmygu baco, ac mae'n gysylltiedig â bwriad cynyddol i ddechrau ysmygu."

Dechreuodd Prifysgol Caerdydd weithio gyda Llywodraeth Cymru ar ysmygu goddefol plant yn 2006. Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i gynnig deddfwriaeth yn erbyn ysmygu mewn mannau cyhoeddus.

Mae pwerau penodol sydd wedi cael eu cynnwys yn Neddf Iechyd 2006, gan Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014, yn rhoi pwerau galluogi i Weinidogion Cymru yng Nghymru gyflwyno rheoliadau i wahardd ysmygu mewn cerbydau preifat sy'n cludo plant a phobl ifanc o dan 18 oed.