Ewch i’r prif gynnwys

Dangos ffilm am ddim i drigolion Caerdydd

20 Mai 2016

mental health

Mae'r Brifysgol wedi trefnu i ddangos ffilm Disney Pixar, Inside Out, yn rhad ac am ddim i drigolion Caerdydd, i gyd-fynd ag Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl.

Dangosir y ffilm, sy'n ystyried emosiynau a lles meddyliol plentyn, gan y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl (NCMH) gyda chefnogaeth gan brosiect ymgysylltu Porth Cymunedol y Brifysgol.

Nod y digwyddiad yw cyflwyno cysyniadau sylfaenol o iechyd meddwl i gynulleidfa iau. Bydd hefyd yn helpu i feithrin cysylltiadau rhwng NCMH, trigolion o gymunedau'r Brifysgol, y Porth Cymunedol a myfyrwyr Prifysgol Caerdydd sy'n astudio pynciau perthnasol.

Mae myfyrwyr o Ysgolion fel Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd a staff o Sefydliad Niwrowyddoniaeth ac Iechyd Meddwl y Brifysgol, wedi'u gwahodd i wirfoddoli yn y digwyddiad ochr yn ochr â thîm NCMH.

Mae'r ffilm yn adrodd hanes merch ifanc o'r enw Riley. Mae bywyd Riley yng Nghanol Gorllewin America yn cael ei droi ben i waered pan fydd ei thad yn dechrau swydd newydd yn San Francisco.

Caiff Riley ei harwain gan ei hemosiynau, Hapusrwydd, Ofn, Dicter, Atgasedd a Thristwch, pob un yn gymeriad sy'n byw yn ei meddwl ac yn ei helpu drwy'r da a'r drwg yn ei bywyd bob dydd.

Caiff Inside Out ei dangos ddydd Sadwrn 21 Mai yn Adeilad Hadyn Ellis.

Rhaglen ar y cyd rhwng Prifysgolion Caerdydd, Abertawe a Bangor yw'r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl. Llywodraeth Cymru sy'n ei hariannu drwy Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Mae'n ymchwilio i achosion amrywiaeth o broblemau iechyd meddwl ac yn ceisio codi ymwybyddiaeth o faterion iechyd meddwl yng Nghymru.

Mae'r Porth Cymunedol yn meithrin partneriaeth hirdymor gyda thrigolion o faestref Grangetown yng Nghaerdydd, i wneud yr ardal yn lle gwell byth i fyw ynddi.

Mae'n un o bum prosiect ymgysylltu blaenllaw'r Brifysgol, a elwir hefyd yn rhaglen Trawsnewid Cymunedau.

Mae'r Brifysgol yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a chymunedau yng Nghaerdydd, Cymru a thu hwnt ym meysydd iechyd, addysg a lles ymhlith eraill.

Mae hyn yn cynnwys cefnogi Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, cysylltu cymunedau drwy wefannau hyperleol, creu modelau ymgysylltu cymunedol a helpu i leihau tlodi yn Affrica is-Sahara.