Ewch i’r prif gynnwys

Ydy germau'n achosi diabetes math 1?

16 Mai 2016

diabetes

Gallai germau chwarae rhan yn natblygiad diabetes math 1 drwy ysgogi system imiwnedd y corff i ddinistrio'r celloedd sy'n cynhyrchu inswlin, yn ôl awgrym mewn ymchwil newydd yn y Brifysgol.

Yn flaenorol mae gwyddonwyr wedi dangos bod celloedd-T sy’n lladd, ac sy'n fath o gell gwaed wen sydd fel arfer yn ein gwarchod rhag germau, yn chwarae rhan fawr mewn diabetes math 1 drwy ddinistrio celloedd sy'n cynhyrchu inswlin, a elwir yn gelloedd beta.

Nawr, gan ddefnyddio Diamond Light Source, cyfleuster gwyddoniaeth syncrotron y DU, i ddisgleirio pelydrau-x dwys, hynod bwerus i mewn i samplau, mae tîm o Sefydliad Ymchwil Imiwnedd Systemau'r Brifysgol  wedi darganfod bod yr un celloedd-T sy’n lladd ac sy'n achosi diabetes yn cael eu hysgogi gan rai bacteria.

Mae'r tîm yn gobeithio bydd y gwaith ymchwil hwn yn arwain at ffyrdd newydd i wneud diagnosis, atal neu hyd yn oed ddileu diabetes math 1.

Dywedodd yr Athro Andy Sewell, prif awdur yr astudiaeth: "Mae celloedd-T sy'n lladd yn hynod o effeithiol wrth ladd germau ond pan fyddan nhw'n ymosod ar ein meinwe ein hunain drwy gamgymeriad, gall yr effaith fod yn drychinebus."

"Yn ystod diabetes math 1, credir bod celloedd-T yn ymosod ar gelloedd beta y pancreas. Y celloedd hyn sy'n gwneud yr inswlin sy'n hanfodol ar gyfer rheoli lefelau siwgr yn y gwaed.

"Pan gaiff y celloedd beta eu dinistrio, rhaid i gleifion chwistrellu inswlin bob dydd er mwyn aros yn iach."

Yn wahanol i ddiabetes math 2, mae diabetes math 1 yn gyffredin mewn plant ac oedolion ifanc, a does dim cysylltiad â diet. Ychydig iawn o ddealltwriaeth sydd yna o'r hyn sy'n sbarduno diabetes math 1 ac ar hyn o bryd nid oes iachâd iddo gyda chleifion yn gorfod parhau a'u triniaeth gydol oes.

Mewn astudiaethau blaenorol llwyddodd tim Caerdydd i ynysu cell-T o glaf â diabetes math 1 a gweld y rhyngweithio unigryw sy'n lladd y celloedd beta sy'n cynhyrchu inswlin yn y pancreas.

Canfuwyd fod y celloedd-T hyn yn 'draws-adweithiol' iawn, oedd yn golygu eu bod yn gallu adweithio i lawer o sbardunau gwahanol gan godi'r posibilrwydd y gallai pathogen ysgogi'r celloedd-T sy'n cychwyn diabetes math 1.

Dywedodd Dr David Clarke: "Mae'r celloedd-T sy’n lladd yn synhwyro eu hamgylchedd drwy ddefnyddio derbynyddion ar wyneb y gell sy'n gweithredu fel blaenau bysedd hynod o sensitif, i sganio am germau.

"Fodd bynnag, ambell waith bydd y synwyryddion hyn yn adnabod y targed anghywir, gyda'r celloedd-T wedyn yn ymosod ar ein meinwe ein hunain. Rydym ni, ac eraill, wedi dangos mai dyma sy'n digwydd yn ystod diabetes math 1 pan fydd celloedd-T yn ymosod ac yn dinistrio celloedd beta.

"Yn yr astudiaeth newydd hon, roedden ni'n awyddus i weld beth oedd yn achosi i'r celloedd-T hyn ladd y celloedd beta. Llwyddon ni i adnabod rhan o haint sy'n sbarduno'r celloedd-T sy’n lladd gan wneud iddyn nhw afael yn y celloedd beta. Mae'r darganfyddiad hwn yn taflu goleuni newydd ar y modd mae'r celloedd-T hyn yn cael eu troi'n rogiaid gan arwain at ddatblygu diabetes math 1.

Mae'r ymchwil, a gyhoeddwyd yn y Journal of Clinical Investigation, yn cynnig y cipolwg cyntaf erioed ar sut y gallai germau sbarduno celloedd-T sy’n lladd i achosi diabetes math 1, ond mae hefyd yn arwyddo dull mwy cyffredinol ar gyfer achosi clefydau hunanimíwn eraill.

Ychwanegodd Dr Cole: "Mae llawer ar ôl i'w ddysgu am achosion pendant diabetes math 1 ac rydyn ni'n gwybod bod ffactorau genetig ac amgylcheddol eraill ar waith.

"Mae'r ymchwil hwn yn arwyddocaol gan ei fod yn dynodi, am y tro cyntaf erioed, ffactor allanol a allai sbarduno celloedd-T sy'n gallu dinistrio celloedd beta."

Dywedodd yr Athro Melanie Welham, Prif Weithredwr y Cyngor Ymchwil Biodechnoleg a'r Gwyddorau Biolegol (BBSRC), a gydariannodd yr astudiaeth: "Mae hyn yn dangos gwerth ymchwil sy'n archwilio bioleg celloedd sylfaenol y system imiwnedd.

"Gallai dod o hyd i'r systemau cellol y tu ôl i ddatblygiad clefydau hunanimíwn, fel diabetes math 1, arwain at driniaethau a allai ein helpu i fyw bywydau hirach, mwy iach."

Dywedodd yr Athro Matthias von Herrath, MD, Athro yn Sefydliad La Jolla Er Alergedd ac Imiwnoleg ac Is-Lywydd NovoNordisk: "Mae diabetes math 1 yn gyflwr difrifol iawn ac yn un sy'n anodd ei drin ac sy'n effeithio ar bobl ifanc yn bennaf.

Gallai'r canfyddiad newydd hwn, sy'n dangos sut y gallai ffactorau allanol sbarduno celloedd-T i 'ddeffro' a dechrau ymosod ar gelloedd beta, helpu i egluro sut mae'r clefyd hwn yn datblygu a gallai siapio cyfeiriad triniaethau a diagnosteg yn y dyfodol."

Ariannwyd astudiaeth Caerdydd gan y Cyngor Ymchwil Biodechnoleg a'r Gwyddorau Biolegol (BBSRC), Ymddiriedolaeth Ymchwil Diabetes Ieuenctid (JDRF) ac Ymddiriedolaeth Wellcome, gan ddefnyddio cyfleusterau a ddarparwyd gan Diamond Light Source.