Ewch i’r prif gynnwys

Prosiect 'Data Mawr' ar gyfer Admiral a Phrifysgol Caerdydd

12 Mai 2016

Binary code

Mae Prifysgol Caerdydd yn cydweithio ag Admiral ar ddau brosiect Partneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth er mwyn dadansoddi 'Data Mawr'.

Admiral yw un o gwmnïau yswiriant ceir mwyaf y DU. Mae'n hawlio 11% o gyfran y farchnad ac mae'n rhagori ar eraill o ran canlyniadau ariannol.

Er mwyn manteisio ar ddadansoddeg Data Mawr, roedd y cwmni am ddefnyddio arbenigedd academaidd wrth ddadansoddi llawer o ddata, ei amrywiaeth a pha mor aml y caiff ei gynhyrchu. Roedd hefyd am ddefnyddio gallu technolegol i ddylunio ac ymgorffori llwyfan a fyddai'n casglu data'n fwy effeithiol.

Drwy weithio gyda Dr Pete Burnap, Darlithydd yn Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg Prifysgol Caerdydd, bydd cael gwybodaeth ac arbenigedd newydd am ddulliau yn hynod werthfawr ac yn galluogi Admiral i fynd o nerth i nerth, creu cynnyrch newydd a pharhau i ragori ar gwmnïau eraill yn y farchnad.

Mae gan Dr Pete Burnap brofiad o ymchwilio i Ddata Mawr yn ogystal â dyluniad a thechnoleg llwyfannau meddalwedd. Mae ganddo enw da'n rhyngwladol am ddadansoddi 'Data Mawr' ym maes Diogelwch Pobl ac Ar-lein drwy ddefnyddio dysgu cymhwysol gyda pheiriannau a modelu ystadegol i ddarogan digwyddiadau go iawn.

Mae dau swyddog cyswllt wedi'u recriwtio i reoli'r prosiectau, Gwyddonydd Data mewn Dadansoddeg Graddadwy a Gwyddonydd Data mewn Dadansoddeg Peryglon. Bydd y ddau'n arwain prosiectau unigol fydd yn cyfrannu at y galluoedd dadansoddi Data Mawr cyffredinol a geisir.

Wrth sôn am y bartneriaeth, dywedodd Daniel Mines, Rheolwr Trawsnewid Data Admiral Group plc: “Mae technoleg defnyddwyr yn datblygu'n gyflym ac mae'r byd cynyddol 'gysylltiedig' yr ydym yn byw ynddo yn newid llawer o ddiwydiannau traddodiadol, gan gynnwys ym maes yswiriant.  Mae Admiral wedi cofleidio arloesedd, a dyma hanfod ein llwyddiant. Dyna pam yr ydym yn edrych ymlaen at gydweithio â Phrifysgol Caerdydd i ddatblygu ein cynnyrch telemateg arloesol ymhellach. Gyda'n gilydd, byddwn yn datblygu ein harbenigedd mewn technoleg data ac yn rhoi profiadau gwell i gwsmeriaid yn y pen draw.”

Dr Pete Burnap: “Mae gan y Labordy Gwyddoniaeth Data Cymdeithasol hen hanes o arloesedd methodolegol ac ymchwil gyfrifiadurol ar sail data sy'n mynd i'r afael â phroblemau o bwys ym meysydd diogelwch cymdeithasol. Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at weithio gydag Admiral i fynd i'r afael â'r broblem gymdeithasol ac economaidd o bwys o ran creu ffyrdd mwy diogel a deall y peryglon i yrwyr. Mae Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg Prifysgol Caerdydd yn cael ei chydnabod yn genedlaethol am effaith ei hymchwil. Mae rhyngweithio â diwydiant yn hanfodol er mwyn creu arloesedd sy'n cael effaith a rhaglenni gradd sydd ar flaen y gad. Rydym yn gwbl hyderus y bydd y prosiect hwn yn gwella ac yn trawsnewid prosesau asesu peryglon Admiral. Bydd hefyd yn rhoi'r sylfaen ar gyfer eu strategaeth gwyddoniaeth data arloesol yn y dyfodol”

Cewch ragor o wybodaeth am Bartneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth yn http://www.caerdydd.ac.uk/ktp/

Rhannu’r stori hon