Ewch i’r prif gynnwys

‘Llen yn codi, sbotolau ar y llwyfan’: myfyrwyr ar waith ar brosiect ysgrifennu

11 Mai 2016

Dwy fyfyrwraig yn ennill lle i weithio gyda chwmni drama’r Frân Wen

Mae Mirain Jones, myfyrwraig MA, ac Elin Rowlands, myfyrwraig blwyddyn 3, wedi cael eu dewis i fod yn rhan o brosiect ysgrifennu Sgript i Lwyfan 2016 gyda Chwmni’r Frân Wen.

Cynllun ysgrifennu newydd yw Sgript i Lwyfan. Bwriad y cynllun yw cyflwyno dramodwyr ifanc i’r grefft o ysgrifennu sgript, ei ddatblygu, a’i lwyfannu.

Bydd y deg sydd wedi eu dethol ar gyfer y cynllun yn cael eu mentora gan aelodau proffesiynol o’r gymuned theatrig er mwyn datblygu a mireinio eu sgiliau a’u syniadau creadigol. Byddant hefyd yn cael eu cyflwyno i’r broses o drosglwyddo sgript i dîm creadigol i’w ddatblygu a’i wireddu.

Bydd gwaith gorffenedig un o’r deg yn cael ei ddatblygu gan gyfarwyddwr proffesiynol a bydd darlleniadau gan actorion proffesiynol yn ystod Gŵyl INC 2016 yng Nghaernarfon.

Yn ystod ei chwrs BA yn Ysgol y Gymraeg, dilynodd Elin fodiwlau Sgriptio ac Ysgrifennu Creadigol tra bo Mirain wedi astudio’r ddrama ac ysgrifennu creadigol fel rhan o’i gradd MA yn y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd.

Dywedodd yr Athro Sioned Davies, Pennaeth Ysgol y Gymraeg: “Hoffwn longyfarch Mirain ac Elin ar eu llwyddiant, a dymuno’r gorau i’r ddwy ohonynt wrth iddyn nhw ymgymryd â’r prosiect. Mae’n braf bod creadigrwydd ein myfyrwyr yn derbyn cydnabyddiaeth allanol.

“Mae hanes hir gan yr Ysgol fel meithrinfa i dalent llenyddol a chreadigol newydd, ac mae’n bwysig ein bod yn darparu cefnogaeth a chyfleoedd amrywiol fel bod ein myfyrwyr yn gallu cyrraedd eu potensial. Mae’n hollbwysig ein bod yn cynnig i’n myfyrwyr gyfleoedd ymarferol a phroffesiynol er mwyn iddynt allu cystadlu yn y farchnad swyddi yng Nghymru, a thu hwnt.”

Mae Ysgol y Gymraeg wedi ymrwymo i hybu a hyrwyddo sgiliau cyflogadwyedd sydd yn berthnasol i’r ystod eang o sectorau a diwylliannau sydd yn galw am siaradwyr Cymraeg hyderus. Yn ôl y data diweddaraf, mae 100% o fyfyrwyr yr Ysgol yn gweithio neu’n ymgymryd ag astudiaethau bellach o fewn chwe mis i raddio.

Rhannu’r stori hon