Ewch i’r prif gynnwys

Lleihau nifer y marwolaethau cynnar

10 Mai 2016

Premature baby in incubator

Yn ôl ymchwil newydd gan y Brifysgol, mae babanod sydd â phwysau geni isel yn fwy tebygol o farw o'r adeg pan maent yn blant bach hyd at lencyndod.

Bu tîm o'r Ysgol Meddygaeth, o dan arweiniad yr Athro Sailesh Kotecha, yn edrych ar gyfraddau marwolaeth swyddogol ymhlith babanod oedd â phwysau geni isel. Edrychwyd ar dros 12m o enedigaethau i gyd yng Nghymru a Lloegr.

Roedd 12,355,251 o enedigaethau byw rhwng 1993 a 2011 o dan sylw yn yr ymchwil a gyhoeddwyd yng nghyfnodolyn PLOS Medicine. Ymhlith y genedigaethau hyn, bu 74,890 (0.61%) o farwolaethau yn y cyfnod rhwng 0 a 18 oed. Bu farw 57,623 (77%) o'r rhain yn ystod blwyddyn gyntaf eu bywydau, a 17,267 (23%) rhwng 1 a 18 oed.

Roedd y cyfraddau marwolaeth yn uwch ymhlith babanod oedd â phwysau geni isel, ac roedd marwolaeth yn digwydd 130 gwaith yn fwy aml ymhlith y rhai oedd â phwysau geni isel iawn (o dan 2,500g) o'u cymharu â'r rhai oedd â phwysau arferol pan yn fabanod.

Roedd digwyddiadau oedd yn ymwneud ag adeg genedigaethau a genedigaethau cynamserol yn achosion pwysig o farwolaethau ymhlith babanod.

Roedd achosion marwolaethau ymhlith y rhai rhwng 1 a 18 oed wedi'u rhannu'n fwy cytbwys. Roedd cyflyrau'r system nerfol (20%) a'r system anadlu (16%) ymhlith prif achosion marwolaeth yn y grŵp oedd â phwysau geni isaf, ond canserau ac amodau allanol (gan gynnwys damweiniau) oedd prif achosion marwolaeth yn y grwpiau oedd â phwysau geni isel.

Dywedodd yr Athro Kotecha: “Gwyddwn fod pwysau geni isel yn gysylltiedig â chyfraddau marwolaethau uwch ymhlith babanod; fodd bynnag, mae ei gysylltiad â marwolaethau nes ymlaen mewn plentyndod a llencyndod yn llai amlwg.

“Mae'r astudiaeth hon yn bwysig am ei bod yn dangos, am y tro cyntaf, bod pwysau geni isel yn gysylltiedig â marwolaethau rhwng oed babanod hyd at lencyndod.”

Fel y mae'r tîm wedi'i amlygu, astudiaeth arsylwadol oedd hon, ond credwn ei bod yn pwysleisio bod angen targedu ffactorau sy'n cyfrannu at bwysau geni isel i leihau nifer y marwolaethau.

Ychwanegodd yr Athro Kotecha: "Mae'r astudiaeth yn ailbwysleisio bod angen mynd i'r afael â ffactorau pwysig megis y fam yn ysmygu ac amddifadedd y gwyddwn eu bod yn cyfrannu at bwysau geni isel.

"Drwy wella dealltwriaeth a lleihau'r dylanwadau sy'n arwain at bwysau geni isel, gellir lleihau nifer y marwolaethau ymhlith babanod ac wedi hynny.

Rhannu’r stori hon