Ewch i’r prif gynnwys

Prifysgol Caerdydd ar y rhestr fer ar gyfer tair o Wobrau GIG Cymru!

6 Mai 2016

awards

Mae Prifysgol Caerdydd yn dathlu ar ôl i dri o'i phrosiectau gyrraedd rhestr fer Gwobrau GIG Cymru.

Mae'r bwrdd iechyd ar y rhestr fer ar gyfer y gwobrau canlynol:

Hyrwyddo Gwaith Ymchwil Clinigol a'i Ddefnyddio Wrth Ymarfer (wedi'i noddi gan Gymdeithas Feddygol Prydain Cymru Wales) am brosiect ar y cyd i sefydlu uned ymchwil glinigol bwrpasol i roi mynediad i gleifion i gyffuriau prawf newydd Cam 1.

Myfyrwyr yn Gwella Diogelwch Cleifion ac Ansawdd (wedi'i noddi gan Gymuned Myfyrwyr ac Addysgwyr 1000 o Fywydau - Gwasanaeth Gwella) am ddau brosiect ar y cyd sef:

  • gwaith i ddatblygu llwyfan casglu data digidol ar gyfer Cymru
  • dylunio prototeip o ap chwarae gemau i fesur golwg plant

Mae Gwobrau blynyddol GIG Cymru yn dathlu gwaith sefydliadau a thimau ledled GIG Cymru wrth iddynt ddarparu gofal rhagorol a chyhoeddir enwau'r buddugwyr mewn seremoni ar 23 Medi 2016.

Eleni cafwyd 167 o geisiadau am y Gwobrau a chafodd y panel o feirniaid, sy'n arbenigwyr ar y GIG, y gorchwyl anodd o ddethol 24 o geisiadau ar gyfer y rhestr fer mewn wyth o gategorïau.

Y cam nesaf yw i'r paneli o feirniaid ymweld â phob prosiect ar y rhestr fer i gael rhagor o wybodaeth ac i weld y manteision i gleifion drostynt hwy eu hunain.

Caiff Gwobrau GIG Cymru eu trefnu gan 1000 o Fywydau, y gwasanaeth gwella ar gyfer GIG Cymru a ddarperir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Fe'u lansiwyd yn 2008 i ddathlu 60 mlynedd ers sefydlu'r GIG

I gael rhestr lawn o'r rhai sydd wedi cyrraedd y rhestr fer ewch i www.nhswalesawards.org.uk/hafan.

Rhannu’r stori hon