Ewch i’r prif gynnwys

Deall ymateb y corff i aspirin

28 Ebrill 2016

Professor Valerie O'Donnell

Mae gwyddonwyr y Brifysgol wedi gwneud darganfyddiad pwysig o ran deall sut mae gwahanol unigolion yn ymateb i aspirin.

Mae hyn yn arwyddocaol gan fod aspirin yn gyffur ataliol cardiofasgwlaidd a ddefnyddir yn eang, ac mae ganddo hefyd rôl gynyddol fel cyffur i drin ac atal canser.

Mae deall sut mae pobl yn ymateb i aspirin yn allweddol o ran gwybod pwy fydd yn elwa arno.

Am y tro cyntaf, dangosodd y gwaith ymchwil, o dan arweiniad yr Athro Valerie O'Donnell o Sefydliad Ymchwil Imiwnedd Systemau'r Brifysgol, bod cysylltiad uniongyrchol rhwng cynhyrchu ynni a newidiadau cyflym yn y lefelau o lipidau cellog (brasterau), mewn celloedd gwaed arbenigol o'r enw platennau, sy'n hanfodol ar gyfer ceulo'r gwaed.

"Mae ein gwaith ymchwil yn dangos cysylltiad newydd rhwng metabolaeth ynni a llid. Mae hefyd yn rhoi dealltwriaeth gynnar i ni o hanfodion meddygaeth fanwl, yng nghyd-destun amrywiad y lipidom ymhlith unigolion," meddai'r Athro O'Donnell.

Canfu'r gwaith ymchwil, a oedd hefyd yn cynnwys gwaith yr Athro Victor Darley-Usmar, Cyfarwyddwr Labordy Meddygaeth Mitocondriaidd Prifysgol Alabama yn Birmingham, a'r Athro Robert Murphy yn Adran Ffarmacoleg Prifysgol Colorado Denver, UDA, dros 5,600 o lipidau mewn platennau, ac roedd modd cyfrifo amrywiad y rhoddwyr gyda thriniaeth aspirin, o is-set a gaiff ei gynhyrchu pan fydd y celloedd yn cael eu hysgogi gan lid.

Cyhoeddwyd y gwaith ymchwil yn y cyfnodolyn Cell Metabolism, a dyma'r proffil lipidomig cynhwysfawr cyntaf o blatennau dynol mewn ymateb i symbyliad a thriniaeth aspirin.

Dywedodd yr Athro Mike Murphy, Uned Bioleg Mitocondriaidd y Cyngor Ymchwil Meddygol, Caergrawnt: "Mae'r gwaith hwn o dan arweiniad yr Athro O'Donnell yn ymchwil dechnegol hynod flaenllaw, sy'n darparu adnodd arbennig ar gyfer ymchwilwyr biofeddygol eraill. Agwedd hynod bwysig yw'r ffocws ar blatennau, sydd ar gael yn rhwydd o waed cleifion wrth roi diagnosis, neu brognosis, neu fel biofarciwr wrth asesu therapïau.

"Yn ogystal â'i ddefnydd yn y dyfodol, roedd y gwaith hwn hefyd yn dangos cysylltiad annisgwyl rhwng metabolaeth braster mitocondriaidd ac ysgogi platennau yn ystod llid."

Ariannwyd y gwaith ymchwil gan y Cyngor Ymchwil Ewropeaidd ac Ymddiriedolaeth Wellcome.