Ewch i’r prif gynnwys

Ydy asbirin yn helpu i drin canser?

20 Ebrill 2016

Aspirin tablets

Gallai cleifion sy'n cael triniaeth canser gynyddu eu siawns o oroesi o hyd at 20% a helpu i atal eu canser rhag lledaenu drwy gymryd dos isel o asbirin, mae ymchwil Prifysgol newydd yn ei awgrymu.

Mewn adolygiad systematig o'r llenyddiaeth wyddonol sydd ar gael bu i dîm o Ysgol Feddygaeth y Brifysgol weld gostyngiad sylweddol mewn marwolaeth a chanser yn lledaenu gan gleifion a gymerodd ddos isel o asbirin yn ychwanegol at eu triniaeth canser.

"Mae corff cynyddol o dystiolaeth bod cymryd asbirin o fudd sylweddol i leihau rhai mathau o ganser," meddai’r Athro Peter Elwood a fu'n arwain yr ymchwil a gyhoeddwyd yng nghyfnodolyn PLOS ONE.

"Er ein bod yn ymwybodol fod dos isel o asbirin wedi dangos i leihau nifer yr achosion o ganser, mae ei rôl o ran triniaeth canser yn parhau'n annelwig. O ganlyniad, bu i ni gynnal chwiliad systematig o’r holl lenyddiaeth wyddonol.”

Edrychodd adolygiad y tîm ar yr holl ddata sydd ar gael gan gynnwys pump o dreialon ar hap a phedwar deg a dau o astudiaethau arsylwi o ganser y coluddyn, canser y fron a chanser y brostad.

Dywedodd yr Athro Elwood: "Mae ein hadolygiad, yn seiliedig ar y dystiolaeth sydd ar gael, yn awgrymu bod asbirin dos isel a gymerwyd gan gleifion canser y coluddyn, canser y fron neu ganser y brostad, yn ogystal â thriniaethau eraill, yn gysylltiedig â gostyngiad yn nifer y marwolaethau o tua 15-20%, ynghyd â gostyngiad yn lledaeniad y canser.

"Mae canlyniadau o chwe astudiaeth o fathau eraill o ganser hefyd yn awgrymu gostyngiad, ond roedd nifer y cleifion yn rhy ychydig i alluogi dehongli’n hyderus. Roedd mwtaniad – a elwir yn PIK3CA – yn bresennol mewn tua 20% o gleifion, ac roedd yn ymddangos fod hwn yn egluro llawer o'r gostyngiad yn nifer marwolaethau canser y colon gan asbirin.

"Un o'r pryderon ynghylch cymryd asbirin o hyd yw’r potensial ar gyfer gwaedu perfeddol. Dyma pam yr edrychom yn benodol ar y dystiolaeth sydd ar gael o waedu a bu i ni ysgrifennu at yr holl awduron yn gofyn am ragor o ddata. Nid oedd gwaedu difrifol neu waedu sy'n bygwth bywyd wedi’i gofnodi mewn unrhyw achos."

O ganlyniad i'r adolygiad, dywed y tîm fod eu hastudiaeth yn amlygu'r angen am hap dreialon i sefydlu’r dystiolaeth sydd ei hangen i gefnogi asbirin dos isel fel triniaeth ychwanegol effeithiol o ganser.

Ychwanegodd yr Athro Elwood: "Er bod angen taer am waith ymchwil mwy manwl i gadarnhau ein hadolygiad ac i gael tystiolaeth ar gyfer canserau llai cyffredin, byddem yn annog cleifion â diagnosis o ganser i siarad â'u meddyg am ein canfyddiadau fel y gallant wneud penderfyniad gwybodus ynghylch cymryd asbirin dos isel fel rhan o'u triniaeth ganser neu beidio."

Nid hon yw unig astudiaeth lwyddiannus yn archwilio ffyrdd o wella iechyd pobl dan arweiniad yr Athro Elwood.   Ym 1974, nododd tîm Elwood hap-dreial cyntaf asbirin i atal marwolaethau fasgwlaidd yn y British Medical Journal.

Hefyd, arweiniodd yr Athro Elwood astudiaeth fawr oedd yn monitro arferion iechyd 2,235 o ddynion dros gyfnod o 35 mlynedd a chanfod fod ymarfer yn lleihau’r risg o ddatblygu dementia yn sylweddol. Yr astudiaeth oedd yr hwyaf o'i fath i brocio dylanwad ffactorau amgylcheddol ar glefyd cronig.

Nododd yr astudiaeth bum ymddygiad iach fel rhan annatod o gael y cyfle gorau o fyw bywyd di-glefyd: ymarfer corff rheolaidd, peidio ysmygu, pwysau corff iach, diet iach ac yfed ychydig o alcohol yn unig.

Rhannu’r stori hon