Ewch i’r prif gynnwys

Dim gostyngiad mewn troseddau treisgar

20 Ebrill 2016

Jonathan Shepherd

Am y tro cyntaf ers saith mlynedd, ni welwyd gostyngiad yn nifer y bobl yng Nghymru a Lloegr a anafwyd drwy drais a arweiniodd at driniaeth mewn ysbyty, yn ôl astudiaeth gan y Brifysgol.

Mae'r astudiaeth gan y Grŵp Ymchwilio i Drais ym Mhrifysgol Caerdydd, yn amcangyfrif bod 210,215 o bobl wedi mynd i Uned Achosion Brys ar gyfer triniaeth yn dilyn trais yn 2014. Mae hyn yn nifer tebyg i'r rhai a anafwyd yn 2014.

Dyma'r tro cyntaf ers 2008 i ni beidio â gweld gostyngiad o bwys.

Yn ôl prif awdur yr astudiaeth a Chyfarwyddwr y Grŵp Ymchwilio i Drais yn y Brifysgol, yr Athro Jonathan Shepherd: "Yn ôl ein hastudiaeth am 2015, ni fu unrhyw newid sylweddol yn y gyfradd gyffredinol o ran trais yn ystod y 12 mis a ddaeth i ben ar 31 Rhagfyr 2015.

"Ar ôl gweld lefelau trais yng Nghymru a Lloegr yn gostwng flwyddyn ar ôl blwyddyn, dyma'r tro cyntaf ers 2008 i ni weld bron ddim newid yn y nifer a ddioddefodd trais oedd yn ddigon difrifol i orfodi pobl i fynd i'r ysbyty.

"Mae'r canfyddiad hwn hefyd yn cyd-fynd â'r adroddiad diweddaraf o Arolwg Troseddau Cymru a Lloegr (CSEW) sydd hefyd yn gweld bod cyfraddau'r digwyddiadau treisgar yn y flwyddyn a ddaeth i ben fis Medi 2015, yr un fath â'r rhai a welwyd y flwyddyn flaenorol.

"Mae'n bosibl bod y gostyngiad parhaus a hirdymor mewn trais yng Nghymru a Lloegr wedi dod i ben."

Ers 16 o flynyddoedd, mae'r astudiaeth flynyddol hon wedi bod yn astudio data dienw o sampl wyddonol sy'n cynnwys 91 o Unedau Achosion Brys, Unedau Mân Anafiadau a Chanolfannau Galw i Mewn yng Nghymru a Lloegr. Mae pob un yn aelodau ardystiedig o'r Rhwydwaith Cenedlaethol ar gyfer Goruchwylio Trais (NVSN).

Yn ôl yr astudiaeth, sy'n edrych ar ddata yn ôl oedran a rhyw, roedd bechgyn ddwywaith a hanner yn fwy tebygol na menywod o gael triniaeth frys ar ôl cael anaf mewn achos o drais. Dynion oedd y mwyafrif ym mhob grŵp oedran.

Fel yn y blynyddoedd blaenorol, daeth i'r amlwg yn yr astudiaeth mai dynion rhwng 18 a 30 oed sy'n parhau i fod fwyaf mewn perygl o gael anaf sy'n gysylltiedig â thrais ac mai ar y penwythnos yn ystod misoedd Mai, Awst a Rhagfyr y mae'r achosion sy'n arwain at fynd i Uned Achosion Brys yn fwyaf tebygol o ddigwydd.

Bu gostyngiad mewn trais difrifol sy'n effeithio ar blant (0-10 oed), gan barhau'r gostyngiad sylweddol a welwyd yn 2014, tra bod trais treisgar wedi effeithio ar 8% yn rhagor o bobl 51+ oed.

Er nad yw'r astudiaeth yn ystyried pam nad yw cyfraddau trais wedi parhau i ostwng, mae'r adroddiad yn cyfeirio at beidio â buddsoddi mewn teledu cylch cyfyng a dadansoddiadau o droseddu gan gynghorau a'r heddlu fel ffactorau posibl.

Ychwanegodd yr Athro Shepherd: "Mae'r ffaith fod awdurdodau lleol a'r heddlu yn buddsoddi llai mewn monitro teledu cylch cyfyng a dadansoddi troseddau ymhlith yr esboniadau posibl a allai egluro'r patrwm hwn. Mae gweithgareddau o'r fath yn aml yn cael eu hystyried fel gwaith gweinyddol llai pwysig".

"Mae angen i ymarferwyr iechyd y cyhoedd a'r llunwyr polisïau sy'n gyfrifol am fynd i'r afael â thrais cymunedol yng Nghymru a Lloegr nodi hyn ac ystyried adnewyddu cynlluniau atal trais, yn enwedig os bydd y tueddiadau'n debyg yn 2016."