Ewch i’r prif gynnwys

Graddedigion yn Gwirioni ar Gaerdydd

11 Ebrill 2016

Dragon outside Main Building

Mae myfyrwyr Prifysgol Caerdydd sy'n dymuno gweithio ym mhrifddinas Cymru ar ôl graddio, yn cael cyfle i gwrdd â chyflogwyr lleol mewn ffair gyrfaoedd unigryw.

Cynhelir y ffair ar 19 Ebrill 2016 yn Y Plas yn Undeb y Myfyrwyr, Prifysgol Caerdydd, a bydd yn cynnwys dros 30 o sefydliadau o Gaerdydd a de Cymru, sydd â swyddi gwag ar gyfer graddedigion pob disgyblaeth.

Esbonia Virginia Bonet Morell, Swyddog Cyswllt Cyflogwyr: "Mae tua 40 y cant o raddedigion Prifysgol Caerdydd yn dod o hyd i swydd yng Nghaerdydd neu yn ne Cymru ar ôl graddio. Am y rheswm hwn, rydym yn lansio ein ffair gyrfaoedd newydd sbon, 'Graddedigion yn Gwirioni ar Gaerdydd', i dynnu sylw at gyfleoedd lleol i fyfyrwyr sy'n dymuno aros ym mhrifddinas Cymru.

"Bydd amrywiaeth eang o gyflogwyr yn y digwyddiad hwn, a phob un ohonynt yn chwilio am fyfyrwyr o wahanol ddisgyblaethau gradd. O recriwtwyr mawr i fusnesau bach a chanolig lleol a busnesau newydd, bydd amrywiaeth o arddangoswyr yn bresennol, yn hyrwyddo'r cyfleoedd sydd ar gael ganddynt i raddedigion Prifysgol Caerdydd."

Noddir y ffair gan Admiral, un o'r cyflogwyr preifat mwyaf yng Nghaerdydd. Dywedodd llefarydd ar ran y cwmni: "Mae'n bleser gan Admiral noddi Ffair Gyrfaoedd Graddedigion yn Gwirioni ar Gaerdydd ym Mhrifysgol Caerdydd. Rydym yn cyflogi dros 3,000 o bobl yn ein pencadlys yng nghanol dinas Caerdydd, ac mae graddedigion yn rhan hanfodol o ddatblygiad ein busnes, sy'n prysur ehangu.

"Mae Admiral wedi cael ei enwi'n un o'r cwmnïau gorau yn y DU i weithio ar eu cyfer, bob blwyddyn ers 2001, ac mae bellach yn cynnig gwasanaeth i dros 4,000,000 o gwsmeriaid. Mae graddedigion a gafodd eu recriwtio o Brifysgol Caerdydd wedi mwynhau gyrfaoedd boddhaol gydag Admiral, yn aml mewn swyddi sy'n cynnwys cyswllt uniongyrchol â'r tîm rheoli ar y lefel uchaf."

Mae cyflogwyr bob amser yn awyddus i recriwtio graddedigion o Brifysgol Caerdydd. Mae 95.5 y cant o fyfyrwyr Caerdydd yn dod o hyd i waith neu'n ymgymryd ag astudiaethau pellach ar ôl graddio.

Yng Nghaerdydd, mae myfyrwyr yn elwa ar amgylchedd astudio ysgogol, addysgu a arweinir gan ymchwil, yn ogystal â'r cyfle i ryngweithio ag academyddion sy'n flaenllaw yn eu maes.

Mae MotoNovo Finance yn un o'r cwmnïau sy'n arddangos yn y ffair: "Caiff MotoNovo ei arwain gan werthoedd, ac mae ganddo weledigaeth glir ar gyfer y dyfodol. Mae ei dwf parhaus yn darparu llwyfan lle gall pobl ddatblygu eu gyrfaoedd, ac rydym wedi profi hyn sawl gwaith," meddai llefarydd ar ran y cwmni.

"Rydym nawr yn chwilio am ragor o bobl i ymuno â'n tîm, pobl sydd ag uchelgais ac ymrwymiad, gan gynnwys graddedigion â'u meddwl ffres, sydd â'r egni a'r brwdfrydedd i ddatblygu'n arweinwyr ein busnes yn y dyfodol. Maes o law, bydd MotoNovo Finance yn symud i adeilad mawreddog newydd yn y Sgwâr Canolog, ac mae wedi dechrau ymgyrch recriwtio fawr a fydd yn gweld y tîm yn tyfu i dros 1000 o bobl.   Mae ffair gyrfaoedd Graddedigion yn Gwirioni ar Gaerdydd yn gyfle gwych i MotoNovo Finance arddangos y gyrfaoedd sydd ar gael i raddedigion, a'u helpu i ddatblygu dyfodol cyffrous yng Nghymru, gyda sefydliad amrywiol ac uchelgeisiol arobryn lle gall pob aelod o'r tîm ddatblygu gyrfa hirdymor."

Cynhelir ffair Graddedigion yn Gwirioni ar Gaerdydd rhwng 11.30am a 3.30pm. Nid oes rhaid i chi gadw lle - mae croeso i fyfyrwyr alw heibio ar y diwrnod.

Rhannu’r stori hon