Ewch i’r prif gynnwys

Ceirw'r Ynysoedd

07 Ebrill 2016

Deer

Mae astudiaeth gan ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd wedi taflu goleuni newydd ar darddiad ceirw coch yr Alban.

Am flynyddoedd lawer, mae archaeolegwyr wedi darganfod olion hynafol ceirw coch ar ynysoedd pell yr Alban.   Mae tystiolaeth o feddi a thai o tua 5,000 o flynyddoedd yn ôl yn dangos bod dynion wedi ecsbloetio'r anifeiliaid eiconig hyn ar gyfer bwyd ac adnoddau.

Roedd archaeolegwyr wedi meddwl bod y ceirw coch naill ai'n nofio, neu'n cael eu cludo mewn cychod, o dir mawr yr Alban i'r ynysoedd, ond mae astudiaeth gan dîm o Brifysgol Caerdydd, a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn Proceedings of the Royal Society B, yn awgrymu bod y dybiaeth hon yn anghywir.

Bu archaeolegwyr a genetegwyr o Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd, ac Ysgol y Biowyddorau ym Mhrifysgol Caerdydd, yn cymharu dilyniannau DNA esgyrn ceirw a ganfuwyd mewn safleoedd archaeolegol ledled Ewrop.

Roedd y canlyniadau'n dangos nad yw poblogaethau hynafol Ynysoedd Heledd Allanol ac Ynysoedd y Gogledd yr un fath â'r rheini sy'n bresennol ar dir mawr hynafol neu fodern yr Alban, Scandinafia, neu Iwerddon.  Yn hytrach, roedd ceirw'r ynysoedd yn perthyn i ran wahanol o'r llinach a ganfuwyd yn ne-orllewin Ewrop yn ystod yr oes iâ ddiwethaf.

Mae darganfod bod ceirw ar ynysoedd allanol yr Alban yn wahanol i'r poblogaethau ar y tir mawr wedi datgelu dirgelwch sy'n treiddio at wraidd cymunedau'r ynysoedd mewn cyd-destun Ewropeaidd ehangach.

Gweithiodd Dr Jacqui Mulville, arbenigwr mewn ceirw coch hynafol, gyda'r genetegwyr Dr David Stanton a'r Athro Mike Bruford i ddadansoddi esgyrn hynafol. "Mae'r canlyniadau'n annisgwyl," meddai Dr Mulville.  "Rydym yn gwybod bod dynion wedi cyflwyno anifeiliaid domestig o'r cyfandir i'r ynysoedd, ond a wnaethant hefyd ddod â rhywogaethau gwyllt megis ceirw o wledydd pellach i ffwrdd? Mae ein gwaith ymchwil yn ychwanegu at gorff cynyddol o dystiolaeth sy'n dangos bodolaeth cysylltiadau cryf ag Ewrop ers miloedd o flynyddoedd."

Bydd y gwaith ymchwil yn cael ei ehangu nawr i ystyried nodweddion mwy o boblogaethau o anifeiliaid gwyllt hynafol a modern cyfandir Ewrop, i ddod o hyd i gliwiau archaeolegol neu enetig i ddangos o ble y daw ceirw ynysoedd yr Alban.

"Credwn fod y cliw i'w ganfod yn nilyniannau DNA poblogaethau o geirw coch yn Ewrop nad ydym wedi'u cynnwys yn y sampl eto," meddai Dr David Stanton, o Ysgol y Biowyddorau. "Amser a ddengys a allwn ddod o hyd i hynafiaid y ceirw hyn."

Mae'r papur, Colonization of the Scottish islands via long-distance Neolithic transport of red deer (Cervus elephus) ar gael yma - http://dx.doi.org/10.1098/rspb.2016.0095

Rhannu’r stori hon