Ewch i’r prif gynnwys

Probiotics yn erbyn clefyd y galon

23 Mawrth 2016

probiotic lactobacillis bacteria

Gwyddonwyr o Gymru yn darganfod bacteria cyfeillgar sy'n gostwng colesterol

Gallai 'bacteria cyfeillgar' wrth atal lefelau colesterol uchel yn y gwaed, a chefnogi rhaglenni triniaeth presennol ar gyfer clefyd y galon. Dyma ganfyddiad astudiaeth gydweithredol rhwng Prifysgol Caerdydd a'r gwneuthurwr profiotigau, Cultech Ltd.

Mae clefyd y galon yn lladd tua un person bob 34 eiliad, ac mae'n gyfrifol am fwy o farwolaethau ledled y byd nag unrhyw glefyd arall. Mae'n faich economaidd enfawr, ac yn costio tua £19 biliwn o bunnoedd y flwyddyn i economi'r DU.

Mae colesterol uchel yn un o'r prif ffactorau risg ar gyfer clefyd y galon. Ar hyn o bryd, defnyddir statinau'n eang i reoli'r broblem, ond nid yw'r rhain yn hynod effeithiol bob tro, ac mae nifer o sgîl-effeithiau andwyol yn gysylltiedig â nhw.  Mae hyn wedi annog y gymuned wyddonol i chwilio am therapïau eraill, ac mae profiotigau'n ymddangos fel ateb posibl.

Roedd yr astudiaeth benodol hon yn defnyddio modelau arbrofol sy'n seiliedig ar gelloedd i adnabod straen o 'facteria cyfeillgar' a allai helpu i ostwng lefelau colesterol y gwaed. Canfu ymchwilwyr y gall presenoldeb Lactobacillus plantarum CUL66 newid ymddygiad prif gelloedd y coluddyn sy'n amsugno colesterol (enterocytau) a lleihau eu gallu i gludo colesterol.

"Mae hyn yn cynrychioli canfyddiad rhagarweiniol cyffrous, ac mae astudiaethau pellach gydag anifeiliaid a phobl eisoes ar y gweill," meddai cydawdur yr astudiaeth, Dr Dipak Ramji o Ysgol y Biowyddorau, Prifysgol Caerdydd.

"Mae ein gwaith yn cynnig gobaith yn y frwydr yn erbyn clefyd y galon, gan agor llwybrau newydd ar gyfer gwaith ymchwil pellach ar y defnydd o brofiotigau wrth reoli lefelau colesterol uchel yn y gwaed, sef ffactor risg mawr ar gyfer datblygu atherosglerosis - clefyd lle mae placiau colesterol uchel yn cronni y tu mewn i'r rhydwelïau".

Ychwanegodd Dr Daryn Michael, Uwch-wyddonydd Ymchwil Cultech Limited: "Dyma ddarn diddorol o waith ymchwil sydd â goblygiadau posibl ar gyfer y ffordd rydym yn ystyried y driniaeth ar gyfer colesterol uchel yn y gwaed, ac edrychwn ymlaen at gynnal astudiaethau pellach yn y maes hwn.

"Mae'r berthynas broffesiynol rhwng Prifysgol Caerdydd a Cultech wedi hwyluso gwaith ymchwil gwerthfawr, ac wedi arwain at drosglwyddo gwybodaeth ddwy ffordd, a fydd yn parhau yn y dyfodol".

Rhannu’r stori hon