Ewch i’r prif gynnwys

Cefnogi iechyd a lles

21 Mawrth 2016

Cardiff Half Marathon Sponsor with VC

Cyhoeddwyd mai Prifysgol Caerdydd fydd prif noddwr newydd Hanner Marathon Caerdydd.

Mae'r bartneriaeth newydd rhwng y brifysgol orau yng Nghymru a digwyddiad cyfranogiad torfol mwyaf y wlad, yn adeiladu ar nawdd lwyddiannus Prifysgol Caerdydd y mis hwn o Bencampwriaeth Hanner Marathon y Byd IAAF.

Prifysgol Caerdydd fydd yn noddi'r digwyddiad hwn yn 2016 a 2017, a Hanner Marathon Caerdydd/Prifysgol Caerdydd yw'r enw swyddogol arno. Banc Lloyds fu'n noddi'r digwyddiad am y pum mlynedd ddiwethaf.

Bydd Prifysgol Caerdydd yn cynnig nifer cyfyngedig o leoedd yn rhad ac am ddim i redwyr sy'n addo codi arian ar gyfer ymchwil canser neu ymchwil dementia ac iechyd meddwl a gynhelir yn y Brifysgol. Bydd 100% o'r arian a godir gan redwyr #TîmCaerdydd yn mynd i'r meysydd ymchwil hyn.

Dywedodd Matt Newman, prif weithredwr Run 4 Wales sy'n trefnu Hanner Marathon Caerdydd:

"Dyma garreg filltir gyffrous arall yn nhwf Hanner Marathon Caerdydd ac rydym yn edrych ymlaen at gydweithio â Phrifysgol Caerdydd dros y ddwy flynedd nesaf.

"Mae Run 4 Wales a staff Prifysgol Caerdydd wedi bod yn cydweithio'n agos ar gyfer Pencampwriaeth Hanner Marathon y Byd IAAF a gynhelir fis yma, ac rydym yn hyderus y bydd ein perthynas barhaus yn ein helpu i gynnal yr Hanner Marathon Caerdydd gorau erioed yn 2016.

“Prifysgol Caerdydd yw un o'r sefydliadau mwyaf adnabyddus yng Nghymru ac mae'n enwog ledled y byd am ei hymchwil arloesol ym maes iechyd. Bydd y bartneriaeth newydd yma yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd i'r naill sefydliad fel y llall.

“Mae Run 4 Wales wedi ymrwymo i wella iechyd a lles y genedl yn ogystal ag ymgysylltu a rhoi rhywbeth yn ôl i'r gymuned leol. Prifysgol Caerdydd yw'r noddwr delfrydol i'n helpu ni i ddatblygu yn y meysydd yma.”

Bydd Prifysgol Caerdydd yn gwneud llawer mwy na noddi'r digwyddiad. Mae iechyd y cyhoedd yn rhan bwysig o waith y Brifysgol ac mae Hanner Marathon Caerdydd yn cyd-fynd â'r agenda hon.

Mae'r Brifysgol yn gwneud gwaith ymchwil rhagorol ym maes iechyd, ac mae hefyd yn hyfforddi'r bobl fydd yn weithwyr gofal iechyd proffesiynol yn y dyfodol.

Cardiff Half Crowd

Hanner Marathon Caerdydd yw'r llwyfan perffaith ar gyfer dod â phobl o'r sector iechyd a'n cymunedau lleol ynghyd i hyrwyddo manteision ffordd iach a gweithgar o fyw.

Meddai'r Athro Colin Riordan, Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd: "Rydym yn falch iawn o gael noddi Hanner Marathon Caerdydd, digwyddiad sydd bellach wedi ennill ei blwyf fel un o rasys torfol mwyaf poblogaidd y DU.

"Mae'r digwyddiad yn amlygu'r manteision a gynigir drwy fabwysiadu ffordd iach o fyw, ac mae hyn yn cyd-fynd yn berffaith â rôl bwysig Prifysgol Caerdydd mewn gofal iechyd yng Nghymru a gweddill y DU.

"Rydym yn ddarparwr hyfforddiant blaenllaw ym maes meddygaeth a gofal iechyd, ac mae rhai o'n ysgolheigion yn mynd i'r afael â rhai o'r prif heriau iechyd sy'n wynebu cymdeithas.

“Drwy fod yn gysylltiedig â'r ras, gallwn gydweithio hyd yn oed yn agosach â'n cymunedau er mwyn newid iechyd pobl er gwell.

“Bydd hyn yn datblygu'r gwaith yr ydym eisoes wedi bod yn ei wneud drwy ein cysylltiad llwyddiannus â Phencampwriaeth Hanner Marathon y Byd.”

I ddathlu'r bartneriaeth, mae logo newydd Hanner Marathon Caerdydd/Prifysgol Caerdydd wedi'i greu. Mae'n cynnwys y rhuban goch a ddefnyddir yn y brand ar gyfer Caerdydd 2016 fel symbol o etifeddiaeth y digwyddiad.

Gorffennodd dros 16,000 o redwyr Hanner Marathon Caerdydd yn 2015, gan olygu ei fod yr ail hanner marathon mwyaf yn y DU, y tu ôl i'r Great North Run.

Cynhelir digwyddiad eleni ddydd Sul, 2 Hydref. Cewch dalu i gymryd rhan nawr yn www.cardiffhalfmarathon.co.uk, a chaiff pawb sy'n cofrestru cyn diwedd Ebrill fanteisio ar ostyngiad.

Rhannu’r stori hon