Ewch i’r prif gynnwys

Prif Weinidog Cymru yn croesawu myfyrwyr Prifysgol Colgate

11 Mawrth 2016

Myfyrwyr Colgate gyda'r Prif Weinidog
Myfyrwyr Colgate gyda'r Prif Weinidog

Carfan o fyfyrwyr Americanaidd yn mwynhau prynhawn yn y Senedd

Croesawyd 15 o fyfyrwyr Prifysgol Colgate, Madison County, Efrog Newydd, i’r Senedd ym Mae Caerdydd gan y Prif Weinidog, Carwyn Jones AM.

Mae’r myfyrwyr ar gyfnod o astudiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd fel rhan o’u cynllun gradd yn Colgate. Yn ogystal ag astudio eu pynciau gradd penodol, rhoddir cyfle unigryw iddynt astudio modiwlau yn Ysgol y Gymraeg. Mae’r modiwlau yn ymwneud yn benodol ag iaith a diwylliant Cymru.

Fel rhan o'r modiwl Wales and the Welsh Language, cafodd y myfyrwyr gyfle i fynd ar daith o amgylch y Senedd. Cawsant gyfle unigryw i holi’r Prif Weinidog a Llyr Gruffudd AC, Gweinidog Cysgodol Cymunedau Cynaliadwy, Ynni a Bwyd.  Bu’r myfyrwyr yn holi cwestiynau i'r gweinidogion am hanes Cymru, y Senedd a’u rôl yn y Llywodraeth, a gwleidyddiaeth Cymru'n gyffredinol.

Dywedodd Joel Sommers, cydlynydd Colgate: “Roedd hi’n anrhydedd i gwrdd â’r Prif Weinidog a Llyr Gruffudd AC yn y Senedd, canolbwynt bywyd gwleidyddol Cymru. Roedd cael holi cwestiynau iddynt a chael ein tywys o amgylch yr adeilad yn gymorth mawr i wella ein dealltwriaeth o’r Gymru gyfoes - ei hiaith, gwleidyddiaeth, cymdeithas a diwylliant.”

Rhannu’r stori hon