Ewch i’r prif gynnwys

Hwb ariannol o £2M ar gyfer canolfan ymchwil arthritis

11 Mawrth 2016

Cardiff Grail

Cydnabyddir "potensial trawsnewidiol" ymchwil arthritis mewn adnewyddiad cyllid

Mae Prifysgol Caerdydd wedi cael hwb ariannol hanfodol, gwerth £2M, i barhau â'i gwaith ymchwil arloesol i arthritis.

Mae Ymchwil Arthritis y DU wedi dyfarnu'r arian ar gyfer parhad Canolfan Biofecaneg a Biobeirianneg Ymchwil Arthritis y DU yn y Brifysgol.

Bydd yr arian yn cefnogi gwaith ymchwil parhaus i osteoarthritis a phoen cefn cronig, yn bennaf.

Ers ei sefydlu yn 2009, mae'r Ganolfan wedi gwneud darganfyddiadau pwysig mewn sawl maes yn ei hymdrech i fynd i'r afael ag arthritis a chyflyrau cysylltiedig.

Gydag arbenigedd mewn biofecaneg, biobeirianneg, ffisiotherapi, orthopaedeg, mecanodrosglwyddiad, poen, llid a phrofion biofarciwr cleifion; mae tîm y Ganolfan yn diffinio, yn adnabod ac yn targedu mecanweithiau biofecanyddol sy'n sail i glefydau poen cefn a chymalau.

Ymysg eu datblygiadau, gallant gyfrif profi triniaethau cyffuriau newydd ar gyfer arthritis; datblygu 'smentiau asgwrn' newydd sy'n gallu cludo gwrthfiotigau i leihau heintiau ar ôl cael cymalau newydd; a dulliau diagnostig ac adsefydlu newydd.

Dywedodd yr Athro Bruce Caterson, Cyfarwyddwr Canolfan Biofecaneg a Biobeirianneg Ymchwil Arthritis y DU:

"Mae'r dyfarniad newydd hwn yn cadarnhau bod gan Ymchwil Arthritis y DU barch mawr at y Ganolfan a'i hamcanion ymchwil parhaus.

"Mae hefyd yn cadarnhau cryfder y gwaith ymchwil a wnaed yma yn y Ganolfan ym Mhrifysgol Caerdydd dros y pum mlynedd diwethaf.

"Yn ystod y tair i bum mlynedd nesaf, ein huchelgais o ran ymchwil yw datblygu ein canfyddiadau ymchwil yn fudd uniongyrchol i gleifion."

Er enghraifft, mae ymchwilwyr biofeddygol ein Canolfan wedi amlygu sawl targed cyffur newydd.

Yn ogystal, bydd astudiaeth ar wahân yn datblygu system 'E-adsefydlu' ar sail biofecanwaith, i gefnogi'r broses o adsefydlu cleifion yn y cartref sy'n dioddef o anhwylderau'r pen-glin a'r asgwrn cefn.

Dywedodd Stephen Simpson, Cyfarwyddwr Ymchwil a Rhaglenni, Ymchwil Arthritis y DU:

"Rydym wedi ein hargyhoeddi y gall y cynnydd a wneir gan Ganolfan Biofecaneg a Biobeirianneg Ymchwil Arthritis y DU, ynghyd ag ymroddiad ac uchelgais ei thimau ymchwil, arwain at drawsnewid". 

"Yr hyn sydd wrth wraidd popeth a wnawn, yw gwella bywydau pobl sy'n dioddef o arthritis. Bydd y posibilrwydd o weld datblygiadau ymchwil yn y dyfodol yn rhoi gobaith i'r 10 miliwn o bobl yn y DU sy'n byw gyda phoen arthritis."

Bydd Prifysgol Caerdydd yn rhoi arian cyfatebol ar gyfer parhad y Ganolfan hefyd.

Rhannu’r stori hon