Ewch i’r prif gynnwys

Athro yn gwybod orau

7 Mawrth 2016

Teacher standing in class with whiteboard

Rhoi safbwynt athrawon yn gyntaf wrth lunio rhaglen ymgysylltu ag ysgolion

Mae athrawon Cymru'n cael cyfle i ddweud eu dweud yn uniongyrchol ynghylch sut i gael rhagor o fyfyrwyr o Gymru i'r brifysgol, o ganlyniad i brosiect unigryw o dan arweiniad Prifysgol Caerdydd.   

Am y tro cyntaf erioed, mae Prifysgol Caerdydd wedi rhoi athrawon wrth wraidd ei rhaglen ymgysylltu ag ysgolion, drwy ei menter Partneriaeth Ysgol-Prifysgol.

Ariennir y fenter tair blynedd gan Gynghorau Ymchwil y DU (RCUK), ac mae wedi'i llunio i greu mecanweithiau strategol a strwythuredig i alluogi sefydliadau Addysg Uwch i weithio mewn partneriaeth ag ysgolion uwchradd a cholegau addysg bellach.

Mae llawer o brifysgolion yn y DU eisoes yn ymgynghori ag athrawon, ond mae Prifysgol Caerdydd yn unigryw wrth sefydlu paneli ymgynghori ag athrawon pwrpasol, sy'n rhoi cyngor ar yr holl faterion sy'n gysylltiedig ag ymgysylltu ag ysgolion, o weithgareddau sy'n gysylltiedig â'r cwricwlwm i ymgysylltu o dan arweiniad ymchwil.

"Yn aml, y bobl sy'n gwneud y gwaith o ddydd i ddydd yw'r rheini sy'n gwybod beth sy'n gweithio orau," meddai Sue Diment, datblygwr a rheolwr rhaglen Prosiect Partneriaeth Ysgolion Prifysgol Caerdydd.

"Dyna pam ein bod wedi penderfynu rhoi athrawon wrth wraidd ein rhaglen ymgysylltu ag ysgolion. Bydd cael pobl o'r rheng flaen yn helpu i sicrhau bod ein gwaith ymgysylltu a'n gweithgareddau'n adlewyrchu anghenion athrawon a'u myfyrwyr," ychwanegodd. 

Un o egwyddorion sylfaenol y dull arloesol hwn yw bod athrawon a staff y Brifysgol yn gweithio fel partneriaid cyfartal.

Dywedodd Dr Mike Beer, athro yng Ngholeg Catholig Dewi Sant, Caerdydd, sy'n aelod o un o baneli ymgynghori ag athrawon newydd y Brifysgol: "Mae cael athrawon i gymryd rhan yn y broses o ddatblygu gweithgareddau drwy baneli ymgynghori ag athrawon wir yn gryfder, oherwydd mae gweithgareddau a gaiff eu creu ar y cyd yn cael eu derbyn yn well gan ysgolion a cholegau.

"Yn ogystal â datblygu gweithgareddau, mae'r paneli ymgynghori ag athrawon yn rhoi cyfle i athrawon ofyn cwestiynau a chael rhagor o wybodaeth am beth mae'r Brifysgol yn ei gynnig."

Mae'n credu y gallai cael mewnbwn mor uniongyrchol helpu i gefnogi athrawon wrth iddynt godi dyheadau myfyrwyr, ac annog hyd yn oed mwy ohonynt i fynd i'r brifysgol.

Ychwanegodd Dirprwy Is-Ganghellor Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd, yr Athro Patricia Price: "Rwy'n hynod o falch bod Prifysgol Caerdydd yn arwain y ffordd o ran annog gweithio mewn partneriaeth, i gefnogi hyd yn oed mwy o blant i fynd i'r brifysgol. 

"Mae'r prosiect unigryw hwn yn sicrhau y clywir safbwynt rhai o'r bobl bwysicaf, sef yr athrawon. Mae'n gyfle iddynt allu cael dylanwad go iawn ar y ffordd yr ydym yn gweithio gydag ysgolion lleol."

Rhannu’r stori hon