Ewch i’r prif gynnwys

Eliffantod dan fygythiad

7 Mawrth 2016

Elephant

Eliffantod Borneo mewn perygl o ddiflannu o ganlyniad i ddifa coedwigoedd  

Gallai difa cynefinoedd coedwig yn Borneo ymhellach, arwain at ddifodiant eliffantod y rhanbarth, yn ôl astudiaeth newydd o dan arweiniad Canolfan Maes Danau Girang Prifysgol Caerdydd (DGFC).

Cyhoeddir eu canfyddiadau heddiw yng nghyfnodolyn Biological Conservation.

Bu'r tîm yn dadansoddi samplau tail yn Sabah, Borneo, er mwyn pennu amrywiaeth genetig poblogaethau lleol o eliffantod, ac i asesu i ba raddau y mae'r grwpiau presennol o eliffantod wedi gwahanu ac wedi'u hynysu.

Canfu'r astudiaeth lefelau llif genynnau gostyngol ymysg eliffantod yn Sabah, a gwahaniaethu genetig arwyddocaol rhwng poblogaethau. Canfu hefyd bod amrywiaeth genetig anghyfartal ym mhoblogaethau eliffantod llai, mwy ynysig, y rhanbarth.

"Mae'r canfyddiadau hyn yn awgrymu y bydd poblogaethau o eliffantod yn fwy sensitif i ddigwyddiadau ar hap, fel y newid yn yr hinsawdd neu ragor o ddatblygu seilwaith, os bydd eu maint yn gostwng gormod," eglurodd Dr Benoit Goossens, Cyfarwyddwr DGFC a phrif awdur yr astudiaeth.

"Mewnfridio a cholli amrywiaeth genetig fyddai'r canlyniadau anochel, a gallai arwain at ddifodiant y rhywogaeth yn Borneo.

"Mae'n hanfodol ein bod yn osgoi difa cynefinoedd eliffantod ymhellach, er mwyn sicrhau cadwraeth y rhywogaeth."

Ychwanegodd Dr Marc Ancrenaz, Cyfarwyddwr Gwyddonol y corff anllywodraethol HUTAN a chydawdur yr astudiaeth:

"Mae difa cynefinoedd yn arwain at fwy o gyswllt rhwng pobl ac eliffantod, sy'n arwain at wrthdaro, colledion economaidd a lladd eliffantod.

"Mae'r sefyllfa hon yn ddifrifol, a'r unig ateb hirdymor yw creu 'ffyrdd' ar gyfer yr eliffantod - coridorau yn y coedwigoedd y gall yr anifeiliaid eu defnyddio i symud ar draws y dirwedd."

Yn ôl rhai amcangyfrifon, mae cyn lleied â 2,500 o eliffantod yn byw'n wyllt yn Borneo.

Rhannu’r stori hon