Ewch i’r prif gynnwys

Penodi Athro o Brifysgol Caerdydd yn Bennaeth Ymchwil Amgueddfa Cymru

4 Mawrth 2016

National Museum Cardiff
National Museum Cardiff

Mae'r Athro Bella Dicks, o Brifysgol Caerdydd, wedi cael ei phenodi'n Bennaeth Ymchwil Amgueddfa Cymru. 

Mae Bella yn Athro Cymdeithaseg yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, a bydd yn ymuno â'r Amgueddfa ar 31 Mai 2016 am secondiad tair blynedd. Bydd y rôl hon yn galluogi Bella i ddefnyddio ei phrofiad a'i chryfderau ymchwil presennol i gefnogi Amgueddfa Cymru wrth iddi wireddu ei nod o fod yn sefydliad a gaiff ei arwain gan ymchwil.

Wrth gyhoeddi'r penodiad, dywedodd David Anderson, Cyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfa Cymru: "Rydym yn falch iawn o benodi Bella Dicks fel ein Pennaeth Ymchwil cyntaf.  Bydd ei hymrwymiad dros flynyddoedd lawer i ymchwilio i rôl amgueddfeydd yn y gymdeithas, a'i chyflawniadau fel uwch-academydd, yn galluogi'r Amgueddfa i rannu ein gwaith ymchwil blaenllaw â chynulleidfaoedd ehangach, ac i adeiladu partneriaethau gyda phrifysgolion ledled Cymru."

Mae diddordebau ymchwil Bella yn cynnwys treftadaeth, amgueddfeydd, datblygu cymunedol, anfantais gymdeithasol, astudiaethau trefol a methodoleg ansoddol. Roedd ei llyfr Heritage, Place and Community, a gyhoeddwyd yn 2000, yn olrhain y prosesau a ddilynwyd i weddnewid un o byllau glo de Cymru yn amgueddfa 'hanes byw', ac roedd Culture on Display, a gyhoeddwyd yn2004, yn gwerthuso'r pwyslais cyfredol a roddir ar adfywio yng nghyd-destun creu lle 'atyniadol'. Yn fwy diweddar, mae Bella wedi ymgymryd â gwaith ymchwil i adfywio, yn Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru (WISERD).

Mae Bella wedi bod yn aelod o staff academaidd Prifysgol Caerdydd ers 1993, a daeth yn Athro yn 2014. Wrth siarad am ei phenodiad newydd, meddai: "Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at archwilio'r byd hynod ddiddorol hwn o wrthrychau ac ystyron sydd mor bwysig i bobl Cymru a'u hymdeimlad o'u gorffennol eu hunain. Bydd yn braf cael cwrdd â'r staff sy'n gweithio yn y safleoedd gwahanol a chael gwybod beth sy'n gwneud pob amgueddfa unigol yn unigryw. Rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda nhw i bwyso a mesur syniadau newydd a'r cysylltiadau rhwng y gwrthrychau yn y casgliadau a bywydau a hanes pobl Cymru.”

Croesawyd y penodiad gan yr Athro Amanda Coffey, pennaeth Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol: “Rwy'n falch iawn o benodiad Bella fel Pennaeth Ymchwil cyntaf yr Amgueddfa, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda hi yn ei rôl newydd.”

Mae Amgueddfa Cymru wedi ymrwymo i fynd y tu hwnt i'w hadeiladau, gan ymgysylltu â chymunedau ledled Cymru, a gweithio gyda nhw. Bydd rôl Bella yn cefnogi'r gwaith hwn, ac yn rhoi hwb i enw da Amgueddfa Cymru fel arweinydd ymchwil, yn lleol ac yn fyd-eang.

Rhannu’r stori hon