Ewch i’r prif gynnwys

Allech chi achub bywydau drwy roi bôn gelloedd?

3 Mawrth 2016

join the register

Ddiwedd mis Medi, roedd Vithiya Alphons newydd ddechrau yn ôl yn y Brifysgol ar ei chwrs Optometreg, ar ôl haf prysur yn gwirfoddoli yn Japan a Moldova. 

Fodd bynnag, ddiwrnodau ar ôl iddi ddechrau ar ei blwyddyn olaf, rhoddwyd y newyddion ysgytwol iddi ei bod yn dioddef o ffurf ymosodol o lewcemia. Mae ar Vithiya angen bôn-gelloedd newydd yn y ddeufis nesaf. 

Mae llawer o bobl ledled y DU yn aros am roddwr sy'n cyfateb yn enetig i achub eu bywydau. Gallwch gael eich ychwanegu at gofrestr elusen canser y gwaed Anthony Nolan, drwy lenwi ffurflen yn www.anthonynolan.org. Byddant yn anfon 'Pecyn Poeri' i chi ei ddychwelyd. Os ydych chi rhwng 16 a 30 oed, ac yn iach, gallech chi achub bywydau. Pan fydd angen trawsblaniad bôn-gelloedd ar glaf yn y DU sy'n dioddef o ganser y gwaed neu anhwylder gwaed, bydd Anthony Nolan yn chwilio drwy'r cofrestrau byd-eang, i chwilio am rywun sy'n cyfateb yn enetig i'r claf hwnnw.

Dywedodd yr Athro Jonathan T. Erichsen, Tiwtor Personol Vithiya: "Mae Vithiya yn fenyw ifanc hyfryd a hynod boblogaidd. Mae dyfodol disglair o'i blaen yn ei gyrfa ddewisol, fel Optometrydd.

"Mae pob un ohonom yn dymuno gwellhad buan i Vithiya, ac edrychwn ymlaen at ei chael yn ôl gyda ni yma yn yr Ysgol."

Vithiya - stem cell donations

Dywedodd Ann O’Leary, Pennaeth Datblygu Cofrestrau Anthony Nolan: "Mae Vithiya yn fenyw ifanc fedrus ac ysbrydoledig, ac mae gan rywun yn rhywle y gallu i achub ei bywyd drwy roi bôn-gelloedd iddi. 

"Rydym yn ddiolchgar iawn i Vithiya am godi ymwybyddiaeth o'r angen am ragor o roddwyr Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, ac am gael gwared ar y myth bod rhoi bôn-gelloedd yn broses boenus.

"Dim ond llenwi ffurflen a darparu sampl o'ch poer y mae'n rhaid i chi ei wneud i ymuno â chofrestr Anthony Nolan. Os ydych chi'n un o'r rhai breintiedig sy'n cael rhoi, yna 90% o'r amser, cewch apwyntiad claf allanol, a bydd y broses yn debyg iawn i roi gwaed."

Mae Anthony Nolan a Gwasanaeth Gwaed a Thrawsblaniadau'r GIG yn cydweithio'n agos i recriwtio mwy o bobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig eraill (BAME) i roi ac ymuno â'r cofrestrau.

Os ydych chi rhwng 16 a 30 oed, gallwch ymuno â chofrestr Anthony Nolan yn www.anthonynolan.org    

Os ydych chi rhwng 17 a 55 oed, gallwch ymuno â chofrestr Dileu Canser y Gwaed yn www.deletebloodcancer.org.uk  

Fel arall, i gael eich profi i weld a ydych chi'n cyfateb yn enetig, gallwch drefnu apwyntiad drwy Gwaed Cymru. Cynhelir sesiynau dros yr wythnosau nesaf ar draws gwahanol leoliadau yng Nghaerdydd, a gallwch fynd i un o'r sesiynau hyn i gael prawf gwaed. 

Rhagor o wybodaeth am Anthony Nolan

Rhannu’r stori hon