Ewch i’r prif gynnwys

Hybu bwydo ar y fron mewn ardaloedd difreintiedig

2 Mawrth 2016

mother breastfeeding baby

Gallai techneg ysgogol fod yn allweddol i gynyddu cyfraddau bwydo ar y fron

Mae arbenigwyr iechyd cyhoeddus yn datblygu rhaglen newydd i annog mamau ifanc o ardaloedd difreintiedig yng Nghymru a Lloegr i fwydo ar y fron am gyfnod hirach.

Mae wedi cael ei brofi bod bwydo ar y fron o les i iechyd y fam a’r baban. Mae gan laeth y fron sylweddau hanfodol a all ymladd clefydau ac amddiffyn babanod rhag salwch. Mae bwydo ar y fron hefyd yn helpu mamau i ddod dros yr enedigaeth yn gynt.

Er hyn, mae ffigurau diweddar yn dangos mai yn y DU y mae’r cyfraddau isaf o famau sy’n bwydo ar y fron yng ngwledydd y Gorllewin.  Mae llai na 40% o fenywod yn bwydo ar y fron am y chwe mis cyntaf a gall y ffigur fod yn llai na 20% mewn ardaloedd difreintiedig. Mae llai nag 1% yn rhoi llaeth o’r fron yn unig i’w babanod erbyn hynny.

Mae’r GIG a Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) yn argymell mai dim ond llaeth o’r fron y dylai babanod ei gael yn y chwe mis cyntaf.

Mae ymchwilwyr o Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd yn credu y gallai dull cwnsela, a ddefnyddiwyd yn wreiddiol i drin alcoholiaeth, gynyddu cyfraddau bwydo ar y fron mewn ardaloedd tlawd, gwyn, lle mae cyfraddau geni yn uchel.

Mae astudiaethau blaenorol am y dull hwn, a elwir yn Gyfweld Ysgogol (MI), wedi dangos ei fod wedi mynd i'r afael â llu o faterion iechyd cyhoeddus yn effeithiol. Mae hyn yn cynnwys helpu pobl i oresgyn dibyniaeth ar gyffuriau, gordewdra ymysg plant, problemau deintyddol a rhoi'r gorau i ysmygu.

Dywedodd arweinydd y rhaglen Dr Shantini Paranjothy, sy’n uwch ddarlithydd Clinigol yn Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd:  "Bydd canfyddiadau'r astudiaeth hon yn ein helpu ni i ddeall sut y gallwn gynyddu hyd y cyfnod y mae mamau ifainc yn bwydo ar y fron.

"Dyma'r tro cyntaf i ddull MI gael ei ddefnyddio mewn astudiaeth cyfaill cefnogol bwydo ar y fron, ond mae’r dull wedi bod yn llwyddiannus mewn meysydd eraill, gan gynnwys cymorth gan gyfoedion ar gyfer pobl ifanc sydd â HIV.  Mae'n bleser gen i gael gweithio mewn partneriaeth gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru ar y prosiect hwn."

Caiff tîm Caerdydd ei ariannu gan y Sefydliad Ymchwil Iechyd Cenedlaethol (NIHR) a byddant yn gweithio gyda rhieni ac arbenigwyr iechyd i ddatblygu rhaglen yn treialu cyfaill cefnogol bwydo ar y fron. Byddant yn dewis tair ardal yng Nghymru neu Loegr lle ceir lefelau uchel o amddifadu cymdeithasol ac economaidd, cyfraddau uchel o feichiogrwydd yn yr arddegau a chyfraddau isel o fwydo ar y fron.

Bydd timau o fydwragedd cymunedol yn recriwtio chwe i naw cyfaill cefnogol (mamau sydd â phrofiad o fwydo ar y fron ac sydd wedi cael eu hyfforddi mewn MI) i gefnogi mamau newydd (20 oed ac iau), dros gyfnod o chwe mis.

Bydd llwyddiant y dull hwn yn cael ei fesur drwy gynnal cyfweliadau ffôn wedi'u hamserlennu gyda’r mamau a bydd modd asesu iechyd y mamau, y babanod, yn ogystal â’r nifer sy’n bwydo ar y fron wrth edych ar ddata’r GIG ac ar ddata'r ymwelwyr iechyd.

Arloesodd yr Athro Stephen Rollnick o Brifysgol Caerdydd mewn MI yn y 1980au, ac mae’n ei ddisgrifio fel "gwrando at ddiben – yn hytrach na dweud wrth bobl beth i'w wneud." Mae’n credu bod y dull hwn yn rhoi’r “wybodaeth a’r dewis i famau wneud y penderfyniad gorau ar gyfer eu rhai bach.

Mae cwestiynu agored, gwrando adfyfyriol, a phwyslais ar sgwrs sy'n cael ei harwain gan y fam ac nid y cyfwelydd ysgogol, ymhlith rhai o’r technegau a ddefnyddir mewn MI. Mae'n annog empathi, parodrwydd i dderbyn a thosturi, ac osgoi bod yn uniongyrchol ac awdurdodol neu farnu.

Os bydd y dull yn llwyddiannus, mae’r tîm yn gobeithio cyflwyno'r rhaglen ar draws y DU.