Ewch i’r prif gynnwys

Prosiect iaith Gymraeg wedi lansio ar Ddydd Gŵyl Dewi

2 Mawrth 2016

daffodill

Prosiect newydd i ddogfennu defnydd cyfoes yr iaith Gymraeg wedi dechrau wrth i filiynau o bobl ar draws y byd dathlu Dydd Gŵyl Dewi

Cychwynnodd prosiect y Corpws Cenedlaethol Cymraeg Cyfoes (CorCenCC) ar Fawrth 1 2016 wedi ei harwain gan yr Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth Prifysgol Caerdydd mewn cydweithrediad â Phrifysgolion Abertawe, Bangor a Lancaster.

Ariennir CorCenCC (grant o £1.8m) gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) a Chyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC).

Bydd yr arian yn galluogi datblygu’r corpws torfol cyntaf o’r Gymraeg – sef casgliad mawr o destunau, neu gorff o ddeunydd ysgrifenedig neu lafar, a hynny at ddiben dadansoddi ieithyddol.

Daw’r cyfranwyr o blith y 562,000 o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru, a byddant yn cyfrannu drwy dechnolegau digidol torfol a chydweithio cymunedol. Hefyd, bydd y corpws terfynol ar gael yn rhad ac am ddim i bawb sydd am ei ddefnyddio.

Y prosiect - sydd yn cael ei yrru gan y gymuned – yw’r cyntaf o’i fath. Y bwriad yw cynrychioli'r Gymraeg ar draws gwahanol ddulliau cyfathrebu a chaniatáu i unigolion nodi ac archwilio'r Gymraeg fel mae’n cael ei defnyddio yn hytrach na dadansoddi sut y dylid ei ddefnyddio mewn modd ffurfiol.

Dywedodd Dr Dawn Knight, o Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth Prifysgol Caerdydd, sy'n arwain y prosiect: “Ers i ni sicrhau’r cyllid yn hwyr yn 2015 mae tîm y prosiect, ar draws y prifysgolion sy’n bartneriaid, wedi bod yn cynllunio tuag at fynd â’r prosiect yn fyw. Rydym wedi recriwtio pum cynorthwy-ydd ymchwil arbennig ac yn edrych ymlaen at gyhoeddi cyfraniad llysgenhadon nodedig yn fuan iawn.

“Dyma gyfnod cyffrous i ni ac rydym yn awyddus i ddechrau’r gwaith o adeiladu’r corpws. Byddwn yn lansio ap arloesol i gasglu data ac yn chwilio am gyfranwyr o gefndiroedd demograffig amrywiol fel bod’r data sy’n cael ei gasglu yn cynrychioli cyfoeth a amrywiaeth y Gymraeg.”

Mae i’r prosiect berthnasedd ieithyddol, diwylliannol a chymdeithasol. Bydd ymgysylltu â'r cyhoedd trwy dechnolegau newydd yn chwarae rhan sylweddol er mwyn dangos sut mae defnydd o’r iaith yn amrywio ac yn newid - boed o ran gwahaniaethau rhanbarthol neu'r defnydd o dreigladau dros amser.

Bydd y prosiect yn cael effaith gadarnhaol ar grwpiau gwahanol o ddefnyddwyr gan gynnwys cyfieithwyr, cyhoeddwyr, llunwyr polisi, datblygwyr technoleg iaith ac academyddion. Bydd pecyn cymorth pwrpasol yn cael ei greu ar gyfer athrawon a dysgwyr, er mwyn ymchwilio i ddefnydd iaith.

Bydd y prosiect rhyngddisgyblaethol a chydweithredol hwn yn rhedeg am dair blynedd a hanner ac mae rhanddeiliad allweddol yn cynnwys Llywodraeth Cymru, Cyd-bwyllgor Addysg Cymru, sefydliadau Cymraeg i Oedolion, Gwasg y Lolfa a Geiriadur Prifysgol Cymru.