Ewch i’r prif gynnwys

Doeth am Iechyd Cymru

29 Chwefror 2016

family walking in the woods

Lansio'r prosiect ymchwil iechyd mwyaf erioed i Gymru

Mae'r prosiect ymchwil iechyd mwyaf o'i fath, a luniwyd i ddeall iechyd pobl Cymru yn well, yn cael ei lansio heddiw.

Mae Doeth am Iechyd Cymru yn astudiaeth ymchwil gyfrinachol sydd â'r bwriad o ddatblygu gwybodaeth fanwl am iechyd y genedl. Bydd yr wybodaeth a ganfyddir yn cael ei defnyddio i helpu'r GIG i gynllunio ar gyfer y dyfodol.

Gobaith yr astudiaeth yw recriwtio 260,000 o bobl 16 oed ac yn hŷn dros bum mlynedd. Bydd Doeth am Iechyd Cymru yn cynnwys niferoedd mawr o bobl Cymru mewn ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol.

Bydd gwybodaeth bersonol a meddygol y rheini sy'n cymryd rhan yn parhau'n gyfrinachol a bydd yn cael ei defnyddio at ddibenion ymchwil yn unig. Ni fydd yn cael ei rhannu â chwmnïau yswiriant na meddygon yr unigolion.

Dywedodd Dr Ruth Hussey, Prif Swyddog Meddygol Cymru:

"Doeth am Iechyd Cymru yw'r prosiect ymchwil mwyaf o'i fath erioed i gael ei lansio yng Nghymru a bydd yn helpu'r gwasanaeth iechyd i gynllunio ar gyfer y dyfodol. Rydym yn defnyddio dull newydd lle bydd pobl yn gweithio'n agos gydag ymchwilwyr fel partneriaid cyfartal.

"Os ydych yn 16 oed neu'n hŷn ac yn byw yng Nghymru, gallwch ein helpu i ddeall iechyd y genedl yn well. Os ydych yn ifanc neu'n hŷn, yn heini neu'n anhwylus, byddwn yn cysylltu â chi bob chwe mis i gael dealltwriaeth barhaus o'ch iechyd. Diben hyn yw cael pobl i rannu'u gwybodaeth i wella iechyd a gofal yng Nghymru.

"Rydyn ni'n galw ar bobl i gofrestru yn awr ar gyfer Doeth am Iechyd Cymru i gyfrannu at y dyfodol trwy helpu heddiw."

Tîm o ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd sy'n arwain yr astudiaeth ymchwil o'r boblogaeth, gan weithio mewn partneriaeth â Phrifysgol Abertawe. Lansiwyd cynllun peilot ym mis Mai 2015 ac mae 570 o bobl wedi cofrestru hyd yn hyn. Mae'r adborth o'r cynllun peilot wedi dylanwadu ar ddatblygiad yr ymgyrch i recriwtio 260,000 o bobl.

Bydd Doeth am Iechyd Cymru yn ymgysylltu â'r cyhoedd trwy gynnal sioe deithiol ar hyd a lled Cymru i annog pobl i gofrestru i gymryd rhan yn yr ymchwil. Bydd hysbysebion ar y teledu a gweithgarwch cyfryngau cymdeithasol hefyd yn cael eu cynnal.

Dywedodd yr Athro Shantini Paranjothy o Ysgol Feddyginiaeth Prifysgol Caerdydd:

“Mae Doeth am Iechyd Cymru yn gyfle unigryw sy’n adeiladu ar draddodiad cryf o ymchwil iechyd poblogaeth yng Nghymru. Bydd y prosiect mawr hwn yn defnyddio technoleg fodern i gynnwys pobl mewn ymchwil ac yn rhoi cyfleoedd i gyfrannu at sut y caiff astudiaethau ymchwil eu llunio a’u cynnal.”

Rhannu’r stori hon