Ewch i’r prif gynnwys

Prosiect Morwellt

29 Chwefror 2016

Seagrass

Mae angen eich help chi ar arwr di-glod yr amgylchedd morol

Mae prosiect newydd arloesol sydd â’r nod o ennyn diddordeb plant yn yr amgylchedd morol wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer arian y Loteri Genedlaethol fel rhan o Brosiect Pobl Cymru.

Mae cyfle gan y Prosiect Morwellt, elusen a ddechreuwyd gan ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd ac Abertawe, i ennill £50,000 ar gyfer ei rhaglen unigryw sy'n ceisio dod â’r 'arfordir i'r ystafell ddosbarth' a’r 'ystafell ddosbarth i’r arfordir'er mwyn ennyn diddordeb plant Cymru yn eu treftadaeth forol. Bydd y prosiect yn cysylltu 15,000 o blant ar draws Gogledd Cymru â’r byd morol a'r adnoddau mae ein moroedd yn eu darparu, gan eu hysbrydoli i fod yn warcheidwaid ein cefnforoedd yn y dyfodol.

"Drwy ganolbwyntio ar forwellt, sy’n seren ddi-nod yn yr amgylchedd morol, gallwn egluro pwysigrwydd cynefinoedd morol drwy ddefnyddio pethau mae plant yn eu deall, o dywod euraidd ein traethau i’r amrywiaeth o bysgod yn ein siopau sglodion. Mae morwellt yn enghraifft ddelfrydol gan fod iddo ran bwysig yn y broses o gynnal ein pysgodfeydd ac amsugno llawer iawn o CO2, ac ar yr un pryd mae’n cynnig cartref i anifeiliaid carismatig fel morfeirch” yn ôl Cyd-gyfarwyddwr Prosiect Morwellt, Benjamin Jones.

Bydd y cynllun rhyngweithiol yn gweld plant yn defnyddio ap ffôn a gwefan gofnodi newydd, fydd yn annog plant i archwilio arfordir Cymru yn enw gwyddoniaeth.

Bydd y prosiect hefyd yn trefnu gwersyll haf morwellt am ddim, fydd yn gyfle i blant o bob cefndir ddeall beth yw gwaith Biolegydd Morol a chymryd rhan mewn ymchwil gwyddonol a chadwraeth sydd ar waith.

Ychwanegodd Benjamin: "Rydyn ni’n gobeithio bod i’r prosiect y potensial i adael etifeddiaeth barhaol ac ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o gadwraethwyr sy'n gwerthfawrogi ac yn gofalu am ein harfordir anhygoel."

Mae Prosiect Pobl Cymru yn cynnig cyfle i bum sefydliad ledled Cymru ennill hyd at £50,000 o arian y Gronfa Loteri Fawr i’w ddefnyddio i wneud gwahaniaeth i gymunedau. Mae'r gystadleuaeth yn gwahodd pobl i bleidleisio dros y prosiect sy’n haeddu’r arian yn eu barn nhw.

Mae angen eich pleidlais chi ar yProsiect Morwellt i’w helpu i wireddu ei gynllun addysg.

Mae’r elusen, yn Sefydliad Ymchwil Lleoedd Cynaliadwy Prifysgol Caerdydd, yn gweithio i warchod cynefinoedd morwellt sydd dan fygythiad, ac sy’n darparu bwyd a chysgod i amrywiaeth o fywyd morol.

Mae’r bleidlais yn agor ddydd Llun 29 Chwefror 2016 am 9 am ac yn cau am 12 pm ddydd Sul 13 Mawrth 2016. Gall pobl fwrw eu pleidlais ar-lein drwy'r cyswllt isod.

https://www.thepeoplesprojects.org.uk/

Ceir rhagor o wybodaeth am y Prosiect Morwellt ar eu gwefan, www.projectseagrass.org  neu drwy eu dilyn ar twitter @ProjectSeagrass.

Rhannu’r stori hon