Ewch i’r prif gynnwys

Triniaeth un awr i leihau pwysedd gwaed

17 Chwefror 2016

Blood Pressure

Meddyg yng Nghaerdydd yw'r cyntaf yng Nghymru i recriwtio cleifion i dreialu therapi anymwthiol addawol

Mae triniaeth awr o hyd, a allai fod yn newid byd i bobl sy'n byw â phwysedd gwaed uchel, yn cael ei dreialu yng Nghymru am y tro cyntaf erioed.

O dan arweiniad ymchwilydd ym Mhrifysgol Caerdydd, cynhelir y driniaeth yn Ysbyty Athrofaol Cymru, ac mae wedi’i dargedu at bobl yng Nghymru sy'n byw â phwysedd gwaed uchel, sydd â risg uwch o ddioddef strôc neu drawiad difrifol ar y galon am na ellir rheoli eu cyflwr â therapi cyffuriau. Amcangyfrifir bod o leiaf 8-10% o bobl sydd â phwysedd gwaed uchel yn dioddef o’r ffurf hwn o’r cyflwr sydd ag ymwrthedd i gyffuriau.

Mae’r driniaeth, sy'n defnyddio uwchsain anymwthiol, yn destun treial clinigol ar hap o’r enw WAVE IV. Mewn treialon blaenorol, roedd tri chwarter y cleifion a gafodd eu trin wedi gweld gostyngiad sylweddol yn eu pwysedd gwaed ar ôl un sesiwn therapi awr o hyd.

Mae’n bosibl y bydd cleifion yn gymwys i gymryd rhan yn Astudiaeth Glinigol WAVE IV os ydynt yn bodloni’r amodau canlynol:

  • Maent rhwng 18 a 90 mlwydd oed.
  • Mae eu pwysedd gwaed systolig (y rhif uchaf) yn uwch na 160 mmHg yn gyson, pan fyddant yn gweld eu meddyg.
  • Maent yn cymryd tri neu ragor o feddyginiaethau ar bresgripsiwn ar gyfer pwysedd gwaed uchel ar hyn o bryd.

Gall pobl yng Nghymru sy'n bodloni'r meini prawf hyn ffonio 029 2071 6944, a dylent ymgynghori â‘u meddyg teulu i gael eu cyfeirio ar gyfer yr astudiaeth.  Neu, i gael gwybodaeth am safle’r astudiaeth glinigol agosaf, ffoniwch y rhif ffôn canlynol: 0800 0029205 neu ebostio clinicalstudies@konamedical.com.

Mae gorbwysedd sydd ag ymwrthedd yn fath difrifol o bwysedd gwaed uchel, a chaiff ei ddiffinio gan ddiffyg ymateb i dri neu ragor o gyffuriau. Mae’n bosibl y bydd gan gleifion sy’n dioddef o orbwysedd ag ymwrthedd symptomau lawer, neu efallai na fydd ganddynt unrhyw symptomau o gwbl. Mae ganddynt risg sylweddol uwch o farw o glefyd cardiofasgwlaidd neu strôc.

Mae’n bosibl bod nerfau arennol gorfywiog gan bobl sy'n dioddef o orbwysedd, sef cyflwr sy'n codi pwysedd gwaed ac sy’n cyfrannu at niwed i’r galon, yr arennau a’r pibellau gwaed.

Mae System Therapi Gorbwysedd Surround Sound® yn defnyddio uwchsain anymwthiol i drin nerfau arennol gorfywiog (techneg o'r enw dinerfu arennol [RDN]). Diben hyn yw achosi gostyngiad yng nghynhyrchiad hormonau’r arennau, sy'n codi pwysedd gwaed. Gallai hefyd amddiffyn y galon, yr arennau a'r pibellau gwaed rhag niwed pellach.

Mae treial clinigol WAVE IV yn gwerthuso Therapi Gorbwysedd Surround Sound ar gyfer cleifion sy'n dioddef o orbwysedd difrifol sydd ag ymwrthedd i gyffuriau. Surround Sound yw'r unig driniaeth dinerfu arennol anymwthiol o’i fath ar gyfer gorbwysedd sydd ag ymwrthedd: mae triniaethau eraill yn dibynnu ar gathetr y tu mewn i'r corff yn allyrru ynni i drin y nerfau arennol, ond mae Surround Sound® yn trosglwyddo ynni uwchsain i'r nerfau o'r tu allan i'r corff, heb orfod gwneud unrhyw doriadau yn y corff.

Meddai'r Athro John Cockcroft, Athro Cardioleg yn Sefydliad Ymchwil y Galon Cymru, Prifysgol Caerdydd: "Gallai oddeutu 8-10% o bobl sydd â phwysedd gwaed uchel fod yn anodd eu rheoli, er gwaetha’r feddyginiaeth orau bosibl. Cyn hyn, nid oedd dim byd pellach i’w gynnig i’r cleifion hyn.

"Erbyn hyn, rydym wedi canfod therapi nad yw’n gysylltiedig â chyffuriau ar gyfer y cleifion hyn, sydd eisoes wedi dangos ei fod yn addawol. Fodd bynnag, rydym bob amser yn ymdrechu i wella'r therapi nad yw’n gysylltiedig â cyffuriau ar gyfer y cleifion hyn. Os bydd yn llwyddiannus, bydd yn sicr yn atal strôc a thrawiadau ar y galon, na fyddai wedi bod yn bosibl yn y gorffennol."

Rhannu’r stori hon