Ewch i’r prif gynnwys

Myfyrwraig PhD yn sicrhau cyllid ar gyfer seminar iaith

8 Chwefror 2016

Bydd Gwennan Higham, myfyrwraig PhD yn Ysgol y Gymraeg, yn cyflwyno seminar, o'r enw Llwybrau amlieithog newydd ar gyfer integreiddio: Mewnfudwyr a dysgu iaith yn yr 21ain Ganrif, fel rhan o gyfres o Seminarau BAAL-CUP ym mis Mai 2016.

Cyflwynir y seminar ar y cyd â Nicola Bermingham, myfyriwr PhD, Ieithoedd ac Astudiaethau Rhyngddiwylliannol ym Mhrifysgol Heriot-Watt, ar ôl cyflwyno cais llwyddiannus i Bwyllgor Gweithredol Cymdeithas Ieithyddiaeth Gymhwysol Prydain (BAAL).

BAAL a Gwasg Prifysgol Caergrawnt (CUP) sy’n ariannu’r gyfres o Seminarau, a gynhelir am y bedwaredd flwyddyn eleni. Mae’n dangos eu hymrwymiad i waith ymchwil, ac i hyrwyddo’r gwaith ymchwil hwnnw, mewn Ieithyddiaeth Gymhwysol.

Mae’r seminar deuddydd wedi’i threfnu ar y cyd â COST (Rhaglen Gydweithredu Ewropeaidd ym maes Gwyddoniaeth a Thechnoleg) gyda chymorth gan y Ganolfan Ymchwil Rhyngddiwylliannol a’r Adran Ieithoedd ac Astudiaethau Rhyngddiwylliannol ym Mhrifysgol Heriot-Watt.

Dywedodd Gwennan wrth sôn am y cynnig llwyddiannus: “Mae Nicola a minnau’n ddiolchgar iawn am y cyfle hwn i ddod ag ymchwilwyr cymdeithaseg iaith, swyddogion y llywodraeth ac ymarferwyr cymunedol at ei gilydd i drafod y prif gwestiynau sy’n ymwneud ag integreiddio mewnfudwyr a dysgu iaith yn yr 21ain Ganrif. Er gwaethaf yr ideoleg o ‘un wlad, un iaith’ sy’n bodoli’n sylweddol, bydd y seminar yn ystyried natur aml-wedd dinasyddiaeth ac iaith, er enghraifft, yng Nghymru, yn ogystal â mewn rhannau eraill yn y DU. Y nod yw dynodi themâu allweddol er mwyn datblygu gwaith ymchwil a chydweithio ymhellach yn y maes hwn yn y dyfodol. ”

Llongyfarchodd Dr Jeremy Evas, darlithydd yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd, Gwennan am lwyddo i sicrhau cyllid ar gyfer y seminar, a dywedodd: “Mae Gwennan yn cyfrannu’n sylweddol at y maes astudiaeth hwn, thema ymchwil sy’n bwysig iawn i ni yma yn Ysgol y Gymraeg. Mae cynllunio, polisi, caffael a defnyddio iaith yn bynciau pwysig yng Nghymru gyfoes ac yn rhyngwladol. Rydyn ni’n dymuno’r gorau i Gwennan gyda’r seminar, ac yn edrych ymlaen at y deilliannau.”

Bydd y digwyddiad yn annog trafodaeth ryngddisgyblaethol gydag amrywiaeth o bapurau o wahanol gyd-destunau iaith a mudo a thrafodaethau o amgylch y bwrdd â gwahanol sectorau. Y prif themâu i'w trafod yw’r cyfleoedd a’r heriau i fewnfudwyr sy’n dysgu ieithoedd newydd, i ba raddau mae siaradwyr sy’n fewnfudwyr yn herio'r syniadau cyfredol am integreiddio, cydlyniant a dinasyddiaeth a pha gynlluniau allai hwyluso golwg fwy cynhwysfawr o integreiddio, cydlyniant a dinasyddiaeth yng nghyd-destun ieithoedd lleiafrifol a chenedlaethol.

Mae’r siaradwyr wedi’u cadarnhau, a bydd y canlynol yn rhoi'r prif anerchiadau:

  • Yr Athro Alison Phipps, Athro Ieithoedd ac Astudiaethau Rhyngddiwylliannol, a Chyd-gynullwr Rhwydwaith Ffoaduriaid, Lloches a Mewnfudo Glasgow (GRAMNET) ym Mhrifysgol Glasgow.
  • Yr Athro Máiréad Nic Craith, Cadeirydd Diwylliant a Threftadaeth Ewrop, Cyfarwyddwr Ymchwil a Chyfarwyddwr y Ganolfan Rhyngddiwylliannol ym Mhrifysgol Heriot-Watt.

Darllenwch fwy am y seminar a’r prif areithiau, ac am sut gallwch chi gysylltu â’r trefnwyr.

Rhannu’r stori hon