Ewch i’r prif gynnwys

Diogelu dyfodol llywodraeth leol yng Nghymru

6 Chwefror 2016

Council tax bill

Academydd o Gaerdydd yn dweud bod diwygiadau i lywodraeth leol yng Nghymru yn anghyson ac wedi'u llywio'n ormodol gan Lywodraeth Cymru

Mae trafodaeth ymylol yng nghynhadledd y gwanwyn Democratiaid Rhyddfrydol Cymru wedi clywed sut mae'r broses o ad-drefnu llywodraeth leol yng Nghymru yn ddryslyd ac yn anghyson, ac yn cael ei llywio'n ormodol gan Lywodraeth Cymru.

Gerbron y cyfarfod yng Nghaerdydd, dywedodd Dr James Downe, Cyfarwyddwr y Ganolfan Ymchwil Llywodraeth Leol a Rhanbarthol yn Ysgol Busnes Caerdydd, bod Llywodraeth Cymru wedi dilyn strategaeth lle mae wedi gwneud penderfyniadau yn erbyn ewyllys cynghorau lleol. Dywedodd hefyd ei bod wedi caniatáu trafodaethau am strwythur arwain, heb ystyried swyddogaeth y llywodraeth leol mewn unrhyw ddyfnder. 

Yn ogystal, dywedodd bod Llywodraeth Cymru wedi gwrthod cynigion i uno a gyflwynwyd gan awdurdodau lleol yng Nghymru, er bod nifer o wledydd eraill llwyddiannus wedi rhoi pŵer i gynghorau lleol benderfynu a ydynt am uno â sefydliadau eraill ai peidio, a phwy i uno â nhw. 

Daw ei sylwadau cyn etholiad y Cynulliad Cenedlaethol ym mis Mai. Bydd penderfyniadau'n cael eu gwneud ynghylch dyfodol strwythur llywodraeth leol Cymru ar ôl yr etholiad hwn.

 Dywedodd Dr James Downe, Cyfarwyddwr Canolfan Ymchwil Llywodraeth Leol a Rhanbarthol y Brifysgol:

"Bydd dysgu gwersi o ran sut mae cynghorau wedi cydweithio hyd yma yn helpu i hwyluso cydweithio effeithiol a chreu diwygiadau cadarn a chynaliadwy sy'n addas i bwrpas.  Mae hyn yn cynnwys mabwysiadu gweledigaeth glir ar gyfer swyddogaeth llywodraeth leol, arweinyddiaeth gref gan uwch-reolwyr a gwleidyddion, ac ymgysylltu â staff a defnyddwyr gwasanaeth. 

"Mae nifer o ffyrdd gwahanol y gellir darparu gwasanaethau yn y dyfodol, i ymdopi â thoriadau o ran gwariant cyhoeddus a chynnydd yn y galw. Nawr yw'r amser i asesu'r dystiolaeth, o fewn y DU a thu hwnt, ynglŷn â'r dull gorau o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus, er mwyn i lywodraethau lleol yng Nghymru allu gweithredu'n effeithiol ac yn effeithlon yn y dyfodol.

Trefnwyd y digwyddiad ymylol gan y Brifysgol, mewn partneriaeth â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC).