Ewch i’r prif gynnwys

Gwasanaeth diffygiol i ofalwyr

3 Chwefror 2016

Mother playing with disabled child.

Arolwg yn canfod bod gwasanaeth gofal seibiant awdurdodau lleol yn ddiffygiol

Yn ôl gwaith ymchwil newydd gan y Brifysgol, mae diffygion difrifol yn hygyrchedd a chywirdeb datganiadau seibiant byr ymysg awdurdodau lleol yn Lloegr. 

Mae seibiant byr neu ofal seibiant yn wasanaeth cefnogi pwysig sy'n galluogi teuluoedd a phlant anabl dreulio amser ar wahân.

Canfu arolwg a gynhaliwyd gan Brosiect Ymchwil Hawliau Cyfreithiol Cerebra yn Ysgol y Gyfraith, Prifysgol Caerdydd, bod mwy na 90 y cant o'r 63 o cyngor a ddadansoddwyd, wedi methu rhoi gynghorau i rieni sy'n ofalwyr a gofalwyr ifanc ynglŷn â'u hawl i gael eu hasesu.

Mae canfyddiadau eraill yn cynnwys: diffyg esboniad clir ynghylch sut penderfynir faint o gefnogaeth i'w darparu (mewn 85 y cant o achosion); roedd dros 80 y cant o awdurdodau wedi methu egluro beth gall teuluoedd ei wneud os ydynt yn anfodlon â'r gefnogaeth maent yn ei chael; ac mewn dros hanner yr achosion, roedd yn anodd dod o hyd i'r 'datganiad seibiant byr' ei hun.

Dywedodd yr Athro Luke Clement, Ysgol y Gyfraith, Prifysgol Caerdydd, a fu'n arwain y gwaith ymchwil: "Mae Seibiant Byr yn hollbwysig i blant anabl a'u teuluoedd.  Mae'r ymchwil yn dangos nad yw llawer o awdurdodau'n darparu'r hyn sy'n ofynnol yn ôl y gyfraith.  Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at arfer da, a'r gobaith yw y bydd hyn yn annog cynghorau i adolygu eu Datganiadau Seibiant Byr a gwneud yn siŵr eu bod o safon dderbyniol.  Rydym hefyd yn gofyn i Lywodraethau Cymru a Lloegr weithredu i wneud yn siŵr bod hyn yn digwydd".

Daeth nifer o ganfyddiadau cadarnhaol i'r amlwg yn sgîl y gwaith ymchwil hefyd. Er enghraifft, roedd 79 y cant o ddatganiadau seibiant byr yn hawdd eu darllen, ar ôl dod o hyd iddynt. Dewiswyd Ynys Wyth gan yr adroddiad fel enghraifft o arfer gorau, a chrybwyllwyd awdurdodau Camden, Hampshire, Lerpwl a Gorllewin Swydd Gaer a Chaer fel enghreifftiau da hefyd.

Ymhlith yr argymhellion a wnaed gan yr ymchwil, roedd cael pwynt rhesymegol i ddechrau chwilio - fel hafan; a'r angen am 'dempled' cenedlaethol safonol i'r holl awdurdodau ei ddefnyddio.

Rhannu’r stori hon