Ewch i’r prif gynnwys

Cyngor athletwr i redwyr hanner marathon

28 Ionawr 2016

Colin Jackson

Colin Jackson yn helpu rhedwyr dibrofiad cyn digwyddiad a noddir gan y Brifysgol

Ddydd Sadwrn, bydd arwr athletau Cymru, Colin Jackson, yn rhoi ei gyngor arbenigol i redwyr lwcus 'Clwb 500' sy'n cymryd rhan yng Nghaerdydd 2016, Pencampwriaeth Hanner Marathon y Byd IAAF/Prifysgol Caerdydd, yn rhad ac am ddim.

Mae'r 500 o leoedd am ddim, a gynigiwyd o dan Gynllun Athletics for a Better World Cymdeithas Ryngwladol y Ffederasiynau Athletau (IAAF), wedi cael eu dyrannu i redwyr newydd sydd am ddefnyddio Caerdydd 2016 i wella eu hiechyd a'u lles, ac i bobl mewn ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf.

Yn ogystal â lle am ddim yn ras dorfol Hanner Marathon y Byd Caerdydd 2016, bydd aelodau'r Clwb 500 yn cael cyfle i gwrdd â Colin Jackson y penwythnos hwn. Mae'r athletwr enwog wedi ennill dwy fedal aur yn ras glwydi 110m pencampwriaethau'r byd, pedair medal aur ym Mhencampwriaethau Ewrop, a dwy fedal aur yng Ngemau'r Gymanwlad, ac mae'n dal i feddu ar record byd ar gyfer y ras.

Bydd y rhedwyr yn cyfarfod â Jackson ym Mhentref Hyfforddi Chwaraeon Tal-y-bont, Prifysgol Caerdydd. Bydd yn rhoi awgrymiadau a chyngor i redwyr sydd am gwblhau eu hanner marathon cyntaf.

Dywedodd Colin Jackson: "Rwy'n edrych ymlaen at gyfarfod â phawb sy'n cymryd rhan ym menter Athletics for a Better World, a rhoi unrhyw gyngor i'w helpu i gael y profiad gorau posibl ym Mhencampwriaeth Hanner Marathon y Byd IAAF/Prifysgol Caerdydd.

"Mae'n braf gweld cynifer o bobl am wella eu hiechyd a'u lles yn y tymor hir. Dyma gyfle anhygoel iddynt gymryd rhan yn y digwyddiad athletau mwyaf i'w gynnal yng Nghymru erioed. 

"Y gobaith yw y bydd menter Athletics for a Better World yn ysbrydoli'r 500 hyn, yn ogystal â'u teuluoedd a'u ffrindiau, i feithrin diddordeb oes mewn athletau.

"Bydd Caerdydd 2016 yn ddigwyddiad anhygoel i Gaerdydd a Chymru, ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at groesawu rhai o redwyr pellter gorau'r byd, a hyd at 20,000 o bobl fydd yn cymryd rhan yn y ras dorfol yn fy ninas enedigol."

Mae Cymunedau yn Gyntaf yn rhaglen sy'n canolbwyntio ar y gymuned ac sy'n cefnogi agenda Trechu Tlodi Llywodraeth Cymru. Bydd y cynllun hefyd yn rhan o brosiect ymchwil gan y prif noddwyr, Prifysgol Caerdydd.

Bydd yr ymchwil yn monitro cynnydd y rhedwyr a'r effaith ar eu hiechyd a lles. Bydd hefyd yn ymchwilio i ffyrdd o leihau anafiadau.

Dywedodd Pennaeth Chwaraeon Prifysgol Caerdydd, Stuart Vanstone: "Mae'n braf cael croesawu llysgennad ABW IAAF, Colin Jackson, ynghyd â'r 500 o redwyr ABW ar gyfer digwyddiad fydd yn llawn hwyl.

"Mae Colin Jackson yn fwyaf adnabyddus am ei gampau fel pencampwr ras glwydi 110 metr, ond bydd yn gallu rhannu ei gyfoeth o brofiad, gan gynnwys ymddangosiad diweddar fel rhedwr dirgel ras ffordd 5km New Year's Eve Nos Galan.

"Dim ond naw wythnos o amser hyfforddi sydd ar ôl cyn Hanner Marathon y Byd, felly bydd y digwyddiad yn gyfle gwych i redwyr gwrdd i siarad am eu profiadau hyd yma, a thrafod rhaglenni hyfforddi gydag arbenigwyr o Athletau Cymru a'r Brifysgol."

Rhannu’r stori hon