Ewch i’r prif gynnwys

Adnodd sy'n arbed arian yn gwella triniaeth i gleifion cartref gofal

27 Ionawr 2016

pharmacist with elderly patient

Adnodd rheoli meddyginiaethau i wella gofal cleifion ac arbed miliynau o bunnoedd i gartrefi gofal

Gallai adnodd ar-lein newydd a ddyluniwyd i wella'r broses o reoli meddyginiaethau mewn cartrefi gofal yng Nghymru, arwain at driniaethau "fwy diogel a fwy effeithiol" ar gyfer cleifion, a helpu i arbed hyd at £4.6 miliwn y flwyddyn, yn ôl dadansoddiad gan arbenigwyr o Brifysgol Caerdydd.

Mewn adroddiad a gyhoeddwyd heddiw, mae ymchwilwyr o'r Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol wedi tynnu sylw at fanteision gweithredu adnodd rheoli meddyginiaethau digidol, a ddyluniwyd i helpu fferyllwyr i ymyrryd yn y broses o roi meddyginiaethau mewn cartrefi gofal.

Mae'r system electronig, a ddatblygwyd gan Beacon Digital Health ac Invatech Healthcare, yn rhoi mynediad cynhwysfawr i fferyllwyr at gofnodion meddyginiaethau cleifion, ac mae'n eu galluogi i gysylltu â chartrefi gofal o bell, gan roi cyngor proffesiynol a gwneud yn siŵr bod meddyginiaethau'n ddiogel ac yn effeithiol ar gyfer cleifion, a bod y cofnodion yn gywir. Mae'r adnodd yn galluogi fferyllwyr i roi gwybod i staff cartref gofal am feddyginiaethau a dognau newydd hefyd.

Wrth werthuso'r adnodd, dangosodd arbenigwyr Prifysgol Caerdydd y gallai'r system ddileu 21 o 23 math o wall sy'n gysylltiedig â rheoli meddyginiaethau, amlygwyd cyn rhoi'r adnodd ar waith. Gallai hefyd ddarparu nifer o ymyriadau i atal rhagor o wallau, gan leihau risgiau sylweddol i ddiogelwch cleifion.

Mae'r tîm yn amcangyfrif y gallai rhoi'r adnodd ar waith i leihau nifer y meddyginiaethau gwastraff arwain at arbedion blynyddol posibl o rhwng £3.2 miliwn a £4.6 miliwn, ar gyfer y 26,000 o welyau mewn cartrefi gofal yng Nghymru.

Dywedodd Dr Mathew Smith, un o'r gwerthuswyr o'r Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol: "Mae'n anodd iawn rheoli meddyginiaethau mewn cartrefi gofal. Mae heriau sylweddol sy'n gysylltiedig â diogelwch, ansawdd ac atebolrwydd wrth roi meddyginiaethau a chadw cofnodion, ac mae'n fygythiad difrifol i'r cleifion yn ein cartrefi gofal sy'n agored i niwed.

"Mae ein gwerthusiad wedi dangos y gellir lleihau llawer o'r risgiau hyn drwy roi'r system ar waith, a galluogi fferyllwyr i wneud ymyriadau rhagweithiol a chyson, sy'n cael effaith gadarnhaol ar ddiogelwch cleifion yn y pen draw.

"At hynny, mae'r gwerthusiad wedi dangos y gellid arbed miliynau o bunnoedd drwy wneud penderfyniadau gwybodus ar lefelau stoc, a lleihau faint o feddyginiaethau a gaiff eu gwastraffu."

Yn ddiweddar, mae'r byd academaidd ac asiantaethau diogelwch wedi bod yn craffu ar gartrefi gofal a'r gofal maent yn ei roi i gleifion, yn enwedig o ran rheoli meddyginiaethau. Fel y cyfryw, mae galw wedi bod i gynyddu cyfranogiad fferyllwyr medrus yn y broses hon, i roi cyngor a barn arbenigol.

O ystyried hyn, dyfarnwyd grant i Beacon Digital Health a'i noddwr, Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg (ABMU) gan y Gronfa Technoleg Iechyd a Theleiechyd (HTTF), i weithredu a gwerthuso ateb digidol sy'n galluogi fferyllwyr i gyfathrebu â chartrefi gofal yn ne Cymru.

Datblygwyr yr adnodd gan Invatech Healthcare a'i gyflwyno'n raddol i 30 o gartrefi gofal yn ne Cymru. Gwerthuswyd yr adnodd gan arbenigwyr ym Mhrifysgol Caerdydd dros gyfnod o 18 mis, i bennu ei effaith ar y defnydd diogel ac effeithiol o feddyginiaethau mewn cartrefi gofal.

Cyflwynir canlyniadau'r gwerthusiad heddiw, 27 Ionawr, mewn symposiwm ymchwil a gynhelir yn Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol Prifysgol Caerdydd.