Ewch i’r prif gynnwys

Trechu tlodi plant yng Nghymru

27 Ionawr 2016

William Aled Jones
Conference organiser: William Aled Jones

Cynhadledd yn cyflwyno'r canfyddiadau diweddaraf

Mae lefelau tlodi plant yng Nghymru'n parhau i fod ymhlith yr uchaf yn y DU. Amcangyfrifir bod tua 200,000 o blant yn byw mewn tlodi.

Bydd cynhadledd yng Nghaerdydd yr wythnos hon (29 Ionawr) yn mynd i'r afael â'r mater pwysig hwn, ac yn cyflwyno'r ymchwil ddiweddaraf i'r maes.

Bydd Cynhadledd Tlodi Plant yng Nghymru, a drefnwyd ar y cyd gan Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Caerdydd, a'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, yn cynnwys cyfraniadau gan academyddion, ymchwilwyr, gwleidyddion ac ymarferwyr.

Bydd y pynciau a drafodir yn cynnwys uchelgais a phobl ifanc o gymunedau difreintiedig yng nghymoedd de Cymru, addysg cyfrwng Cymraeg yn Grangetown, ac effeithiau tlodi ar blant a phobl ifanc o ardaloedd gwledig.

Bydd Mark Drakeford AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, yn cyflwyno yn ystod y gynhadledd, a rhoddir y cyflwyniad clo gan Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru.

Dywedodd yr Athro Mark Drakeford: "Mae Strategaeth Tlodi Plant Llywodraeth Cymru yn cadarnhau ein hymrwymiad at ddull effeithiol o drechu tlodi plant yng Nghymru. Rydym yn cydweithio ag awdurdodau lleol, y trydydd sector a'r sector preifat, i gael gwared ar dlodi drwy roi'r dechrau gorau posibl mewn bywyd i bob plentyn.

"Rydym hefyd yn parhau i wneud popeth yn ein gallu i liniaru effeithiau diwygiadau lles a mesurau caledi Llywodraeth y DU.

"Mae codi pobl o dlodi, a diogelu pobl rhag niwed sy'n gysylltiedig â thlodi, wrth wraidd y llywodraeth hon. Dyna pam ein bod wedi gwarchod cyllid Dechrau'n Deg, Grant Amddifadedd Disgyblion a Chefnogi Pobl yn ein Cyllideb Ddrafft."

Bydd yr Athro Jonathan Scourfield, Athro Gwaith Cymdeithasol a Dirprwy Bennaeth Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, yn cyflwyno ei waith ar anghydraddoldebau lles plant.

Wrth drafod y pwnc, meddai: "Byddaf yn cyflwyno astudiaeth bwysig sydd ar y gweill ar hyn o bryd i gymharu anghydraddoldebau lles plant ym mhedair cenedl y DU. Mae plant sydd mewn gofal ac ar gofrestrau amddiffyn plant yn debygol iawn o ddod o gymunedau difreintiedig.

"Mae'r gwasanaethau cymdeithasol yn aml yn cymryd hyn yn ganiataol, ond mae dadl gref y dylai gwasanaethau fod yn canolbwyntio'n benodol ar fynd i'r afael ag anghydraddoldebau economaidd."

"Byddaf hefyd yn cyflwyno canlyniadau annisgwyl gwaith ymchwil a wnaed gan gydweithwyr yn Lloegr. Ni waeth beth oedd lefel amddifadedd cymdogaeth, roedd yr ymchwil yn canfod bod plant mewn awdurdodau lleol  mwy cefnog yn fwy tebygol o gael gofal neu fod yn destun cynlluniau amddiffyn plant na phlant mewn ardaloedd llai cefnog.

"Felly, er bod plant mewn cymdogaethau mwy difreintiedig yn dangos lefelau uwch o angen, mae'n bosibl bod ardaloedd mwy cefnog yn derbyn cyfran anghymesur o'r gwariant o ystyried yr angen."

Dywedodd Dr Dafydd Trystan, Cofrestrydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol;

"Mae'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn hynod falch i noddi cynhadledd ar bwnc mor bwysig. Dyma'r tro cyntaf i gynhadladd o'r maint yma ar bolisi cymdeithasol gael ei chynnal yng Nghaedydd. Mae'n dangos maint y diddordeb proffesiynol ac academaidd sydd mewn trafod polisi cymdeithasol a thlodi plant trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'r Coleg yn falch iawn i gyd-weithio â Phrifysgol Caerdydd ar bwnc mor bwysig," meddai Dafydd.

Cymraeg fydd iaith cyflwyniadau'r gynhadledd, a bydd cyfleuster cyfieithu ar y pryd ar gael.

Defnyddiwch #TlodiPlant neu #ChildPovertyWales wrth sôn am y gynhadledd ar Twitter.