Ewch i’r prif gynnwys

Llywio brwydr naturiol y corff yn erbyn y ffliw

21 Ionawr 2016

Lady sneezing into tissue

Gallai moleciwl 'targedu' naturiol sydd wedi'i ddarganfod helpu i gyflymu'r frwydr yn erbyn firysau

Mae tîm o wyddonwyr o Brifysgol Caerdydd wedi datgelu moleciwl newydd a allai helpu i wella'r ffordd y mae'r corff yn targedu ac yn dechrau ei brwydr naturiol yn erbyn heintiau cyffredin fel y ffliw.

Yn y rhifyn a gyhoeddir heddiw (dydd Iau, 21 Ionawr 2016) o gyfnodolyn Cell Reports, mae tîm o Isadran Ymchwilio i Heintiau ac Imiwnedd Prifysgol Caerdydd yn amlygu moleciwl yn y corff o'r enw L-selectin sy'n cyfeirio celloedd T y corff i leoliad y firws.

Drwy ddefnyddio'r 'moleciwl targedu' hwn, bwriad y tîm yw cynyddu nifer y celloedd T sy'n lladd yn lleoliad yr haint gan helpu i ladd firysau.

"Gwyddwn eisoes fod celloedd gwyn y gwaed, neu'n benodol yr is-set o lymffocytau T, yn cynnig ffordd naturiol o'n hamddiffyn yn erbyn firysau," meddai Dr Ann Ager, fu'n arwain yr ymchwil.   

"Pan mae firws yn mynd i mewn i'r corff, mae'r lymffocytau T yn cael eu troi'n gelloedd T sy'n lladd cyn eu hanfon i ymladd yn erbyn y firws.

"Hyd yma, fodd bynnag, prin fu ein dealltwriaeth o sut mae'r celloedd T hyn sy'n lladd yn dod o hyd i'r firws," ychwanegodd.

Gall y ffliw tymhorol achosi salwch difrifol a chymhlethdodau sy'n peryglu bywydau pobl hŷn, plant ifanc, menywod beichiog a phobl sydd â chlefydau anadlol parhaus fel asthma neu glefyd y galon.

Ychwanegodd Dr Ager: "Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw gyffuriau gwrth-firws ar gael i drin y mwyafrif llethol o'r firysau sy'n achosi amrywiaeth eang o salwch.

"Gwyddwn hefyd bod angen ail-lunio brechiadau ar gyfer y ffliw bob tymor.

"Dyna pam mae ein canfyddiadau mor arwyddocaol.

"Erbyn hyn, gwyddwn beth sy'n cyfeirio'r celloedd T sy'n lladd i leoliad yr haint. Felly, bydd amlygu'r moleciwl targedu hwn, mewn theori, yn cynyddu nifer y celloedd T sy'n lladd yn lleoliad yr haint, ac yn helpu i ladd y firws."

Bydd angen cynnal rhagor o astudiaethau cyn y gellir troi'r canfyddiadau hyn yn fanteision uniongyrchol i gleifion; fodd bynnag, mae'r tîm yn bwriadu canolbwyntio eu hymdrechion ar golli llai o L-selectin o wyneb y celloedd T sy'n lladd, er mwyn cynyddu nifer y celloedd T sy'n gallu targedu'r meinweoedd sydd wedi'u heintio.

Bydd y tîm hefyd yn ceisio gweld pa foleciwl y mae L-selectin yn glynu ato mewn meinweoedd sydd wedi'u heintio gan alluogi'r celloedd T i gael eu cyfeirio yno.