Ewch i’r prif gynnwys

Prosiect arloesol yn newid y ddealltwriaeth o gynhanes Ewrop

21 Ionawr 2016

Professor Alasdair Whittle
Professor Alasdair Whittle

Mae prosiect ymchwil arloesol sydd wedi'i gyd-gyfarwyddo gan archaeolegydd o'r Brifysgol a Historic England, wedi ennill gwobr ryngwladol am newid y ddealltwriaeth o gynhanes Ewrop

Mae'r Athro Ymchwil nodedig, Alasdair Whittle, wedi ennill Gwobr Ymchwil Fforwm Archaeoleg Shanghai (SAF) am 'The Times of Their Lives’ ar ran tîm rhyngwladol yn ail Fforwm Archaeoleg Shanghai (14-16 Rhagfyr 2015).

Cafodd y prosiect 2.5m Ewro hwn a ariannwyd gan y Cyngor Ymchwil Ewropeaidd, ei gyd-arwain gan yr Athro Alasdair Whittle o'r Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd, a'r Athro Alexandra Bayliss o Historic England (English Heritage gynt).

Mae The Times of Their Lives yn un o restr arobryn o un ar ddeg o brosiectau a enillodd Wobr Ymchwil Fforwm Archaeoleg Shanghai 2015. Dyfernir gwobrau SAF mewn dau gategori bob dwy flynedd, sef Gwobr Darganfod yn y Maes a Gwobr Ymchwil. Yn y rownd ddiweddaraf, dewiswyd enillwyr o blith 93 o enwebiadau gan banel o arbenigwyr rhyngwladol.

Sefydlwyd Gwobrau Fforwm Archaeoleg Shanghai yn 2013, ac maent yn cydnabod unigolion a sefydliadau sydd wedi rhagori drwy gyflawni gwaith arloesol, creadigol a thrylwyr mewn perthynas â'n gorffennol dynol, ac sydd wedi arwain at wybodaeth newydd sy'n arbennig o berthnasol i'r byd cyfoes ac i'n dyfodol cyffredin.

Mae'r prosiect arloesol The Times of Their Lives yn arwain at ailystyried y cyfnod Ewropeaidd Neolithig, y cyfnod cynhanesyddol sy'n adnabyddus am y cymdeithasau ffermio cyntaf rhwng 7000CC a 2500CC, a'r cyfnod sy'n uniongyrchol cyn yr Oes Efydd.

Drwy ymadael â'r traddodiad blaenorol o bennu dyddiadau radiocarbon drwy ymchwiliad gweledol, gan arwain at ystod o ganrifoedd ar y gorau, mae'r prosiect yn defnyddio ystadegau Bayesaidd mewn fframwaith cronolegol ffurfiol i ddatgelu bywydau ein hynafiaid mewn amserlen fanylach o lawer - gan ddangos oes a chenedlaethau hyd yn oed.

Yn ogystal â defnyddio enghreifftiau o gloddfeydd parhaus a diweddar, mae'r prosiect pum mlynedd wedi llwyddo i dynnu ar gyfoeth o ddata mewn archifau sydd wedi'u hen sefydlu, gan ddefnyddio astudiaethau achos o'r Almaen, Hwngari, Malta, Gwlad Pwyl, Romania, yr Alban, Serbia, Sbaen a'r Swistir.

Yn ôl yr Athro Whittle: "Mae'r prosiect yn ymgais uchelgeisiol i gael gwared ar y 'cyn' mewn cynhanes. Nid yw'n hawdd rhoi safbwyntiau ar sawl graddfa ar waith. Ond gyda'r dull hwn, ac wrth archwilio dewisiadau enghreifftiol yn llawn, credwn y gall archaeolegwyr ym mhobman droi cefn ar gynhanes niwlog, gan ddatgelu'r we o gysylltiadau ac olynwyr y mae bywydau yn y gorffennol yn seiliedig arnynt, a chynnig ein cofnodion gorau erioed o bobl y gorffennol pell."

Dywed Pennaeth Dyddio Gwyddonol Historic England, yr Athro Bayliss: "Nid oedd dechrau ffermio yn anochel, roedd yn ddewis a wnaethpwyd gan bobl yn y gorffennol ar adegau penodol ac mewn mannau penodol. Mae cronolegau manwl yn ein galluogi i gydnabod y dewisiadau hynny, a gweld sut mae amser a gofod yn eu cysylltu, gan roi canolbwynt cynhanes yn ôl ar y bobl."