Ewch i’r prif gynnwys

Mo yn targedu Hanner Marathon y Byd

21 Ionawr 2016

Mo Farah crosses the finish line in Beijing

Mae Mo Farah wedi cyhoeddi ei fod ar gael i'w ddewis yn rhan o dîm Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon ar gyfer Pencampwriaeth Hanner Marathon y Byd IAAF/Prifysgol Caerdydd.

Mae'r penderfyniad hwn gan enillydd dwy fedal aur yn y Gemau Olympaidd yn hwb aruthrol i Gaerdydd a Chymru.

Bydd Farah yn ymuno â 200 o athletwyr pellter gorau'r byd, a hyd at 25,000 o redwyr amatur i rasio ar y llwybr cyflym a gwastad, ddydd Sadwrn y Pasg, 26 Mawrth.

Caerdydd 2016 fydd y tro cyntaf, ac o bosibl yr unig dro, i Farah, seren enwog y byd athletau rhyngwladol, rasio ar strydoedd prifddinas Cymru. Mae hyn yn rhan o'i baratoadau wrth iddo geisio bod y cyntaf erioed i ennill y ras 5,000m a 10,000m am yr eildro yng Ngemau Olympaidd Rio yr haf hwn.

Mae'r Brifysgol yn noddi'r digwyddiad, ac yn dwyn ynghyd ei staff a'i chymunedau lleol i hyrwyddo'r manteision a ddaw yn sgîl byw'n iach ac yn weithgar.

Meddai'r Athro Colin Riordan, Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd: "Rwyf wrth fy modd y disgwylir i Mo Farah redeg ym Mhencampwriaeth Hanner Marathon y Byd.

"Bydd yn fraint i'r cefnogwyr weld un o athletwyr gorau'r byd ar ei orau yng Nghaerdydd, a bydd yn brofiad gwefreiddiol i redwyr amaturaidd allu dweud eu bod wedi rasio yn ei erbyn.

"Mae'r ffaith bod Mo yn cymryd rhan yn dod â mwy o amlygrwydd i'r digwyddiad, felly mae hefyd yn gyfle gwych i ddangos dinas Caerdydd a'r Brifysgol i gynulleidfa ryngwladol fawr ar y teledu."

Dywedodd Matt Newman, prif weithredwr trefnwyr y digwyddiad, Run 4 Wales: "Rydym wrth ein bodd bod Mo Farah ar gael i'w ddewis yn rhan o dîm athletau Prydain sy'n cystadlu ym Mhencampwriaeth Hanner Marathon y Byd IAAF/Prifysgol Caerdydd ar 26 Mawrth 2016.

"Mae'n gamp enfawr i Gaerdydd 2016; mae ymddangosiad Mo wedi bod yn uchelgais i Run 4 Wales o'r cychwyn cyntaf, a bydd y newyddion yn hwb enfawr yn ystod y naw wythnos olaf o baratoi."

Dywedodd Ken Skates, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth: "Mae hyn yn newyddion cyffrous iawn i Gaerdydd a Chymru, a bydd yn codi Pencampwriaeth Hanner Marathon y Byd IAAF/Prifysgol Caerdydd i lefel gwbl newydd.

"Rwy'n siŵr y bydd ei benderfyniad i gymryd rhan yn ysbrydoli'r miloedd o amaturiaid a rhedwyr hwyl fydd yn cystadlu, a bydd yn rhoi cyfle iddynt ddweud 'Dwi wedi rasio gyda Mo Farah'."

Caerdydd 2016 fydd y digwyddiad athletau mwyaf yng Nghymru ers cynnal Gemau'r Ymerodraeth a'r Gymanwlad 1958 yn y brifddinas.

I gael rhagor o wybodaeth am y cynigion diweddaraf am leoedd i redeg ym Mhencampwriaeth Hanner Marathon y Byd IAAF/Prifysgol Caerdydd, ewch i www.cardiff2016.co.uk. Neu gallwch ddilyn y digwyddiad ar Twitter: @cardiff2016 a Facebook: IAAF/Cardiff University World Half Marathon Championships 2016.

Rhannu’r stori hon