Ewch i’r prif gynnwys

Cydnabod cydraddoldeb yn y gweithle

19 Ionawr 2016

Stonewall 2016

Ymhlith yr 20 gorau ym Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall

Mae ymrwymiad y Brifysgol i gydraddoldeb ar gyfer gweithwyr cyflogedig lesbiaidd, hoyw a deurywiol wedi cael ei gydnabod, wrth i ni ymddangos ymhlith yr 20 gorau mewn arolwg cenedlaethol.

Mae Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall 2016 yn rhoi'r Brifysgol yn 20fed o 100 o gyflogwyr, ac felly, ni yw'r Sefydliad Addysg Uwch sydd wedi gwneud orau yn yr arolwg.

Dyma'r tro cyntaf i'r Brifysgol gyrraedd yr 20 gorau yn y Mynegai, ar ôl ymddangos ymhlith y 100 gorau am y pum mlynedd diwethaf.

Dywedodd yr Athro Colin Riordan, Is-ganghellor y Brifysgol: "Dyma newyddion ardderchog, ac mae'n dyst i ymrwymiad pawb sy'n gysylltiedig â hyn. Rwy'n falch iawn o'n cynnydd parhaus yn y Mynegai hwn, ac o'r gydnabyddiaeth y mae'n ei rhoi i'n hymdrechion i sicrhau amgylchedd gweithio cynhwysol, croesawgar a chynhyrchiol i bawb yn y Brifysgol."

Dywedodd Karen Cooke, cadeirydd rhwydwaith staff LGBT+ y Brifysgol, Enfys: "Mae ymddangos ymhlith yr 20 gorau ym Mynegai'r Gweithle yn gydnabyddiaeth o waith caled ac agwedd benderfynol nifer o bobl ar draws y Brifysgol, sydd wedi ymrwymo i gydraddoldeb LGBT+ ers blynyddoedd lawer.  Prif nod y gwaith hwn yw creu amgylchedd lle gall ein myfyrwyr a'n staff deimlo'n gyfforddus wrth weithio ac astudio ym Mhrifysgol Caerdydd. ”

Mae'r Brifysgol yn cyflwyno cais ar gyfer Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall bob blwyddyn. Dyma'r 12fed blwyddyn i'r Mynegai gael ei greu, ac mae'n dathlu ymdrechion arloesol sefydliadau blaenllaw i fanteisio ar gryfderau gweithlu amrywiol.

Mae dros 1,000 o sefydliadau wedi bod yn rhan o'r Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle ers y Mynegai cyntaf. Bellach, dyma'r rhestr ddiffiniol sy'n dangos y cyflogwyr gorau ar gyfer staff lesbiaidd, hoyw a deurywiol. 

Mae'r Mynegai'n seiliedig ar dystiolaeth ac yn galluogi sefydliadau i asesu eu cyflawniadau a chynnydd ar gydraddoldeb LGBT yn y gweithle, gan gynnwys polisi, ymgysylltiad staff a datblygiad gyrfa.

Rhannu’r stori hon