Ewch i’r prif gynnwys

Cydnabod 'agwedd fyd-eang' Caerdydd

14 Ionawr 2016

international students

Rhestr o Brifysgolion Gorau'r Byd Times Higher Education (THE) yn rhoi Caerdydd ymhlith y 200 gorau ar gyfer bod yn rhyngwladol

Mae'r Brifysgol wedi'i rhestru ymhlith prifysgolion mwyaf rhyngwladol y byd mewn tabl cynghrair byd-eang uchel ei barch.

Mae data a gyhoeddwyd heddiw gan Restr o Brifysgolion Gorau'r Byd Times Higher Education (THE) yn gosod Caerdydd yn safle 126 ymhlith y 200 sefydliad mwyaf eangfrydig.

Mae'r tabl cynghrair yn cynnwys 800 o brifysgolion ledled y byd.

Mae'r rhestr ddiweddaraf hon yn dilyn llwyddiant y Brifysgol ym mis Medi y llynedd, wrth iddi wneud cynnydd sylweddol wrth godi 26 lle yn Rhestr o Brifysgolion Gorau'r Byd THE i'w safle presennol, sef 182 - ei safle uchaf ers 2009.

Mae'r canlyniadau hefyd yn ategu perfformiad rhagorol y Brifysgol yn Rhestr QS fesul pwnc, a gyhoeddwyd ym mis Ebrill y llynedd.

Pennir rhestr heddiw drwy ystyried cyfran pob sefydliad o staff rhyngwladol, myfyrwyr rhyngwladol a phapurau ymchwil wedi'u cyhoeddi gydag o leiaf un cydawdur o wlad arall. 

Meddai'r Athro Colin Riordan, Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd:

"Mae'n braf gweld ein hymdrechion i fod yn rhyngwladol yn cael eu cydnabod yn y modd hwn. Mae sicrhau gwell cydgysylltiad rhwng y Brifysgol a gweddill y byd yn ganolbwynt strategol allweddol.

"I hyrwyddo'r nodau hyn, rydym wedi sefydlu prosiectau cydweithredol cyffrous gyda phrifysgolion a chyfleusterau ymchwil blaenllaw yng Ngwlad Belg, Tsieina, Borneo a Namibia. Mae pob cyswllt yn mynd i'r afael ag ystod o faterion pwysig, o ganser a chadwraeth i leihau tlodi a hyrwyddo iechyd.

"Er ein bod ymhlith goreuon yn y byd yn y maes hwn, ein nod yw gwella'n barhaus, a byddwn yn ymdrechu i adeiladu ar hyn dros y flwyddyn nesaf. Rydym nawr am lofnodi partneriaeth strategol gyda phrifysgol o bwys yn yr Unol Daleithiau, felly mae cyfnod cyffrous o'n blaenau."

Mae'r Brifysgol wedi gwneud llawer i sicrhau ei henw da yn rhyngwladol dros y flwyddyn ddiwethaf.

Ym mis Medi, daeth Dirprwy Brif Weinidog Tsieina, Liu Yandong, i ymweld â Chaerdydd, i oruchwylio digwyddiad lansio Coleg newydd o dan arweiniad Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Normal Beijing, sef y tro cyntaf i Goleg o'r fath gael ei sefydlu yn y DU.

Fe wnaeth Is-Ganghellor y Brifysgol ymuno â dirprwyaeth bwysig i India hefyd, o dan arweiniad Ysgrifennydd Gwladol y DU dros Fusnes, Arloesedd a Sgiliau, Sajid Javid AS, a Gweinidog y Prifysgolion a Gwyddoniaeth, Jo Johnson AS. Eu nod oedd dathlu cysylltiadau presennol a cheisio denu myfyrwyr rhyngwladol i astudio yn y DU.

Yn ogystal, yn 2015, teithiodd dros 100 o'n myfyrwyr i Ewrop ar gyfer lleoliadau gwaith fel rhan o'u profiad fel myfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae gan y Brifysgol oddeutu 300 o gytundebau dwyochrog gyda sefydliadau ledled Ewrop, ac mae'n croesawu dros 350 o fyfyrwyr Ewropeaidd Erasmus bob blwyddyn.

Dywedodd Phil Baty, Golygydd Rhestr THE:

"Mae agwedd fyd-eang sefydliad yn un o ddangosyddion allweddol prifysgol glodwiw. Mae'r sefydliadau gorau'n cyflogi staff o bedwar ban y byd, yn denu myfyrwyr o farchnad fyd-eang o dalent ragorol, ac yn cydweithio ag adrannau blaenllaw ble bynnag y maent wedi'u lleoli.

"Mae'n newyddion arbennig o dda ar gyfer yr holl sefydliadau sydd ar y rhestr o brifysgolion mwyaf rhyngwladol y byd. Mae'n arwydd o botensial, ysfa gystadleuol ac egni arbennig."

Mae'r rhestr lawn ar gael yma.

Rhannu’r stori hon