Ewch i’r prif gynnwys

Tryloywder mewn ymchwil

14 Ionawr 2016

'The Peer Reviewers’ Openness Initiative’ logo
Menter newydd i chywyldroi ymchwil wyddonol drwy fod yn agored

Mae grŵp o ymchwilwyr a arweinir gan Brifysgol Caerdydd yn ceisio chwyldroi ymchwil wyddonol.

Heddiw, maent yn lansio 'Menter Bod yn Agored yr Adolygwyr Cymheiriaid' (PRO). Eu nod yw ceisio gwella ansawdd ac effeithlonrwydd ymchwil wyddonol drwy ledaenu arferion ymchwil agored a thryloyw.

Mewn papur sydd ar gael ar-lein heddiw, mae'r awduron yn canmol datblygiadau technolegol newydd sy'n hwyluso ymchwil agored ac yn cyflymu cynnydd gwyddonol. Fodd bynnag, maent yn gresynu mai 'prin' yw'r arferion ymchwil mewn sawl rhan o lenyddiaeth wyddonol.

Yn eu barn nhw, amharodrwydd tueddol llawer o ymchwilwyr i ddatgelu eu data a'u dulliau sydd i'w gyfrif am hyn gan eu bod yn tybio mai'r rhai maent yn cystadlu yn eu herbyn fydd yn elwa. Nid oes unrhyw sicrwydd y bydd eraill yr un mor agored, felly byddai gwneud hynny yn eu rhoi o dan anfantais yn eu maes eu hun.

Mae'r awduron yn disgrifio hyn fel y 'cyfyng-gyngor cymdeithasol'. Yn eu barn nhw, nid yw cadw data a dulliau iddyn nhw eu hunain yn golygu o reidrwydd bod yr ymchwilwyr yn gwrthwynebu'r egwyddorion o fod yn agored – yn wir, mae'r ymchwil y cyfeirir ati yn y papur yn gwrth-ddweud hyn.

Mae'r papur yn disgrifio sut mae angen cymhelliant. Mae'n cynnig strategaeth newydd ar gyfer cyflawni hyn ac mae gan adolygwyr cymheiriaid rôl ganolog ynddi.

Fel rhan o broses adolygiad gan gymheiriaid, mae'n awgrymu y gall adolygwyr roi newid ar waith drwy fynnu y dylai'r egwyddor o fod yn agored gael ei ystyried fel arfer yr un mor bwysig ag arferion ymchwil eraill.

Gwahoddir gwyddonwyr sy'n cefnogi'r syniad hwn i ymuno â Menter PRO; nodir mewn datganiad y byddant, ar ôl 1 Ionawr 2017, yn dechrau arddel "rhai safonau ymchwil agored a sylfaenol mewn cysylltiad â'r llawysgrifau y maent yn eu hadolygu".

Mae'r safonau hyn yn cynnwys gwneud yn siŵr bod data a deunyddiau ar gael yn gyhoeddus; gwneud yn siŵr bod dogfennau sy'n cynnwys manylion ar gyfer dehongli unrhyw ffeiliau neu gôd, hefyd ar gael; a bod pob ffeil yn cael ei hysbysebu yn y papur ymchwil.

Hanfod y fenter yw'r syniad y gall adolygwyr ymgysylltu'n anuniongyrchol ag awduron am faterion yn ymwneud â bod yn agored yn wyddonol drwy olygydd yn ystod y broses adolygu. O safbwynt yr awduron, mae ganddynt hwythau wedyn yr hawl i ymateb drwy gyfiawnhau neu gywiro.

Dim ond pan fydd yn ddigon agored, neu mae modd cyfiawnhau pam nad ydyw'n agored, y gall y papur ymchwil barhau i gael ei adolygu gan gymheiriaid er mwyn ei gyhoeddi.

Dywedodd y prif awdur, Dr Richard Morey o Ysgol Seicoleg Prifysgol Caerdydd:

"Dylai gwyddoniaeth fod yn broses agored a thryloyw, ond anaml y mae hynny'n digwydd. Yn aml, nid yw data a deunyddiau ar gael i wyddonwyr eraill neu'r cyhoedd, gan olygu nad oes modd eu dyblygu na'u dilysu.

"Mae'r rhan fwyaf o atebion i'r broblem hon yn canolbwyntio ar newid polisi, ond rydym yn cynnig dewis amgen ar lawr gwlad: Menter Bod yn Agored yr Adolygwyr Cymheiriaid (PRO).

"O dan PRO, nid yw adolygwyr yn rhoi adolygiadau llawn oni bai bod papurau yn rhannu data a deunyddiau, neu mae'r awduron yn gallu cyfiawnhau pam nad ydynt yn eu rhannu.

"Y ffaith fod angen i bawb gydweithio yw hanfod y fenter: gan fod gwyddoniaeth yn dibynnu ar adolygiadau, adolygwyr sydd â'r allwedd i wneud gwyddoniaeth yn agored."

Anogir gwyddonwyr i ymuno â'r fenter sydd i'w gweld yma.

Rhannu’r stori hon