Ewch i’r prif gynnwys

Dewis dylunydd ar gyfer Cyfleuster Ymchwil Drosiadol Prifysgol Caerdydd

18 Ionawr 2016

Model Building

Bydd y ganolfan ymchwil yn gartref i ddau sefydliad gwyddonol o'r radd flaenaf

Mae Prifysgol Caerdydd wedi dewis HOK i ddylunio Cyfleuster Ymchwil Drosiadol gwerth £77 miliwn, fel rhan o gynlluniau'r sefydliad ar gyfer ei Champws Arloesedd.

Bydd y ganolfan ymchwil 129,000 modfedd sgwâr yn gartref i ddau sefydliad o'r radd flaenaf: Sefydliad Catalysis Caerdydd a'r Sefydliad ar gyfer Lled-ddargludyddion Cyfansawdd.

Dywedodd Adrian Gainer, arweinydd rhanbarthol grŵp Gwyddoniaeth a Thechnoleg HOK: "Rydym yn edrych ymlaen at greu cyfleusterau arloesol a fydd yn atgyfnerthu enw da rhyngwladol y Brifysgol fel canolfan ymchwil catalysis flaenllaw, ac yn adeiladu ar ei chryfderau wrth ddatblygu deunyddiau a dyfeisiau lled-ddargludo."

Meddai'r Athro Hywel Thomas, Dirprwy Is-Ganghellor, Ymchwil, Arloesedd ac Ymgysylltu:  "Rydym wrth ein bodd ein bod wedi dewis HOK i ddylunio'r Cyfleuster Ymchwil Drosiadol, a fydd yn grwsibl ar gyfer ymchwil drosiadol arloesol y Brifysgol. Arloesedd yw hanfod y Brifysgol, ac mae'n bodoli ym mhopeth a wnawn. Bydd creu'r campws arloesedd yn helpu ymchwilwyr blaenllaw a myfyrwyr entrepreneuraidd i droi ymchwil yn atebion 'go iawn', gan ddod â manteision cymdeithasol ac economaidd i Gymru a thu hwnt.

Bydd canolbwynt Prifysgol Caerdydd ar arloesedd yn galluogi'r Brifysgol i ymgysylltu â'r sector preifat, er mwyn cynhyrchu ffrydiau refeniw masnachol i gefnogi rhaglenni ymchwil. Mae'r Cyfleuster Ymchwil Drosiadol yn rhan o gynlluniau Prifysgol Caerdydd ar gyfer Campws Arloesedd gwerth £300m.

Mae HOK yn darparu gwasanaethau pensaernïol, a gwasanaethau ymgynghori arweiniol. Mae aelodau eraill y tîm yn cynnwys CH2M, sy'n darparu gwasanaethau mecanyddol, trydanol, strwythurol a pheirianneg sifil; BuroFour, sy'n darparu gwasanaethau rheoli prosiect; a Faithful and Gould, yr ymgynghorwyr cost.

Rhannu’r stori hon