Ewch i’r prif gynnwys

Uwchraddio'r system imiwnedd

13 Ionawr 2016

Cells green on red

Gwyddonwyr yn ail-lunio system imiwnedd y corff i drin canser mewn modd mwy diogel ac effeithiol

Mae gwyddonwyr wedi dangos ffordd newydd o ail-lunio system imiwnedd y corff i dargedu canser, gan baratoi'r ffordd ar gyfer cenhedlaeth newydd o gyffuriau, sy'n fwy diogel ac effeithiol na dim a welwyd o'r blaen.

Mae ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd wedi defnyddio technoleg Pelydr X bwerus i lunio math arbennig o gell gwyn y gwaed - a elwir yn Gell-T - sy'n gallu targedu meinweoedd canseraidd gan gyffwrdd cyn lleied â phosibl ar feinweoedd iach. Gall gormod o gyswllt ladd cleifion sy'n cael y math hwn o therapi arbrofol.

Mae targedu canser gan ddefnyddio celloedd-T yn faes therapiwtig sy'n prysur dyfu. Fodd bynnag, dim, ond i ryw raddau y gall celloedd-T ymladd yn erbyn canser, am nad ydynt yn gallu ymosod ar feinweoedd y corff ei hun. Mae hyn yn rhwystr mawr i ymchwilwyr sy'n ceisio targedu celloedd canser sy'n aml yn deillio o gelloedd iach.

I oresgyn hyn, mae gwyddonwyr yn defnyddio derbynnydd celloedd-T gwell, wedi'i addasu (TCR); moleciwl ar wyneb celloedd-T sy'n gweithredu fel blaenau bysedd hynod sensitif yn chwilio am arwyddion o glefyd yn y corff. Ar hyn o bryd, mae'r dull hwn yn cael ei dreialu ar gyfer amrywiaeth eang o dargedau canser, ond gallai fod yn beryglus i'r rheini sy'n cymryd rhan yn y treial o hyd.

Yn 2013, roedd yn rhaid gohirio'r broses o recriwtio cleifion ar gyfer treial clinigol imiwnotherapi canser cam 1 yn Efrog Newydd, oherwydd marwolaeth dau glaf a gafodd TCRs wedi'u haddasu, a achosodd niwed angheuol i feinweoedd y galon.

Am y tro cyntaf erioed, mae gwyddonwyr yn Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd wedi gallu esbonio pam wnaeth y therapi arbrofol achosi'r marwolaethau hyn. Cyhoeddir eu canfyddiadau heddiw yng nghyfnodolyn Scientific Reports.Gan ddefnyddio Diamond Light Source, cyfleuster gwyddoniaeth syncrotron y DU, roedd y grŵp yn gallu defnyddio golau dwys, oedd 10 biliwn gwaith yn oleuach na'r haul, i weld beth achosodd y trychinebau hyn.

Gan ddefnyddio techneg a elwir yn risialeg Pelydr X – yr un dechneg a ddefnyddiwyd i ddatrys strwythur DNA – maent yn dangos sut dechreuodd TCR wedi'i addasu, y bwriadwyd iddo dargedu antigen ganseraidd, ymosod ar feinwe calon iach mewn camgymeriad.

Roedd y syncrotron yn galluogi'r tîm i weld sut roedd y TCR a luniwyd, a marcwyr y meinweoedd canseraidd a meinweoedd y galon, yn rhyngweithio. Datgelodd bod y ddau yn debyg o ran siâp, ar lefel atomaidd, gan ei gwneud yn anodd iawn i'r celloedd-T wahaniaethu rhyngddynt.

Dywedodd Dr David Cole o Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd, prif awdur yr astudiaeth: "Mae'r darganfyddiad hwn yn arwyddocaol mewn nifer o ffyrdd. Yn gyntaf, mae'r delweddau a ganfuwyd gan y grisialeg Pelydr X wedi ein galluogi i ail-lunio'n uniongyrchol y TCRs a gafodd eu haddasu, i leihau'n sylweddol ei gyswllt â meinweoedd iach, sef prawf o gysyniad ar gyfer dyluniad mwy diogel ac effeithiol ar gyfer y genhedlaeth nesaf o gyffuriau canser.

"Yn ail, mae'n dangos sut gallai celloedd-T achosi difrod diangen i feinweoedd iach mewn clefydau eraill megis diabetes math 1, sglerosis ymledol ac arthritis gwynegol. Ar ben hynny, mae'r data'n esbonio, ar y lefel foleciwlaidd, pam y bu i ddau glaf ddioddef niwed cardiofasgwlaidd ar ôl derbyn triniaeth canser newydd – a sut i osgoi hyn rhag digwydd yn y dyfodol."

Dywedodd Dr Pierre Rizkallah, yr awdur arweiniol o Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd: "Hanfod y canfyddiadau newydd yw'r gallu i weld, ar y lefel atomaidd, sut mae'r TCR yn 'gweld' marcwyr gwahanol, p'un a ydynt ar gelloedd canser neu ar gelloedd iach. Dyma ddylunio cyffuriau ar raddfa protein, ac mae diffreithiad Pelydr X yn adnodd heb ei ail yn ein dwylo er mwyn cyflawni'r canlyniadau hyn."

Yn ôl yr Athro Brian Baker, o Brifysgol Notre Dame: "Ar hyn o bryd, mae llawer iawn o ddiddordeb mewn celloedd-T sydd wedi'u haddasu fel therapi arloesol newydd i ymladd yn erbyn canser. Fodd bynnag, mae llawer i'w ddysgu o hyd am sgil-effeithiau posibl y celloedd hyn sydd wedi'u haddasu.

"Mae'r astudiaeth newydd drawiadol gan Dr Cole a'i gydweithwyr yn gam arwyddocaol iawn ymlaen, wrth ddangos sut gall sgil-effeithiau annisgwyl ddigwydd, a sut gellid eu hosgoi yn y dyfodol, gan wella diogelwch ac effeithiolrwydd ym maes imiwnotherapi canser."

Ariannwyd y gwaith ymchwil gan Ymddiriedolaeth Wellcome, gyda chefnogaeth gan gyfleusterau a staff Diamond Light Source.

Rhannu’r stori hon