Ewch i’r prif gynnwys

Catalydd aur a ddatblygwyd yng Nghaerdydd ar werth yn Tsieina

5 Ionawr 2016

Professor Graham Hutchings
Yr Athro Graham Hutchings

Johnson Matthey yn masnacheiddio catalydd aur wrth i arbenigwyr blaenllaw ddod i Gaerdydd ar gyfer cynhadledd flynyddol.

Mae catalydd newydd a gafodd ei ddarganfod gan arbenigwyr o Brifysgol Caerdydd, wedi'i fasnacheiddio'n llwyddiannus gan gwmni cemegau o'r Deyrnas Unedig. Yn ôl rhai, mae gan y catalydd y potensial i achub bywydau, gwella iechyd a glanhau'r amgylchedd.

Mae gan y catalydd aur y gallu unigryw i gyflymu llawer o adweithiau a gwneud cynhyrchion yn rhatach a glanach, yn ogystal â'u gwneud yn fwy diogel a chynaliadwy. Cwmni Johnson Matthey sy'n ei gynhyrchu mewn ffatri a adeiladwyd yn bwrpasol yn Shanghai, Tsieina er mwyn cynhyrchu llawer iawn o finyl clorid (VCM), prif gynhwysyn PVC.

Dyma'r tro cyntaf ers dros 50 mlynedd i ddull llunio catalydd gael ei ailwampio er mwyn cynhyrchu unrhyw nwydd cemegol.

Yr Athro Graham Hutchings a'i dîm yn Sefydliad Catalysis Caerdydd (CCI) oedd y cyntaf i ddarganfod gallu rhyfeddol aur i gyflymu adweithiau.

Daeth i'r amlwg yng ngwaith ymchwil y tîm y gallai aur fod yn ddeunydd delfrydol i hwyluso'r broses o gynhyrchu VCM. Ers y 1950au, catalydd mercwri sydd wedi'i ddefnyddio i gynhyrchu VCM. Mae mercwri yn hynod niweidiol i'r amgylchedd, ac mae hefyd yn fygythiad difrifol i iechyd pobl yn ôl Sefydliad Iechyd y Byd.

Ers gwneud y darganfyddiad hwn, mae CCI wedi cydweithio'n agos â Johnson Matthey sydd wedi treialu'r catalydd aur mewn gwaith ac adweithyddion peilot yn Tsieina. Erbyn hyn, mae ffatri lawn ar waith sy'n cynhyrchu cannoedd o dunelli o gatalydd aur i gynhyrchu VCM.

Enillodd CCI a Johnson Matthey y wobr am 'Gynnyrch Arloesol y Flwyddyn' yn seremoni Gwobrau Byd-eang IChemE yn Birmingham fis diwethaf am y gwaith masnacheiddio hwn.

Daw'r llwyddiant bron i flwyddyn ers i CCI ymuno â Chymdeithas Max Planck mewn partneriaeth nodedig. Diben y bartneriaeth yw datblygu rhaglen ymchwil newydd ym maes catalyddion yn rhan o Rwydwaith Ynni Maxnet y Gymdeithas, gan olygu bod ymchwil Prifysgol Caerdydd yn rhan ganolog o brif sefydliad ymchwil yr Almaen.

Bydd cynhadledd flynyddol CCI, a gynhelir ar 5-6 Ionawr, yn canolbwyntio ar raglen Maxnet ac yn dangos gwaith y bartneriaeth i lu o arbenigwyr mwyaf blaenllaw'r byd ym maes catalysis.

Bydd yr Athro Ferdi Schueth, Is-Lywydd Cymdeithas Max Planck a Robert Shloegl, Cyfarwyddwr Maxnet, yn y digwyddiad, yn ogystal ag amrywiaeth o gynrychiolwyr y diwydiant o Exxon Mobil, Haldor Topsoe, Sabic, Invista, Johnson Matthey, Shell, Solvay a Syngenta.

Dywedodd yr Athro Graham Hutchings, Cyfarwyddwr CCI: "Mae cynhadledd eleni yn gyfle i ni fyfyrio ar waith Maxnet yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, ac arddangos ein rhaglenni ymchwil cydweithredol newydd i arbenigwyr catalysis mwyaf blaenllaw'r byd.

"Mae'r gynhadledd yn rhoi'r llwyfan perffaith i ni gryfhau ein cysylltiadau rhagorol gyda Chymdeithas Max Planck, yn ogystal â chadarnhau safle Caerdydd ar flaen y gad ym maes ymchwil catalysis."

Rhannu’r stori hon