Ewch i’r prif gynnwys

Ystyried dyfodol mewn nyrsio iechyd meddwl

22 Rhagfyr 2015

Mental Health

Cwrs wedi'i ariannu gan y Llywodraeth yn ceisio cau'r bwlch mewn gofal iechyd meddwl

Ar drothwy'r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau UCAS ym mis Ionawr, mae Prifysgol Caerdydd yn annog darpar fyfyrwyr sy'n byw yng Nghymru i ystyried dyfodol mewn nyrsio iechyd meddwl.

Amcangyfrifir bod un o bob pedwar o bobl yn dioddef mathau amrywiol o anawsterau iechyd meddwl. Mae'r mathau mwyaf difrifol yn achosi hunan-niweidio a hunanladdiad.

Hunan-niweidio sydd i'w gyfrif am tua 6,000 o achosion mewn unedau achosion brys ledled Cymru bob blwyddyn. Yn ôl y ffigurau diweddaraf, fodd bynnag, cafodd 11,198 o gleifion eu derbyn i gyfleusterau iechyd meddwl yng Nghymru dros gyfnod o 12 mis.

Mae nyrsys iechyd meddwl yn hanfodol er mwyn gwella'r cleifion hyn a gofalu amdanynt. Maent yn gweithio gyda theuluoedd a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i helpu cleifion ymdopi â'u salwch a byw bywyd mwy cadarnhaol.

Fodd bynnag, cyhoeddodd y Coleg Nyrsio Brenhinol yn 2014 fod nifer y nyrsys iechyd meddwl wedi gostwng yn ddramatig ers 2010. Roedd 3,300 o nyrsys wedi gadael yn ystod y cyfnod hwn, gan olygu bod y proffesiwn mewn sefyllfa anodd dros ben.

Mae Prifysgol Caerdydd yn ymateb i'r prinder hwn drwy gynnig gradd arbenigol mewn iechyd meddwl a nyrsio i fyfyrwyr o Gymru. Llywodraeth Cymru sy'n talu ffioedd y cwrs fel rhan o'i hymrwymiad i wella iechyd meddwl a lles pobl yng Nghymru.

"Bydd gofal iechyd meddwl yn wynebu sawl her yn y dyfodol," esboniodd Alex Nute, tiwtor derbyn myfyrwyr o Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd Prifysgol Caerdydd.

"Bydd y rhain yn cynnwys cyflyrau hirdymor, poblogaeth sy'n heneiddio, a darparu gwasanaethau mwy cymunedol y tu allan i ysbytai ar gyfer unigolion a theuluoedd.

"Drwy gofrestru gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (NMC), bydd cyfleoedd gyrfaol amrywiol ar gael ar gyfer ein graddedigion, ac mae 98% ohonynt yn cael swydd ar ôl cwblhau rhaglen nyrsio Prifysgol Caerdydd yn llwyddiannus.

"Gyda Llywodraeth Cymru'n talu'r ffioedd, gobeithiwn annog mwy o bobl i ystyried yr heriau a'r hyn y gall Nyrsio Iechyd Meddwl eu cynnig yn y dyfodol."

Mae Gradd Baglor Nyrsio (BN) tair blynedd Prifysgol Caerdydd, wedi'i hachredu gan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (NMC). Yn rhan o'r radd, rhaid i fyfyrwyr gwblhau 50% o'r rhaglen mewn gweithle clinigol.

Mae'r radd yn cefnogi'r targedau yng 'Nghoncordat Gofal Argyfwng Iechyd Meddwl' Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd yn gynharach y mis hwn.

Mae mwy o wybodaeth am y cwrs a nyrsio iechyd meddwl ar gael yma. Mae'r Coleg Nyrsio Brenhinol wedi cynhyrchu fideo sy'n dangos yr heriau sy'n gysylltiedig â'r alwedigaeth, yn ogystal â'r gwerth a gewch ohono.