Ewch i’r prif gynnwys

Prosiect ysgolion yn taro'r nodau cywir

18 Rhagfyr 2015

Music visit close up

Disgyblion yn recordio albwm gyda myfyrwyr y Brifysgol

Ymwelodd disgyblion o Ysgolion Cyfun Oakdale a Phontllanfraith â Phrifysgol Caerdydd yr wythnos hon i recordio albwm gyda myfyrwyr o Ysgol Cerddoriaeth y Brifysgol.

Mae'r ysgolion a'r Brifysgol wedi bod yn cydweithio ers pedwar mis, a daeth y prosiect i ben pan gynhaliwyd y sesiwn recordio ddydd Mercher, 16 Rhagfyr 2015. Ers mis Medi, mae Alex Davis (sy'n astudio MA mewn Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Caerdydd) a Matthew Poad (a enillodd radd mewn Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Caerdydd) wedi bod yn arwain gweithdai wythnosol gyda'r disgyblion. Maent wedi bod yn eu helpu gydag addasiadau cerddorol a hyfforddi eu perfformiad.

Dywedodd Alex: "Mae pawb wedi cael cyfle i ddysgu yn ystod y broses. Mae wedi bod yn wych gweld y plant yn datblygu eu sgiliau cerddorol yn ystod y tymor, ac maen nhw wedi gwella'n aruthrol! Mae recordio'r caneuon wedi bod yn gymaint o hwyl, ac mae wedi bod yn bleser gweithio gyda nhw."

Recordiodd y disgyblion dair cân:

* Shut Up and Dance (gan Walk the Moon)

* Superstition (gan Stevie Wonder)

* Up (gan Olly Murs gyda Demi Lovato)

Dr Daniel Bickerton, darlithydd yn yr Ysgol Cerddoriaeth, oedd yn rheoli'r prosiect. Bydd y ddwy ysgol a gymerodd ran yn uno cyn bo hir, felly mae'r prosiect hefyd wedi helpu i ddod â disgyblion o ddwy ysgol ynghyd.

Eglurodd Mr Martin Davis, Dirprwy Bennaeth Ysgol Gyfun Oakdale ac Ysgol Uwchradd Islwyn: "Mae Ysgolion Oakdale a Phontllanfraith yn Islwyn ar fin cau a byddant yn symud i ysgol newydd o'r enw Ysgol Uwchradd Islwyn. Mae'r prosiect hwn gyda Phrifysgol Caerdydd wedi dod ar adeg delfrydol i'r ddwy gymuned. Mae lefel yr ymgysylltu gyda'r plant wedi gwella'n aruthrol, ac maen nhw hefyd wedi gwneud ffrindiau o ysgol arall. Rwyf wedi fy rhyfeddu gan ba mor gyflym y mae perfformiad cerddorol y plant wedi gwella ers gweithio gyda'i gilydd.

"Mae athrawon o'r ddwy ysgol a'r myfyrwyr cerddoriaeth ôl-raddedig o Brifysgol Caerdydd wedi cydweithio'n dda â'i gilydd yn ystod y prosiect.  Mae heddiw yn gyfle gwych i'r plant recordio CD mewn stiwdio broffesiynol. Y tymor nesaf, bydd Band Islwyn yn perfformio yng Ngŵyl Ranbarthol Cerddoriaeth i Bobl Ifanc (Music for Youth) yng Nghasnewydd ac yng Nghyngerdd Uchel-Siryf Islwyn yn Theatr Glan yr Afon yng ngwanwyn y flwyddyn nesaf."

Ariannwyd y prosiect cydweithredol hwn gan Dîm Ehangu Mynediad Prifysgol Caerdydd. Nod y tîm yw galluogi myfyrwyr o'r cefndiroedd mwyaf amrywiol i fanteisio i'r eithaf ar eu gallu.

Dywedodd Jamie Greenway, sy'n ddisgybl ym Mlwyddyn 10: "Aeth y sesiwn recordio'n dda iawn, a dwi'n meddwl bod y prosiect cyfan wedi ein helpu i ddod ynghyd fel grŵp. Mae wedi bod yn wych gweithio gyda Matt a Alex, ac maen nhw wedi ein helpu ni i fanteisio'n llawn ar ein sgiliau. Maen nhw'n gwybod faint gallwn ni ei wneud a sut i roi'r ysgogiad yr oedd ei angen arnon ni. Mae wedi bod yn hwb mawr i'n hyder ac mae'n sicr wedi fy helpu i ddod o'm cragen yn gerddorol."

Ychwanegodd Liam Billingsley, sydd hefyd yn ddisgybl ym Mlwyddyn 10: "Rydw i wedi mwynhau dod i Brifysgol Caerdydd i recordio albwm. Dwi hefyd wedi mwynhau gweithio gyda Matt a Alex yn fawr iawn gan eu bod wedi mynd drwy popeth mor fanwl gyda ni. Rydw i'n llawer mwy hyderus ynghylch canu erbyn hyn, ac mae wedi fy helpu i deimlo'n fwy cyfforddus ynghylch canu o flaen pobl eraill. Mae hefyd wedi bod yn wych gweld cynifer o bobl yn cymryd rhan yn y prosiect. Mae bod yn rhan o'r gymuned gerddorol yn yr ysgol yn deimlad braf."

Rhannu’r stori hon